Lleolir y maes parcio ger canol y pentref rhwng yr Eglwys a Neuadd y Pentref. Mae bwrdd gwybodaeth gerllaw sy’n amlinellu ychydig fanylion am hanes y pentref. Lleoliad banc ailgylchu gwydr y pentref.
Mae toiledau cyhoeddus ddim pell o sgwar y pentref oddi ar y B4343, i’r dde o sgwar y pentref.
Polisi Maes Parcio’r Gymuned
- Maes Parcio Cymunedol yw hwn, er lles y trigolion i gyd ac ymwelwyr â’r pentref.
- Mae’r cyfleuster yn gymorth i gadw heolydd cul y pentref hanesyddol hwn yn glir a diogel.
- Peidiwch â pharcio loriau mawr na threlyrs yn y maes parcio gan ei fod yn gymharol fach ac nad yw’n addas ar gyfer cerbydau heblaw ceir a faniau bach.
- Maes parcio ar gyfer defnydd tymor byr yn unig yw hwn, peidiwch â chamddefnyddio’r cyfleuster os gwelwch yn dda.
- Cynlluniwyd y polisi hwn i ganiatau mynediad teg i’r holl ddefnyddwyr.
Map Lleoliad
This page is also available in: English