Pob cofnod gan Website Administrator

Cofnodion Cyfarfod Arbennig – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 09/07/26

1215

Cofnodion cyfarfod arbennig o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Iau, Gorffennaf 9fed am 8:00pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Eirwen James(EJ), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ) John Griffiths(JG), Caryl Jones (CJ)

1.Croeso

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP)

Estynnwyd cydymdeimlad â Pat Parry ar golli ei chwaer yn ddiweddar. Cytunwyd i anfon carden ar ran y Cyngor Cymuned.

3. Datganiad o Ddiddordeb

Dim

4. Archwilio Cymru – I dderbyn Datganiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31/03/2026

Cytunwyd i dderbyn y datganiad Blynyddol. Gosod hysbysiad ar fyrddau y Cyngor.

5. Unrhyw fater arall

Derbyniwyd gohebiaeth pellach gan Cadnocomms yn gofyn am gyfarfod gyda’r Cyngor Cymuned. Cytunwyd i ofyn iddynt mynychu ein cyfarfod nesaf.

Bu raid gohirio cyfarfod a Chyngor Cymuned Llangeitho ar ddiwedd Mehefin gan fod Cadeirydd Cyngor Cymuned Llangeitho ar ei wyliau. Ail-drefnwyd y cyfarfod i Nos Lun, Gorffennaf 27ain am 8:00pm yn Llangeitho.

Gyda bingo yn cael ei gynnal yn Ysgol Henry Richard ar nos Lun, Gorffennaf 13eg penderfynwyd ail-drefnu y cyfarfod misol i nos Wener, Gorffennaf 17eg am 7:30pm.

Daeth y cyfarfod i ben am 20:45.

Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 15/06/26

1212

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Mehefin 15fed am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Eirwen James(EJ), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ) PCSO John Evans

1.Croeso

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

John Griffiths(JG) Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP), Caryl Jones (CJ)

3.Materion Personol .

Cydymdeimlo gyda John a Menna Griffiths yn dilyn marwolaeth tad a thad yng nghyfraith.

Cydymdeimlo gyda Pharch Carwyn Arthur ar golli ei fam.

Llongyfarch Sefydliad y Merched Llanddewi-Brefi am ddod yn ail yn y Rali Hâf yn ddiweddar.

Llongyfarch CFFI Llanddewi-Brefi am rali lwyddiannus gyda sawl aelod yn derbyn gwobr 1af, 2il a 3ydd.

Llongyfarch Sêr Dewi ac Ysgol Henry Richard am gynnal twrnamaint Pêl-droed llwyddiannus yn ddiweddar ar y cae pêl-droed. Cyngor Cymuned i anfon e-bost i’r ysgol yn eu llongyfarch am gynnal digwyddiad llwyddiannus.

Llongyfarch Ysgol Henry Richard am wneud mor dda yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Gydag aelod o’r gymuned yn bresennol ac am drafod agweddau o Adroddiad Bioamrywiaeth y Cyngor Cymuned cytunwyd i glywed ei chyflwyniad am Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Cyngor Cymuned gan glywed y gwaith mae gwirfoddolwyr wedi ymgymryd ag e yn barod ac awgrymiadau pellach.

Gyda PCSO John Evans yn bresennol cytunwyd i drafod Adroddiad yr Heddlu nesaf.

8. Adroddiad yr Heddlu

Nid oedd unrhyw ddifrod troseddol, lladrad, ymddygiad anghymdeithasol, trais a thwyll wedi ei gofnodi ers y cyfarfod blaenorol. Atgoffwyd yr aelodau bod ymgyrch yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i fobol rhoi cyllyll i mewn. Yn dilyn cofnod am ddefaid ar y ffordd B4343, roedd y Cyngor Sir wedi cymryd camau gweithredu yn ddiweddar. Cafwyd cwestiwn gan aelod o’r Cyngor ynglŷn â phobol sydd yn parcio cerbydau ar y palmant o amgylch y Pentref. Nodwyd bod bysiau a loriau hir yn cael trafferth i deithio trwy’r Pentref. Gofynnwyd cwestiwn pellach ynglŷn â nifer o fobol sydd yn mynychu’ r syrjeris cymunedol a gynhelir ar ddydd Mercher cyntaf y mis ger y fan Swyddfa Bost yn Hyfrydle. Nododd PCSO John Evans ei fod yn gwneud ymdrech i fynychu Caffi Dewi.

4.Datganiad o ddiddordeb.

Nid oedd unrhyw ddatgan o ddiddordeb ond atgoffwyd y cynghorwyr pe bai rhywbeth yn codi yn ystod y cyfarfod i nodi hyn.

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Mai 11eg 2026

Cynigwyd i gadarnhau’r cofnodion –  DLJ   Eilwyd gan – GJ

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Mai 11eg 2026 – Cynigwyd gan –  GJ   Eilwyd gan – EJ

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Derbyniwyd neges gan Sêr Dewi yn diolch y Cyngor Cymuned am yr e-bost yn ei llongyfarch am ennill Adran 2 y Gynghrair.

1213

9. Adroddiad Ariannol

Roedd y Clerc wedi cysylltu â Banc Barclays er mwyn derbyn llyfr siec newydd. Pan dderbyniwyd y llyfr newydd gwelwyd bod y llyfr siec yn dechrau ar 00321. Er edrych trwy gwpwrdd ffeiliau ar holl ffeiliau eraill a dderbyniwyd wrth drosglwyddo o un clerc i’r llall ni lwyddwyd i ddod i’r llyfr siec gyda’r rhifau 00289 – 00320. Cytunwyd i ddefnyddio’r llyfr siec Newydd gan nodi ni fyddai’n bosib defnyddio y llyfr siec arall gan fod angen dau berson i arwyddo pob siec.

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Mai 31ain 2026

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:

£237.85  Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.

Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £59.20

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £57.54 (Deddf Llywodraeth Leol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19). Nodwyd bydd gostyngiad o £11.18 yn y bil mis nesaf o ganlyniad i gwyn a wnaed am ddiffyg ffôn am wythnos ar ddechrau Mai.  

