Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Hydref 12fed am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.
Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.
Presennol:
Cynghorwyr : Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), John Griffiths(JG)(Is-gadeirydd), Caryl Jones (CJ)
Eirwen James(EJ), Pat Parry(PP), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ)
1.Croeso
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
2. I dderbyn ymddiheuriadau.
Beth Griffiths (BG), PCSO John Evans
3.Materion Personol .
Cydymdeimlo â John Griffiths a’r teulu yn dilyn colli cyfnither yn ddiweddar.
Llongyfarch Caffi Dewi ar ddathlu ei drydedd flynedd o fodolaeth ar ddechrau mis Hydref.
4.Datganiad o ddiddordeb.
RE, CJ a JG yn datgan diddordeb ar gyfer pwynt 10 – Ystyried cais am arian tuag at Noson Tân Gwyllt CFFI Llanddewi-Brefi
5.Cyfranogiad y Cyhoedd.
Redd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Medi 14eg 2026
Cynigwyd i gadarnhau’r cofnodion – DLJ Eilwyd gan – JG
7.Materion yn codi o’r cofnodion.
Angen ymchwilio a oes tyllau wrth Pant Villa.
Pyst llwybr Pynfarch – gwaith i’w gwblhau.
Pwynt 9f – Roedd Cyfarfod Rheoli Perfformiad y Clerc wedi cymryd lle gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd. Nodwyd bod y Cyngor Cymuned yn gwerthfawrogi’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn. Nododd y clerc yn ystod y cyfarfod taw’r prif ofid ar hyn o bryd yw goblygiadau newid ffiniau cymunedol. Cytunwyd bod yr oriau a osodir yn iawn ar gyfer cynnal un cyfarfod misol, ond ar adegau, os bod cyfarfod yn digwydd mwy nag unwaith mewn mis i’r clerc hawlio’r oriau ychwanegol. Cytunwyd yn unfrydol gan yr aelodau i gytuno i argymhellion y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i godi un pwynt tâl y clerc o Hydref 1af 2026. Nododd un aelod wrth ystyried y posibilrwydd o newid ffiniau yn y dyfodol agos a sicrhau tegwch rhwng y ddau glerc presennol a fyddai modd erbyn gwybodaeth am bwynt tâl Clerc Llangeitho. RE i ofyn a oes modd dderbyn y wybodaeth.
Nododd Aelod o’r Cyngor Cymuned a oedd tâl y lanhawraig yn cwrdd â’r gofynion presennol. Nododd y Clerc bod tâl yr awr y lanhawraig yn uwch na chyflog byw cenedlaethol.
Pwynt 12 – nodwyd bod cynnig a chafodd ei newid ychydig wedi mynd ger bron y Cyngor Sir ar Fedi 24ain gan grŵp Annibynnol y Cyngor a chytunodd y Cyngor Sir i ysgrifennu llythyr i weld a fyddai modd oedi’r broses.
Roedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn e-bost gan yr Adran Etholiadol ynglŷn â’r ddwy sedd wag ar y Cyngor Cymuned. Er yr awydd i ethol pobol i’r ddwy sedd yr oedd yr aelodau am dderbyn amserlen o’r camau penodol cyn gwneud penderfyniad o feddwl am y Newid ffiniau sydd ar y gweill ym mis Mai 2027.
Clerc y Fynwent wedi arwyddo ei chytundeb gan adlewyrchu’r newid yn nhâl yr awr yn sgil cytuno i Setliad Blynyddol 2026.
1224
8. Adroddiad yr Heddlu
Nid oedd PCSO John Evans yn bresennol yn y cyfarfod ond yr oedd wedi anfon adroddiad ysgrifenedig o flaen llaw. Ers y cyfarfod blaenorol nodwyd nad oedd unrhyw achos o Ymddygiad anghymdeithasol, lladrad na difrod troseddol. Er hyn roedd un achos o drais, pryd ymatebodd yr Heddlu i ddigwyddiad
domestig lle cafodd dwy fenyw ifanc eu harestio am ymosodiad a difrod troseddol. Mae’r ymchwiliad hwn yn parhau. Nodwyd bod un achos arall o dwyll wedi digwydd yn ardal Llangeitho lle derbyniodd yr Heddlu adroddiad gan HSBC yn codi pryder o dan y Protocol Bancio ynghylch un o’u cwsmeriaid. Roedd y cwsmer, sydd wedi bod yn destun twyll blaenorol (Twyll Buddsoddi a Chynllun Adfer), wedi ceisio anfon swm mawr o arian i’r sawl yr oeddent yn amau twyll. Cafodd y taliad ei wrthod ac fe ymwelodd Heddlu Cymunedol i gael mwy o wybodaeth a rhoi cyngor diogelu. Yn dilyn cwestiynau ynglŷn â phobol ifanc ar feiciau yn teithio trwy’r Pentref heb unrhyw ymwybyddiaeth o ofynion defnyddwyr eraill yr heol nodwyd bod preswylydd lleol a’i fab ifanc wedi cael ymweliad a bod pryderon lleol wedi cael eu tynnu sylw atynt. Cafodd y gyfraith ynghylch defnyddio beiciau trydan a modelau eraill a gyrrir gan drydan ar y ffyrdd ei drafod.
