Mae Diffibrilydd Awtomatig ar wal Tafarn y Foelallt, Llanddewi Brefi, ar bwys y ciosg teliffon ar sgwar y pentre, gyferbyn â Siop Brefi. Mae i’w ddefnyddio gan y cyhoeddos bydd rhywun yn cael trawiad ar y galon. Mae defnyddio diffibrilydd ar berson o fewn 5 munud iddo/iddi golapsio yn cynyddu’r siawns o oroesi, ac anaml y gall ambiwlans mewn ardaloedd gwledig ymateb o fewn yr un amser.
Gallwch ddefnyddio diffibrilydd er mwyn rhoi sioc drydanol i berson sydd â’i galon wedi peidio curo yn effeithiol ac nad yw’n anadlu, er mwyn ceisio adfer curo rheolaidd, normal y galon. Mae’r uned yn asesu rhyddm y galon ac mae’n ddiogel ei ddefnyddio hyd yn oed heb hyfforddiant gan na fydd yn rhoi sioc i glaf onibai fod ei angen ac mae’n ‘siarad â chi’ drwy’r broses.
Gwnaeth Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi, gyda chymorth Dr. Siôn James, Meddygfa Tregaron, gais i Sefydliad Prydeinig y Galon am becyn cymunedol wedi ei ariannu yn rhannol, sy’n cynnwys pecyn hyfforddi ar gyfer dadebru’r galon (CPR) a diffibrilydd. Talwyd am weddill y pecyn a’r cabinet allanol gan gyfraniadau lleol ac arian a godwyd gan SyM a CFFI Llanddewi Brefi. Gosodwyd y cabinet gan drynanwr lleol, Adam Southwood-Martin, a hyfforddwyd aelodau’r gymuned gan Gerard Rothwell, Rheolwr Cynllun Diffibrilydd Cyhoeddus y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru. Digwyddodd hyn mewn digwyddiad cyhoeddus ar y noson gyflwyno gyda chynrychiolwyr o Sefydliad Prydeinig y Galon yn bresennol.
Mae Pwyllgor Annibynnol yn cynnal profion wythnosol ac yn cadw gorolwg ar anghenion cynnal a chadw’r uned. Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi sy’n gyfrifol am y gronfa ariannol. Nawr ac yn y man cyhelir digwyddiadau hyfforddi yn y Ganolfan Gymuned. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r cynrychiolydd ar ran y Cyngor Cymuned, y Cyng. Eirwen James.
Islaw mae dolenni i’ch hyfforddi sut i ddefnyddio diffibrilydd, proses dadebru’r galon (CPR) a chyngor gan Urdd Sant Ioan:
- Lawrlwythwch ganllaw cyfeirio cyflym
- Fideo – Sut i sefydlu a defnyddio’r diffibrilydd
- Fideo – Gwiriadau wythnosol ar y diffibrilydd
Map Lleoliad
This page is also available in: English