(ii) Taliadau banc 13/04 – 12/05 – £13.30 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol

      M J Construction – £2520.00

e) Ni dderbyniwyd unrhyw daliadau.

Nodwyd yn sgil paratoi Dogfennau ar gyfer Archwilio Cymru bod y clerc wedi gweithio 15 awr yn ychwanegol. Cytunwyd i dalu 15 awr ychwanegol i’r Clerc. Cynigwyd gan EJ; eilwyd gan DLJ.

Cytunwyd ar gytundeb y lanhawraig ag Ysgrifennydd Claddedigaeth. Clerc i drefnu bod y cytundebau yma yn cael eu harwyddo.  

Derbyniwyd gohebiaeth gan SiopNi CBSC yn gofyn am gyfraniad tuag at gostau argraffu llyfr yn cynnig cyfraniadau Cymunedol. Mewn egwyddor cytunodd y Cyngor i wneud cyfraniad ar yr amod bod SiopNi CSBC wedi prynu’r adeilad. Swm i’w benderfynu mewn cyfarfod arall yn dilyn cadarnhad bod yr adeilad wedi’i brynu.

10. Archwilio Cymru- Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-2026

Gareth Jones wedi cytuno i gynnal archwiliad mewnol ac wedi derbyn y gwaith papur ar Fai 31ain. Yr oedd hefyd wedi derbyn copi o ‘Terms of Reference’ ar gyfer y swydd o gynnal archwiliad mewnol. Cytunwyd i gynnal cyfarfod arbennig ar nos Lun Mehefin 29ain er mwyn pasio’r wybodaeth.

 11.  Gorchymyn Cadw Coed

Derbyniwyd gohebiaeth ac ymweliadau gan drigolion oedd yn poeni am y Gorchymyn Coed ar 2 goeden yn Bridgend House. Roedd y trigolion yn gofidio am gyflwr y coed; bod y wal gerrig yn cael ei wthio allan i’r heol; bod canghennau’r goeden yn blocio golau’r haul gan amharu ar fywyd y bobol i fwynhau eu gerddi ynghyd a lles y trigolion yn poeni beth allai ddigwydd mewn storm neu ddigwyddiad o law trwm. Cytunwyd i ysgrifennu llythyr ar ran y Cyngor Cymuned i’r Cyngor Sir yn datgan ei gwrthwynebiad i’r gorchymyn.

12.  Trafodaeth am adolygiadau ffiniau cymunedol.

Derbyniwyd gohebiaeth bellach gan Gyngor Cymuned Llangeitho a oedd yn awyddus i gynnal cyfarfod ar y cyd. Roeddynt wedi paratoi llythyr i’w gyflwyno i Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion yn amlinellu cwestiynau sydd angen eu hateb cyn i’r ddau gyngor uno. Cytunwyd i gynnig Nos Lun Mehefin 29ain fel dyddiad posib gan gwrdd mewn lleoliad yn Llangeitho am 8:00pm. Clerc i gysylltu â chlerc Llangeitho.

1214

13. Diffibriliwr

Yn dilyn gwaith ymchwil, mae’r Cyngor Cymuned wedi gweld bocs addas i ddisodli’r un sydd wrth y Foelallt Arms. Cytunwyd i brynu bocs Newydd ar gost o £549. Aros i wneud cais i British Heart Foundation cyn prynu un arall. Ceisiadau yn agor ym mis Gorffennaf. Pwynt agenda i’r cyfarfod nesa.

14.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

15. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

  • Un Llais Cymru – Prosiect Argfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau

                             Newyddlen Cyllid Mai 2026

                             Newyddlen Cyllid Mehefin 2026

                             Dyddiadau Hyfforddiant – Mai-Mehefin  2026

                             E Bwletin 24

                             E Bwletin 25

                             Nodiadau Datblygu Ymarfer

  • Cyngor Sir Ceredigion – Bwletin Costau Byw Mai

                 Cronfa Grantiau Bach Cydlyniad Cymunedol 2026/27

  • Heddlu Dyfed Powys – Bwletin CHTh
  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda – Bwrdd Iechyd yn lansio strategaeth hirdymor wedi’i hadfywio

                                           Dweud eich dweud ar wasanaethau fferyllol y dyfodol

                                           Cynllun Gwasanaethau Clinigol – Gwasanaethau Strôc –

                                           Ymgynghoriad Cam 2

  • HAHAV Ceredigio  – Gwahoddiad i’n Diwrnod Agored
  • Cyngor Sir Caerfyrddin-Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (CDLl) 2018-2033
  • Bwletin Mis Mai Cynnal y Cardi
  • EFFAITH – cylchlythyr misol Llais

16. Unrhyw fater Arall

Manylion cyswllt gwefan – wrth glicio ar rif ffôn y clerc ar y gwefan mae’n ffonio tŷ’r Cadeirydd. Clerc wedi datrys y mater yn ystod y cyfarfod. Rhif ffôn yn canu i’r man cywir.

EJ am ddiweddaru ei llun ar y gwefan. Angen lluniau’r Clerc a Chynghorydd Gareth Jones. Gan taw hon fydd flwyddyn olaf o bosib Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi cyn uno a Llangeitho cytunwyd bod angen llun yr aelodau presennol. Cysylltu â Sue Ryder er mwyn gwneud hyn yn ystod yr Hydref.

Cadnocomms yn awyddus i gynnal cyfarfod gyda’r Cyngor Cymuned.

Torri porfa – tyfiant mawr yn y fynwent a nodwyd nad yw pob rhan wedi ei dorri eto. Cytunwyd i’r Clerc a’r Cadeirydd i gwrdd â’r contractiwr er mwyn amlinellu’r gwaith sydd angen ei wneud.

Angen cywiro’r fainc sydd yn Hyfrydle.