Nodwyd ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb ac mae tîm heddlu ardal yn cynnal gweithgareddau ac ymweliadau i gefnogi hyn. Mae Cymorth i Droseddwyr yn asiantaeth arweiniol ar gyfer cefnogi dioddefwyr troseddau casineb.
Nododd un aelod o’r Cyngor Cymuned ei siom nad oedd yr heddlu Cymuned yn fwy gweladwy yn dilyn y digwyddiad o drais a nodwyd yn yr adroddiad. Roedd sawl person yn dyst i’r digwyddiad ac wedi cael ofn. Teimlai y byddai wedi bod o fudd pe bai’r Swyddog Cymunedol wedi ymweld â chartrefi cyfagos gan ei sicrhau bod yr heddlu yn cymryd y mater o ddifrif ac am siarad ag aelodau o’r gymuned. Yn hytrach, roedd y Swyddog yn ymweld â’r Swyddfa Bost a busnesau lleol eraill. Penderfynwyd anfon llythyr yn nodi siom y Cyngor Cymuned nad oedd y Swyddog Cymunedol wedi bod yn fwy gweladwy o fewn y Pentref yn ei rôl fel Swyddog i dawelu meddyliau’r gymuned. Gan ein bod wedi colli presenoldeb yr heddlu o fewn ein pentrefi mae gan y Swyddog Cymunedol rôl bwysig i’w gyflawni.
Nododd un Aelod o’r Cyngor Cymuned bod ceir yn parhau i deithio ar gyflymder trwy’r Pentref yn y nos.
Nododd un Aelod arall bod digwydd o ‘Hare Coursing’ wedi digwydd ar Fedi 24ain lle’r oedd y gatiau wedi cael ei agor. Nid oedd y gatiau ar agor a 9:30pm ond erbyn 11:10pm yr oeddynt ar agor. Y clerc i anfon y wybodaeth ymlaen i’r Swyddog Cymunedol.
9. Cyflwyniad Tir Natur
Derbyniwyd cyflwyniad ar-lein gan Lowri Vaughan o ‘Tir Natur’ a oedd yn amlinellu ei phrosiect yng nghwm Doethie wrth ymyl mynyddoedd y Cambrian. Esboniodd amcanion y prosiect ynghyd a rhestru’r effaith ar fyd natur. Ar ddiwedd y cyflwyniad cafodd aelodau o’r Cyngor Cymuned ac Aelodau o’r gymuned cyfle i ofyn cwestiynau. Cafwyd gwahoddiad ganddi i’r Cyngor Cymuned i ymweld â’r safle er mwyn gweld y gwaith sy’n cymryd lle. Nododd y Cadeirydd y byddai gan y Cyngor ddiddordeb i ymweld ond i wneud hynny yn y Gwanwyn pan fydd y tywydd wedi gwella. Cytunwyd hefyd i anfon copi o’r pwerbwynt i aelodau o’r Cyngor Cymuned.
10. Adroddiad Ariannol
a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Fedi 30ain 2026
b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:
£276.85 Cyflog Staff Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.
Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £69.20
c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £57.54 (Deddf Llywodraeth Leol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19).
