Atodiad 1: Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi
Blwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2026
- Dyddiad cyhoeddi 29/06/2026
- Bob blwyddyn mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gweithio ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Mr Sion Jones
Clerc Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi
Awelon, Llanddewi-Brefi, Tregaron, Ceredigion, SY25 6RL
Trwy wneud apwyntiad o flaen llaw trwy e-bost – clerk@llanddewibrefi.org neu ffonio 07870 299370
gan ddechrau 13 Gorffennaf 2026
ac yn gorffen ar 07 Awst 2026
- O 14 Medi 2026, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
- yr hawl i fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig i’r cyngor hefyd.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.wales.
Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
This page is also available in: English