Pyst ar gyfer llwybr Pynfarch – pyst ar gael ond angen cysylltu â rhywun i’w gosod.

Cadeirydd wedi bod yn gofyn am amcanbris ar gyfer arwyddion Dim Cŵn ond heb dderbyn cadarnhad o bris eto.

17.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

13/07/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 21:15.

Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Atodiad 1: Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi

Blwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2026

  1. Dyddiad cyhoeddi 29/06/2026
  • Bob blwyddyn mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gweithio ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Mr Sion Jones

Clerc Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi

Awelon, Llanddewi-Brefi, Tregaron, Ceredigion, SY25 6RL

Trwy wneud apwyntiad o flaen llaw trwy e-bost – clerk@llanddewibrefi.org neu ffonio 07870 299370

gan ddechrau                   13 Gorffennaf 2026

ac yn gorffen ar               07 Awst  2026

  • O 14 Medi 2026, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
  • yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
  • yr hawl i fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig i’r cyngor hefyd.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.wales.

Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi lwfansys a gyhoeddwyd – Mawrth 2026

Statement of Payments made to Members of Llanddewi Brefi Community Council for the financial year April 2025 to March 2026

Councillor NameBasic Payment   £156 a year per member   To recognise councillors incur costs to do their role.Responsibility Payment   Up to £500 to be paid to a maximum of 5 members   For their extra work.Chair or Mayor’s Personal Payment.   This excludes any Civic Budget   For their extra work.Deputy Chair or Mayor’s Personal Payment   This excludes any Civic Budget   For their extra work.Financial Loss AllowanceTravel and Subsistence expensesContribution to Costs of Care and Personal Assistance (CPA)   Total reimbursed in the year and NOT payment to each member.OtherTotal
Rhodri Evans£0 £50.00     £50.00
Bethan Griffiths£0        
John Griffiths£0        
Eirwen James£0        
Caryl Jones£0        
Gareth Jones£0        
Dafydd Lloyd-Jones£0        
Pat Parry£0        
          
          
TOTAL£0£0£50.00£0£0£0TOTAL CPA £0£0£50.00

Section 151 of the Local Government Measure 2011, requires Community and Town Councils to publish, within their authority area, theremuneration received by their members by 30 September following the end of the previous financial year. This information must also besent to the Independent Remuneration Panel for Wales by the same date. Nil returns are also required. Please see Annex 4 of the Panel’sannual report for details.

Newid Dyddiad – Agenda Cyfarfod Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 17/07/26

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Wener Gorffennaf 17eg 2026 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Datgan Diddordeb
  5. Cyfranogiad y cyhoedd
  6. Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Mehefin 15fed 2026
  7. Materion yn codi
  8. Adroddiad yr Heddlu
  9. Materion Ariannol
    • Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Mehefin 30ain 2026
    • Awdurdodi taliadau –
      • Staff a thaliadau cyfrinachol
      • Taliadau cylchol – Teleffon a band eang y Neuadd BT
    • Taliadau Banc
    • Taliadau a dderbyniwyd
  10. Archwilio Cymru – Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-26
  11. Newid Ffiniau Cymunedol
  12. Diffibriliwr
  13. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  14. Gohebiaeth
    • Un Llais Cymru
      • Adolygiad Gymunedol Ceredigion
      • E Bwletin Un Llais Cymru Rhif 26
      • Rhifyn 3 ‘Y Llais’
      • Dyddiadau Hyfforddiant – Gorffennaf – Medi 2026
      • Beth mae cynghorau cymuned a thref yn ei gyflawni ledled Cymru
      • Prosiect Argyfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau
    • Cyngor Sir Ceredigion
      • Ymgynghoriad ar Bolisi Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) a Lleihau Arferion Cyfyngol (RRP)
      • Bwletin Costau Byw Mehefin
      • Ceredigion Oed Gyfeillgar
    • Cyngor Sir Gaerfyrddin – Ymgynghoriad ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Drafft
    • Bute Energy – Cofnodion Grŵp Cyswllt Cymunedol Lan Fawr
    • Eisteddfod Llambed 2026
  15. Unrhyw fater arall
  16. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Medi 14eg 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

Agenda Cyfarfod Arbennig Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 29/06/26

Cynhelir Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Mehefin 29ain 2026 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Archwilio Cymru 2025-26 – Datganiad Blynyddol
  5. Unrhyw fater arall
  6. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Gorffennaf 13eg 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 11/05/26

 1209

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Mai 11eg am 8:00pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Caryl Jones (CJ), Eirwen James(EJ), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ)

1.Croeso

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

John Griffiths(JG) Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP), PCSO John Evans

3.Materion Personol .

Llongyfarch clwb pêl-droed Sêr Dewi ar ennill Adran 3 y Gynghrair Pêl-droed ar ddydd Sadwrn Mai 9fed. Dymunwyd pob llwyddiant iddynt yn Adran 2 y tymor nesaf.

Llongyfarch Rhian Griffiths, Gogoyan ar ennill gwobr ‘The Farmers Club Pinnacle Awards for Excellence in Business Management’.

Diolch i bawb sydd wedi bod yn cynorthwyo i gynnal a chadw’r maes chwarae a’r cae pêl-droed.  

4.Datganiad o ddiddordeb.

Nododd Gareth Jones datganiad o ddiddordeb ynglŷn â phwynt 12 rhan 1 o’r cyfarfod.

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Ebrill 13eg 2026

Cynnigwyd i gadarnhau y cofnodion –  CJ   Eilwyd gan – DLJ

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Cam dreiglo – ei penblwydd nid ei benblwydd

Yn dilyn anfon e-bost i Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â phwynt agenda Gorchymyn Cadw Coed arfaethedig yng nghyfarfod Rhagfyr 2025 ar Ebrill 7fed ni dderbyniwyd unrhyw neges bellach.

Ceisiadau Cynllunio ar wefan y Cyngor Cymuned.

Ffôn yn y blwch ffôn ar y sgwâr yn gweithio.  