(ii) Taliadau banc 13/08 – 13/09 – £10.30 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a.111
d) Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol:
London Hearts – Diffibriliwr – £2,299.20
M.E. James Ad-daliad Norton Security – £89.99
Argraffwyr Lewis & Hughes – £124.80
Bydd ffi Flynyddol ICO yn mynd allan ar Dachwedd 5ed trwy daliad uniongyrchol – £47.00
1225
Roedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn anfoneb ar gyfer torri porfa. Roedd y clerc wedi cerdded o amgylch y llwybrau i sicrhau bod y gwaith wedi’i gwblhau. Nodwyd nad oedd y coed ar lwybr Pynfarch wedi ei dorri na’r borfa y tu ôl i’r cae pêl-droed. Nodwyd bod RE wedi siarad ag un o weithwyr y contractiwr i’w hatgoffa bod angen torri y profa. Darllenwyd trwy’r rhaglen waith i sicrhau bod y cytundeb yn gywir a’i fod yn nodi bod angen torri’r borfa y tu ôl i’r cae pêl-droed. RE i siarad â’r contractiwr cyn ei dalu.
e) Ni dderbyniwyd unrhyw taliadau.
f) Ystyried cais am arian tuag at Noson Tân Gwyllt CFFI Llanddewi-Brefi – Roedd RE, CJ a JG wedi cwblhau ffurflen Datganiad o ddiddordeb gan adael yr ystafell ar y pwynt yma. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â’r cais gydag un Aelod o’r Cyngor yn gofyn a oedd modd cael tân gwyllt tawel yn sgil yr ofn y mae yn ei roi i anifeiliaid anwes. Cafwyd cynnig i roi’r un faint a’r flwyddyn flaenorol £800 a chynnig arall i roi £900. Nododd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yr angen i fonitro sefyllfa ariannol y Cyngor yn agos iawn a bod yn ofalus wrth roi allan arian i gymdeithasau amrywiol. Yn dilyn pleidlais cytunwyd i roi £800 tuag at yr achos. Dychwelodd RE, CJ a JG yn ôl i’r ystafell.
11. Hysbysiad Cwblhau Archwiliad 2025-26 – Archwiliad Cymru
Derbyniwyd e-bost gan Archwilio Cymru yn nodi ei bod wedi cwblhau archwilio cyfrifon Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi. Nodwyd bod y Cyngor wedi derbyn barn archwilio: a chyfyngiad
Ac eithrio’r materion a gofnodwyd isod nid oedd unrhyw faterion wedi dod i sylw Archwilio Cymru i roi achos i boeni mai, mewn unrhyw ffordd sylweddol, y wybodaeth a adroddwyd yn yr Adroddiad Blynyddol hwn:
• nad yw wedi’i baratoi yn unol â arferion priodol;
• nad yw’r gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol wedi’u cwrdd;
• nid yw’n gyson â threfniadau llywodraethu’r Cyngor; ac
• nad yw gan y Cyngor drefniadau priodol mewn lle i sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn y defnydd o’i adnoddau.
Yn barn Archwilio Cymru, nid yw Datganiad Llywodraethiant Blynyddol yn cyd-fynd â rheolaethau mewnol a trefniadau llywodraethu’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn:
• Honiad 4: Roedd Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn mynnu i Swyddog Ariannol Priodol a’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon erbyn 30 Mehefin 2026 neu gyhoeddi hysbysiad i egluro pam nad oedd y cyfrifon wedi’u cymeradwyo. Nid oedd y Cyngor wedi cymeradwyo’r cyfrifon erbyn 30 Mehefin ac nid oedd wedi cyhoeddi’r hysbysiad gofynnol.
• Honiad 4: Nid yw’r Cyngor wedi darparu tystiolaeth ei fod wedi cyfrifo ei ofynion cyllideb yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac nad yw’r blaenoriaeth wedi’i gosod yn unol â’r gyllideb.
• Honiad 7: Mae Rheoliad 7 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn mynnu i’r Cyngor gynnal system archwilio mewnol ddigonol ac effeithiol o’i gofnodion cyfrifegol a’i system reoli mewnol. Nid yw’r Cyngor wedi darparu adroddiad gan yr Archwilydd Mewnol.
Cytunwyd I osod Hysbysiad am gwblhau archwiliad ac am yr hawl I arolygu’r cofnod Blynyddol am y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026 yn hysbysfwrdd y Cyngor Cymuned gyda’r hawl I etholwyr wneud apwyntiad I weld y cyfrifon gyda’r Clerc rhwng Hydref 19eg a Thachwedd 2il. Nodwydn a ddylai’r clerc gwrdd ag etholwyr ar ben ei hun ond yn hytrach gydag Aelod arall o’r Cyngor Cymuned. Cytunwyd codi tal o £1.00 am argraffu y cyfrifon.