8. Adroddiad yr Heddlu

Nid oedd PCSO John Evans yn gallu mynychu’r cyfarfod ond yr oedd wedi anfon adroddiad o flaen llaw. Nododd ar 27/04/26 bod yr heddlu wedi derbyn adroddiad gan Goedwigoedd Till Hill bod tân mynydd heb ei reoli yn ardal Llanddewi Brefi i Fynydd Tyn Cornel ar 08/04/26. Nododd Till Hill nad oedd unrhyw ystyriaethau diogelwch tân mewn lle. Lledaenodd y tân i goetir a oedd yn cael ei reoli gan Till Hill gan achosi difrod i goed. Cafodd difrod troseddol ei chofnodi. Ni chofnodwyd unrhyw ladrad pellach ers digwyddiad i swm o olew gael ei gymryd o danc olew.  Nid oedd unrhyw achos o ymddygiad anghymdeithasol, difrod troseddol, trais a thwyll.

Yn dilyn anfon e-bost am ddefaid ar yr heol B4343, roedd yr Heddlu yn parhau i fonitro’r sefyllfa. Hefyd nid oedd yr Heddlu wedi gweld unrhyw blant yn teithio yn gyflym ar sgwteri/beiciau trwy’r Pentref.  

Roedd sawl aelod wedi lawrlwytho ap Dyfed Powys Connects. Trafodwyd bod angen rhoi mwy o rybudd am ddigwyddiadau megis Syrjeri Gymunedol.

1210

9. Adroddiad Ariannol

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Ebrill 30ain 2026

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:

£238.25  Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.

Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £59.20

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £57.54 (Deddf Llywodraeth Leol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19) sy’n gynnydd ers Ebrill 1af 2026

(ii) Taliadau banc 13/03 – 12/04 – £12.70 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol

      Aelodaeth Un Llais Cymru – £149.00

e) Derbyniwyd Rhandaliad 1af Praesept a Grant Mynwent yn ôl Gwariant 2024-25

Angen talu Marc Jones am y gwaith o dynnu gwreiddiau coed y tu ôl i’r cae pêl-droed.

Angen adolygu cytundeb y lanhawraig ag Ysgrifennydd Claddedigaeth.

Pwynt agenda’r cyfarfod nesaf – Oriau Ychwanegol y Clerc i baratoi Dogfennau ar gyfer Archwilio Cymru.

10. Archwilio Cymru- Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-2026

 Roedd y clerc wedi mynychu Hyfforddiant a ddarparwyd gan Un Llais Cymru ar Ebrill 29ain er mwyn derbyn gwybodaeth a chanllawiau Archwiliad Sylfaenol 2025-2026. Aethpwyd trwy gyfrifon y flwyddyn gan gwblhau ffurflen Dychweliad Blynyddol am y flwyddyn yn gorffen Mawrth 31ain 2026  ynghyd â Datganiad Llywodraethu Blynyddol; cwblhau’r llythyr cychwynnol ac egluro’r gwahaniaethau rhwng cyfanswm eleni a’r flwyddyn ddiwethaf. Cytunwyd i ofyn i Gareth Jones i gynnal yr archwiliad mewnol gan gwblhau ffurflen ‘Terms of Reference’ gan Un Llais Cymru cyn ymgymryd â’r dasg.

 11.  Trafodaeth am adolygiadau ffiniau cymunedol.

Mae angen trefnu cyfarfod gyda Chyngor Cymuned Llangeitho er mwyn trafod y camau nesaf. Ond yn gyntaf mae angen edrych ar gyfansoddiad Pwyllgor y Neuadd. I’w gadw fel pwynt i’r agenda nesaf. 

12. Cais Cynllunio A260173 – Land Adj. Llwyndewi,  Llanddewi Brefi, Tregaron, SY25 6RR

Gadawodd Cynghorydd Gareth Jones y cyfarfod. Roedd eisoes wedi cwblhau ffurflen datganiad o ddiddordeb. Edrychwyd ar a thrafodwyd y cynllun arfaethedig. Cynllun Draenio wedi’i gymeradwyo gan  Adran Priffyrdd. Yn dilyn trafodaeth hir penderfynodd y cynghorwyr i nodi’r angen am ganran uwch o dai fforddiadwy yn rhan o’r cynllun.  

Yn dilyn diwedd y drafodaeth, dychwelodd Cynghorydd Gareth Jones i’r cyfarfod.

Cais Cynllunio A260208 – Crug, Llanddewi Brefi, Tregaron, SY25 6PE

Edrychwyd a thrafodwyd cynnwys y cynllun arfaethedig. Mae cynllun yn dod o dan LU09 ond nododd y cynghorwyr nad oedd llawer o adfeilion ar ôl.

13. Diffibriliwr

Nid yw’r Cyngor Cymuned wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach hyd yn hyn.

Penderfynwyd cynnwys y pwynt yma ar agenda’r cyfarfod nesaf.

14.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

1211

15. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

  • Un Llais Cymru – Prosiect Argfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau

                             Newyddlen Cyllid Ebrill 2026 

                             Lansio Adduned Un Llais Cymru ar Cwrteisi a Parch                         

                             E Bwletin 22

                             E Bwletin 23

                             Y Llais – Rhifyn 2

  • Cyngor Sir Ceredigion – Wythnos Ffoaduriaid 2026

                                       Bwletin Costau Byw Ebrill

                                       Ymgynghoriad: Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr

  • Newyddion : CAB Ceredigion Citizens Advice
  • EFFAITH – cylchlythyr misol Llais

16. Unrhyw fater Arall

Derbyniwyd gohebiaeth gan Barc Ynni Lan Fawr yn nodi bod cyfarfod yn cael ei gynnal ar nos Fawrth Mai 12fed yn Neuadd Llanfair Clydogau. Yn anffodus nid oedd unrhyw Gynghorydd yn gallu mynychu’r cyfarfod.

Ar ddydd y cyfarfod, roedd y clerc wedi derbyn gohebiaeth gan Cadnocomms yn gofyn am gyfarfod trwy Teams ar Fai 12fed neu 13eg. Nodwyd nad oedd hyn yn ddigon o rybudd gyda’r clerc i anfon neges iddynt roi dyddiadau pellach er mwyn cynnal cyfarfod.

Baw ci o amgylch y Pentref – angen gosod arwyddion o amgylch y Pentref i atgoffa perchnogion cŵn.

Angen cywiro’r fainc sydd yn Hyfrydle.

Angen edrych ar y faner wrth y fynwent.

Angen gosod y bin Newydd yn y fynwent.

Pyst ar gyfer llwybr Pynfarch – pyst ar gael ond angen cysylltu â rhywun i’w gosod.

17.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

15/06/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 21:35.

Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 11/05/2026

1206

Cofnodion cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Mai 11eg am 7:00pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr: Rhodri Evans(Cadeirydd) , Dafydd Lloyd Jones, Caryl Jones, Gareth Jones, Eirwen James.

I dderbyn ymddiheuriadau

Cynghorwyr: Beth Griffiths, John Griffiths, Pat Parry.

1.Ethol Cadeirydd i’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2026/27.

Etholwyd Cyng. Rhodri Evans yn Gadeirydd y Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2026/27.

Diolchodd Cyng Rhodri Evans i bawb am y cymorth yn ystod y flwyddyn gan edrych ymlaen at gydweithio unwaith eto’r flwyddyn nesaf er mwyn cynorthwyo a gwella seilwaith y gymuned.

Cynigwyd gan: Caryl Jones Eilwyd: Gareth Jones

2.Ethol Is-Gadeirydd I’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2026/27.

Etholwyd Cyng. John Griffiths yn Is-gadeirydd y Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2026/27.

Cynigwyd gan: Caryl Jones Eilwyd: Gareth Jones

3.Derbyn Datganiad derbyn Swydd gan y Cadeirydd.

Arwyddwyd datganiad derbyn swydd gan y Cadeirydd am y flwyddyn 2026-2027.

I gadarnhau cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Cymuned a gynhaliwyd ar Fai 12fed 2025.

Cynigwyd bod y cofnodion yn gywir –  Dafydd Lloyd Jones.   Eilwyd gan Gareth Jones.

Dim materion yn codi.

4. Ystyried a chymeradwyo Adroddiad  Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi 2025/26

Anfonwyd yr adroddiad drafft i aelodau cyn cyfarfod Ebrill. Yn dilyn y clerc yn mynychu Cwrs Un Llais Cymru ar gyfrifon diwedd blwyddyn  cytunwyd i gynnwys manylion pellach o dan adroddiad Archwilio Cymru. 

5.Derbyn Datganiadau ddiddordeb/rhagfarn.

Dim.

6.Apwyntio Pwyllgorau a Gweithgorau:

Pwyllgor Rheoli’r Neuadd.

Cytunwyd bod aelodau presennol o’r Cyngor Cymuned yn aelodau o’r pwyllgor rheoli gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor. Er hyn, gyda newidiadau yn ffiniau cymunedol yn weithredol o fis Mehefin 2027 bydd angen adolygu strwythur y Pwyllgor gyda’r angen i gynnal Cyfarfod Blynyddol yn gynnar yn 2027 cyn bod y newidiadau yn digwydd.

1207

Gweithgor Bioamrywiaeth (Dyletswydd dan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 Adran 6)

Etholwyd Cynghorwyr Rh Evans, G Jones ag E James yn aelodau o’r Pwyllgor. Cytunwyd i ofyn i aelodau o’r gymuned sydd ag arbenigedd a dealltwriaeth o faterion bioamrywiaeth i roi Cyngor a chydweithio a’r Grŵp Bioamrywiaeth. 

7. Apwyntio Cynrychiolwyr.

a. Pwyllgor Ardal Un Llais Cymru.

 Cynghorwyr Rhodri Evans ag Eirwen James i barhau am 2026-2027.

8.Cyfradd ad-dalu.

I adolygu’r canlynol:

a.Lwfans Cadeirydd.

£50 i’w hawlio am 2025-2026. Cafodd Lwfans Cadeirydd 2024-25 ei gyfrannu tuag at elusen Uchelsiryf Dyfed – Ambiwlans Awyr Cymru.

b.Lwfans Aelodau.

Dim wedi ei hawlio am 2025-2026.

Nodwyd bod ffurflen papur ar gael er mwyn hawlio’r lwfans. Hefyd byddai unrhyw aelod sydd am gymryd y lwfans yn cael ei henwi ar gofnodion ariannol y Cyngor Cymuned.

9.Adolygu Cofrestr Asedau Sefydlog.

Darllenodd yr aelodau trwy gynnwys Cofrestr Asedau Sefydlog a chytunwyd i gadw popeth yr un peth.  

10.Adolygu a derbyn Rheolau Sefydlog a Rheoliadau Ariannol.

Darllenodd yr aelodau trwy gynnwys dogfen Rheolau Sefydlog a ddarparwyd gan Un Llais Cymru.  

11.Penderfynu a oes angen adolygu trefn gwyno’r Cyngor Cymuned.

Derbyniodd yr aelodau’r polisi o flaen llaw trwy e-bost. Cytunodd pawb i dderbyn y polisi. Roedd y polisi wedi’i baratoi gan Un Llais Cymru.

12.Adolygu Cofrestr Asesiad Risg y Cyngor Cymuned.

Cytunodd yr aelodau i dderbyn y Gofrestr Asesiad Risg yn dilyn y newidiadau canlynol:

Newid lefel risg methu cwrdd â gofynion Deddf Iaith Gymraeg o Uchel i Isel gan fod pob dogfen a gynhyrchir gan y Cyngor Cymuned yn ddwyieithog.

Cynnwys risg ynglyn a deddfwriaeth Diogelu Data.

13.Adolygu trefniadau Yswiriant y Cyngor.