12. Trafodaeth am newidiadau ffiniau cymunedol.
Oherwydd diffyg yn y nifer o Gynghorwyr Cymuned Llangeitho a oedd yn gallu mynychu bu raid gohirio Cyfarfod Nos Lun, Medi 21ain. Nid oes yna ddyddiad arall wedi ei benodi eto. Fel y nodwyd yn faenorol cafodd cynnig ei roi gerbron y Cyngor Sir a chytunwyd i ysgrifennu llythyr i oedi’r broses.
13. Canllawiau Argyfwng Tywydd Garw
Trafodwyd prosesau hysbysu trigolion bod y neuadd ar agor mewn argyfwng tywydd garw. Cytunwyd i greu poster o flaen llaw yn hysbysu pobol y bydd y neuadd ar agor mewn agos o dywydd stormus lle bydd amhariad ar drydan. Trafodwyd yr angen i dderbyn swits i gysylltu ‘generator’. Mae’r Cwmni Trydan yn
1226
ymwybodol bod y neuadd ar restr flaenoriaeth. Ar hyn o bryd nodwyd bod y cwmni trydan lleol am greu canolfan yn Nhregaron. Nodwyd yr angen i sicrhau bod yr un peth yn digwydd yn Llanddewi-Brefi.
14.Diffibriliwr
Cytunwyd i barhau i brynu’r ddau diffribiliwr i’r pentref.
15. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.
16. Sul y Cofio
Dydd Sul y cofio ar ddydd Sul, Tachwedd 8fed. Gwasanaeth yn Eglwys Dewi Sant am 10:00am gyda gwasanaeth wrth y gofgolofn am 10:50am. Heather Collins wedi prynu blodau i addurno o amgylch y gofgolofn. Angen trefnu amser i lanhau o amgylch y gofgolofn. Angen sicrhau bod y rhestr o enwau ar gael a bod system sain i chwarae’r ‘Last Post’.
17. Gweithgareddau’r Nadolig
Cinio Nadolig y Cyngor Cymuned ar Nos Sadwrn, Rhagfyr 12fed – Clwb Rygbi Tregaron
Taith Tractor wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn, Rhagfyr 19eg.
18. Gohebiaeth
Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-
- Cyhoeddiad o’r Adroddiad Blynyddol Drafft ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2026–27
- Cyngor Sir Ceredigion Panel Arfarnu Cymru/ Canfyddiadau Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau CyhoeddusArolwg Gofal Plant i Rieni a Gofalwyr Gwasanaethau clirio eira atodol
- Un Llais Cymru Newidiadau i drefniadau llywodraethu a Phwyllgor Gweithredol CenedlaetholE-Bwletin Un Llais Cymru Rhif 30 / 31
- Pwyllgor Ardal Ceredigion 22.9.26
- EFFAITH – cylchlythyr misol Llais
- Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru – Arolwg 2030
- Pontio Gwyrdd yng Ngheredigion
Trafodwyd cynnwys Canfyddiadau Cod Ymddygiad yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus.
19. Unrhyw fater Arall
Fferm Lletytwppa – yn dilyn adroddiadau diweddar nododd sawl Cynghorydd ei siom yn yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yn enwedig gyda’r newyddion taw dim ond 2 neu 3 myfyriwr sydd wedi ei gofrestru i’r cyrsiau. Nodwyd bod Ysgol Henry Richard wedi colli ei Chweched ac yn y gorffennol nodwyd gan swyddogion addysg nad oedd hawl gan Ysgol Uwchradd Tregaron gynnig cyrsiau Lefel A lle nad oedd 4 neu fwy yn ei astudio – felly sut mae cyrsiau ar fferm lletytwppa yn parhau ?
Cynghorydd wedi siarad â Richard Elliott ynglŷn â choeden Nadolig i’r pentref.
Sticil yn Dolgam wedi torri – cysylltu trwy Clic i adrodd hyn.
Pont ger Ystrad Llanio sy’n llwybr Cyhoeddus mewn cyflwr gwael.
Derbyniwyd Diweddariad gan Siop Ni gyda’r arwerthwr wedi nodi bydd penderfyniad am y cynnig yn cael ei derbyn yn ystod yr wythnos yn dechrau Hydref 26ain. Pe bai’r cynnig yn llwyddiannus yna mae’r gwaith papur mewn lle yn barod i lansio’r cyfranddaliadau Cyhoeddus. Nodwyd bod noson Tân Gwyllt yn noson addas i lansio’r cyfan.
19.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
09/11/2026
Daeth y cyfarfod i ben am 21:40
This page is also available in: English