Cytunodd yr aelodau i dderbyn yr amcanbris a dderbyniwyd yn ddiweddar gan Zurich.

Cynigwyd gan –  Rhodri Evans.   Eilwyd gan Caryl Jones.

14.Adolygu gweithdrefnau a pholisiau’r Cyngor mewn cysylltiad â’i rwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR)

Cytunodd y Cyngor nad oedd angen adolygu’r gweithdrefnau.

15.Adolygu Polisiau Amddiffyn a Diogelu Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi. 

Adolygwyd y polisi yng nghyfarfod Tachwedd. Nid oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.

1208

16.Adolygu Polisi Grantiau’r Cyngor.

 Cytunodd y Cyngor i dderbyn Polisi Grantiau’r Cyngor.

17.Adolygu polisiau cyflogaeth a gweithdrefnau’r Cyngor .

Cytunodd y Cyngor i dderbyn y  polisiau canlynol – Polisi Cydraddoldeb ac Amrywioldeb; Polisi Cwynion a Pholisi Disgyblu.

18.Adolygu gwariant y Cyngor a dynnwyd o dan a.137 o ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

£1715 wedi’i dalu o dan a.137 am y flwyddyn 25/26. Nid oedd yn agos i’r swm a ddynodwyd ar gyfer rhoddion.

19.Adolygu Cynllun Hyfforddiant Statudol.

Adolygodd y Cyngor yr Hyfforddiant a dderbyniwyd yn 2025/26 ar Fioamrywiaeth a Newid Ffiniau Cymunedol. Trafodwyd anghenion Hyfforddiant 2026-27 a nodwyd yr angen am Hyfforddiant ar Fioamrywiaeth; Cyfrifon Diwedd Blwyddyn a newidiadau ffiniau cymunedol. Penderfynodd y Cyngor i dderbyn y Cynllun Hyfforddiant Statudol.

20.Penderfynu amser a lleoliad cyfarfodydd y Cyngor llawn hyd at/gan gynnwys y Cyfarfod Blynyddol y Cyngor llawn nesaf.

Cytunodd y Cyngor i gynnal cyfarfodydd ar yr ail nos Lun o’r mis trwy 2026-27 heb law mis Mehefin gan fod twrnamaint pêl-droed yn cael ei gynnal. O ganlyniad, cynhelir cyfarfod Mehefin ar y trydedd nos Lun sef Mehefin 15fed.

Hefyd cytunwyd i gynnal Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar Fai 10fed 2027 yn neuadd bentref Llanddewi-Brefi.

Agenda Cyfarfod Cyngor Cymuned – 15/06/2026

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Mehefin 15fed 2026 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Datgan Diddordeb
  5. Cyfranogiad y cyhoedd
  6. Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Mai 11eg 2026
  7. Materion yn codi
  8. Adroddiad yr Heddlu
  9. Materion Ariannol
    • Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Mai 31ain 2026
    • Awdurdodi taliadau – Staff a thaliadau cyfrinachol
    • Taliadau cylchol
      • Teleffon a band eang y Neuadd BT
      • Taliadau Banc
    • Taliadau a dderbyniwyd
    • Oriau’r Clerc
    • Ystyried cais am arian gan SiopNi
  10. Archwilio Cymru – Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-26
  11. Gorchymyn Cadw Coed Arfaethedig
  12. Newid Ffiniau Cymunedol
  13. Diffibriliwr
  14. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  15. Gohebiaeth
    • Un Llais Cymru
      • Prosiect Argyfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau
      • Newyddlen Cyllid Mai 2026
      • Newyddlen Cyllid Mehefin 2026
      • Dyddiadau Hyfforddiant – Mai-Mehefin  2026
      • E Bwletin 24
      • E Bwletin 25
      • Nodiadau Datblygu Ymarfer
    • Cyngor Sir Ceredigion
      • Bwletin Costau Byw Mai
      • Cronfa Grantiau Bach Cydlyniad Cymunedol 2026/27
    • Heddlu Dyfed Powys – Bwletin CHTh
    • Bwrdd Iechyd Hywel Dda
      • Bwrdd Iechyd yn lansio strategaeth hirdymor wedi’i hadfywio
      • Dweud eich dweud ar wasanaethau fferyllol y dyfodol
      • Cynllun Gwasanaethau Clinigol – Gwasanaethau Strôc – Ymgynghoriad Cam 2
    • HAHAV Ceredigion  – Gwahoddiad i’n Diwrnod Agored
    • Cyngor Sir Caerfyrddin-Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (CDLl) 2018-2033
    • Bwletin Mis Mai Cynnal y Cardi
    • EFFAITH – cylchlythyr misol Llais
  16. Unrhyw fater arall
  17. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Gorffennaf 13eg 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

Cau Ffordd Dros Dro – A485 Tregaron – 30/06/26 – wedi’i ganslo

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro: 

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys

Cyf:207/26
Rhif y Ffordd
USRN
A485  47100892 https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:e6ce99e1-c010-418d-a012-8cf87718ebfc
Lleoliad: Tregaron   
 Dyddiad ac amser:30/06/2026  09:00-17:00  
 Parhad:Yn ystod y cyfnod dan sylw  
Gwaith:Adnewyddu ffrâm a gorchudd diffygiol yn y ffordd gerbydau 
Ymgeisydd: Go Ahead Traffic Management LTD ar rhan MJ Quinn/BT Openreach
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 13/04/26

 1203

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Ebrill 13eg am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Caryl Jones (CJ), Eirwen James(EJ), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ), John Griffiths(JG) Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP)

1.Croeso

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

PCSO John Evans

3.Materion Personol .

Dymuno penblwydd hapus arbennig i’r Cadeirydd Rhodri Evans, ynghyd a Gareth Jones a oedd yn dathlu ei benblwydd ar ddiwrnod y cyfarfod.

Llongyfarch John a Menna Griffiths ar gael eu henwebu am wobr ar gyfer Safle Gwersylla Orau a Safle Glampio orau.

4.Datganiad o ddiddordeb.

Nododd Gareth Jones datganiad o ddiddordeb ynglŷn â phwynt 15 rhan 3 o’r cyfarfod.

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Mawrth 9fed 2026

Cynnigwyd i gadarnhau y cofnodion –  CJ   Eilwyd gan – GJ

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Roedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn neges bellach gan Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â phwynt agenda Gorchymyn Cadw Coed arfaethedig yng nghyfarfod Rhagfyr 2025. Yr oedd yn gofyn am ymateb i e-bost a ddanfonwyd gan y Swyddog ar Fawrth 3ydd 2026. Clerc wedi anfon e-byst yn ôl gan nodi bod e-bost wedi’i anfon gan y Cyngor Cymuned ar Fawrth 16eg am 06:35. Ni dderbyniwyd unrhyw neges bellach.

Ffurflen Deffibriliwr Newydd wedi’i osod yng nghaban wrth y Foelallt Arms.

Tyllau yn parhau ar yr heol ger mynediad Ystrad Dewi ac ar yr heol wrth Gogoyan.

Cais cynllunio Ochrdewi wedi’i ganiatau.

Nodwyd gan un cynghorydd am yr angen i osod Ceisiadau Cynllunio ar wefan y Cyngor Cymuned.

8. Adroddiad yr Heddlu

Nid oedd PCSO John Evans yn gallu mynychu’r cyfarfod ond yr oedd wedi anfon adroddiad o flaen llaw. Nododd bod un achos o ladrad wedi digwydd yn ardal Llanio gyda swm o olew wedi’i gymryd o danc olew.  Nid oedd unrhyw achos o Ymddygiad anghymdeithasol, difrod troseddol, trais a thwyll.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Tîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed Powys yn ymwybodol o nifer o ymgais twyll cludwr o fewn Dyfed Powys. (Nid yw unrhyw un wedi cael ei adrodd yn ein hardal).Mae preswylydd hŷn newydd golli swm mawr o arian i dwyllwyr yn efelychu heddlu.

Cylchgrawn Tîm Troseddau Economaidd yn nodi Cyngor ar gyfer y pethau canlynol:- Clonio Llais Deallusrwydd Artiffisial;  Ffugio galwadau a Defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn twyll.

Nodwyd bod trigolion y Pentref yn parhau i weld plant yn teithio yn gyflym ar sgwteri/beiciau trwy’r Pentref. Mae’r trigolion yn ofni bod teithio ar fath gyflymder yn mynd i achosi damwain yn fuan.

1204

Hefyd nododd un Cynghorydd ei bod wedi derbyn ymweliad yn y cartref gan unigolyn o’r Pentref yn nodi’r defaid sydd ar yr heol ar y B4343 gan bron ag achosi damwain bws yn ddiweddar ynghyd a nodi eu cyflwr.

Clerc i hysbysu PCSO John Evans.

Nododd un Cynghorydd am fan sydd wedi ei barcio wrth fynedfa cae ar y B4343. Nodwyd ei fod wedi parcio oddi ar yr heol ac er dir preifat. Ar yr un tir mae nifer o hen garafanau. Cytunodd y Cynghorwyr i’r clerc anfon e-bost at Gyngor Tref Tregaron.

9. Adroddiad Ariannol

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Fawrth 31ain 2026

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:

£325.77  Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.

Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £74.34.

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £52.74 (Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19);

(ii) Taliadau banc 13/02 – 12/03 – £15.10 Deddf Llywodraeth Lleol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol – 

Ad dalu y Clerc ar gyfer Krystal Hosting Ltd – £98.39 Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19

Aethpwyd trwy gyllideb 2025-26 gan nodi’r gwahaniaeth rhwng y swm a osodwyd ar hyn a wariwyd gan esbonio gwahaniaethau sylweddol.

10. Diweddariad SiopNi

Roedd cynrychiolwyr o SiopNi yn y cyfarfod. Cafwyd diweddariad o’r ymgynghoriad cymunedol a oedd wedi cymryd lle yn ddiweddar. Mae’r ymgynghoriad wedi cael ei ymestyn i Ebrill 23ain. Roedd 67 o ymatebion wedi’i dderbyn hyd yn hyn. O’r 46 ymateb cyntaf a dderbyniwyd yr oedd yn cynrychioli 108 o fobol gyda chefnogaeth gref i’r cynllun. Nid yw Neuadd yr Eglwys wedi cael ei hysbysebu eto. Gweithgareddau casglu arian i’w gynnal yn fuan gyda chyfraniadau Caffi Dewi yn mynd tuag at y cynllun. Cwis wedi cael ei drefnu ar gyfer dechrau Mai. Mae’r Pwyllgor yn gweithio ar logo i SiopNi. Pwyllgor SiopNi yn gofyn i’r Cyngor Cymuned ysgrifennu llythyr o gefnogaeth i’r cynllun. Clerc i wneud hyn a’i anfon at y Swyddogion.

 11. Awdit Cymru – Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-2026

Bydd Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi yn derbyn archwiliad sylfaenol ar gyfer cyfrifon 2025-2026. Clerc i fynychu Hyfforddiant ar-lein gan Un Llais Cymru ar Ebrill 29ain er mwyn derbyn canllawiau diweddaraf i gwblhau’r broses.

12. Adroddiad Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi 2025-2026

Roedd y clerc wedi paratoi Adroddiad drafft ac wedi anfon copi i’r aelodau o flaen llaw. Er mwyn cwblhau’r adroddiad mae angen derbyn cyfriflenni Banc Ebrill er mwyn cwblhau materion ariannol hyd at 31/03/26.

13. Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028

Roedd yr aelodau wedi derbyn copi o’r cynllun o flaen llaw. Pasiwyd y Cynllun Bioamrywiaeth. Clerc i’w osod ar wefan y Cyngor Cymuned ac anfon copi i Adran Bioamrywiaeth Un Llais Cymru. Roedd y Clerc wedi cysylltu â Swyddog Bioamrywiaeth Un Llais Cymru ar Fawrth 15fed er mwyn derbyn cyngor pellach ar nodweddion i’w gynnwys. Roedd y Swyddog ar wyliau hyd at Ebrill 7fed ac nid oes unrhyw neges arall wedi’i dderbyn. 

14. Trafodaeth am adolygiadau ffiniau cymunedol.

Roedd y Clerc wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Cymuned Llangeitho. Roedd Cyngor Cymuned Llangeitho wedi derbyn e-bost gan Un Llais Cymru yn dilyn cais am gyfarfod pellach gyda’r ddau Gyngor Cymuned i esbonio goblygiadau Newid ffiniau cymunedol. Yn anffodus nid oedd Un Llais Cymru yn gallu

1205

cynnig sesiwn pellach i’r ddau gyngor Cymuned gan ofyn iddynt dderbyn Cyngor gan  Gyngor Sir Ceredigion. Anfon e-bost at Lowri Edwards.

15. Cais Cynllunio – A260107 – Land southwest of Nant y Maes, Tregaron, SY25 6NW

Nid yw’r Cyngor Cymuned fel arfer yn ymateb i’r math yma o gais cynllunio.

Cais Cynllunio – A260055 – Land East of Nant Y Maen, Tregaron, SY25 6NW  

Nid yw’r Cyngor Cymuned fel arfer yn ymateb i’r math yma o gais cynllunio. Er hyn nododd aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol nad oedd y ceisiadau wedi rhoi ystyriaeth i fywyd adar yr Elennydd; nad oedd arolwg mwyn wedi ei wneud nac unrhyw drawseffaith ar iechyd a lles.

Cais Cynllunio A260173 – Land Adj. Llwyndewi,  Llanddewi Brefi, Tregaron, SY25 6RR

Gadawodd Cynghorydd Gareth Jones y cyfarfod. Roedd eisoes wedi cwblhau ffurflen datganiad o ddiddordeb. Edrychwyd ar a thrafodwyd y cynllun arfaethedig. Penderfynodd yr aelodau gohirio wneud unrhyw benderfyniad a’i gynnwys ar agenda’r cyfarfod nesaf. Byddai o fudd i’r Cyngor Cymuned i dderbyn y Cynllun Draenio gan yr  Adran Priffyrdd.

Yn dilyn diwedd y drafodaeth, dychwelodd Cynghorydd Gareth Jones i’r cyfarfod.

16. Diffibriliwr

Nid yw’r Cyngor Cymuned wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach hyd yn hyn.

Penderfynwyd cynnwys y pwynt yma ar agenda’r cyfarfod nesaf.

17.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

18. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

  • Un Llais Cymru – Newyddlen Cyllid Mawrth 2026

                                      E Bwletin Rhif 20

                                     E Bwletin Rhif 21

  • Cyngor Sir Ceredigion – Bwletin Mawrth – Pasg: Teuluoedd, Plant a Phobl Ifanc

                                       Panel Arfarnu Cymru/  Canfyddiadau Cod Ymddygiad yr

                                       Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus

  • Teifi Smart Towns – Ein canllaw newydd i’w lawrlwytho AM DDIM

19. Unrhyw fater Arall

Nodwyd a oedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach yn dilyn deiseb Mynyddoedd y Cambrian.

Angen cywiro’r fainc sydd yn Hyfrydle.

Angen edrych ar y faner wrth y fynwent.

Biniau’r fynwent – atgyweiriwyd y bin cyn Sul y Blodau. Angen bin newydd.

Ffôn y neuadd – Angen gwirio polisi’r ffôn i weld a oes modd gwneud galwadau allan. Hefyd mae angen gosod y rhif ffôn i fyny mewn argyfwng. Hefyd mae angen sicrhau bod y ffôn yn y blwch ffôn yn gweithio.

Pyst ar gyfer llwybr Pynfarch – pyst ar gael ond angen cysylltu â rhywun i’w gosod.

Tîm Gorfodi – Y Cyngor sir wedi ehangu’r staff i’w tîm gorfodi i gynnal ymchwiliadau a sicrhau bod pobol yn cydymffurfio.

20.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

11/05/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 21:00.

Agenda Cyfarfod Cyffredinol Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 11/05/2026

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Mai 11eg 2026 am 8:00yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Datgan Diddordeb
  5. Cyfranogiad y cyhoedd
  6. Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Ebrill 13eg 2026
  7. Materion yn codi
  8. Adroddiad yr Heddlu
  9. Materion Ariannol
    • Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Ebrill 30ain 2026
    • Awdurdodi taliadau – Staff a thaliadau cyfrinachol
    • Taliadau cylchol
      • Teleffon a band eang y Neuadd BT
      • Taliadau Banc
    • Taliadau a dderbyniwyd
      • Rhandaliad 1af Praesept
      • Grant Mynwent yn ôl Gwariant 2024-25
  10. Archwilio Cymru – Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-26
  11. Trafodaeth ynglŷn â newid Ffiniau Cymunedol
  12. Cais Cynllunio –
    • A260173 – Land Adj. Llwyndewi Llanddewi Brefi, Tregaron, SY25 6RR
    • A260208 – Crug, Llanddewi Brefi, SY25 6PE  
  13. Diffibriliwr
  14. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  15. Gohebiaeth
    • Un Llais Cymru –
      • Prosiect Argfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau
      • Newyddlen Cyllid Ebrill 2026 
      • Lansio Adduned Un Llais Cymru ar Cwrteisi a Parch                         
      • E Bwletin 22
      • E Bwletin 23
      • Y Llais – Rhifyn 2
    • Cyngor Sir Ceredigion
      • Wythnos Ffoaduriaid 2026
      • Bwletin Costau Byw Ebrill
      • Ymgynghoriad: Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr
    • Newyddion : CAB Ceredigion Citizens Advice
    • EFFAITH – cylchlythyr misol Llais
  16. Unrhyw fater arall
  17. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Mehefin 8fed 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org