Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 14/09/26

1219

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Medi 14eg am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  John Griffiths(JG)(Is-Gadeirydd), Eirwen James(EJ), Pat Parry(PP), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ) PCSO John Evans, Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE),

1.Croeso

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan yr Is-gadeirydd John Griffiths gan dderbyniwyd neges bod y Cadeirydd yn mynychu Cwrdd Diolchgarwch ac yn ymuno a’r cyfarfod yn hwyrach.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

Beth Griffiths (BG), Caryl Jones (CJ)

3.Materion Personol .

Llongyfarch John a Menna Griffiths am ennill y brif wobr am wersylla a’r gil wobr am y glampio yng Ngwobrau Busnes ‘Goreuon Cymru’.

Estyn cydymdeimlad â Pat Parry ar farwolaeth ei chwaer yn Ne Cymru.

Llongyfarch ieuenctid y pentref ar eu llwyddiant yn arholiadau TGAU a Safon A gan ddymuno’n dda iddynt i’r dyfodol.

Dymuno penblwydd hapus 18 oed i Daniel Evans, Llanio Fawr.

Llongyfarch Pwyllgor y Sioe ar sioe lwyddiannus a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn, Awst 22ain.

4.Datganiad o ddiddordeb.

Nid oedd unrhyw ddatgan o ddiddordeb ond atgoffwyd y cynghorwyr pe bai rhywbeth yn codi yn ystod y cyfarfod i nodi hyn.

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Gorffennaf 17eg 2026

Cynigwyd i gadarnhau’r cofnodion –  EJ   Eilwyd gan – JG

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Gwaith papur wedi ei anfon i Archwilio Cymru.

Anfoneb BT ar gyfer mis Mai wedi’i ddatrys gyda gostyngiad yn anfoneb Gorffennaf.

Mainc Hyfrydle wedi’i gywiro.

Baner newydd wedi’i osod

Pyst llwybr Pynfarch – gwaith i’w gwblhau ond person wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith.

Dau gar a oedd wedi parcio yn y maes parcio am fisoedd heb dreth na MOT wedi symud yn dilyn gosod llythyron ar ffenestri’r ceir.

Tyllau yn yr heol wedi’i gywiro ar bwys mynedfa Ystrad Dewi ac ar yr heol rhwng Gogoyan a Glanrhocca. Angen ymchwilio a oes tyllau wrth Pant Villa.

Ffurflen Gais Caru’ch Cymuned wedi ei gwblhau a’i anfon i’r adran berthnasol.

Roedd Cynrychiolydd o Cadnocomms wedi cytuno i gyfarfod ag aelodau o’r Cyngor yng nghyfarfod Medi ond ar Fedi 4ydd dderbyniwyd e-bost ganddynt yn nodi nad oeddynt mewn sefyllfa i gynnal trafodaeth â’r Cyngor Cymuned a byddant yn cysylltu â’r Cyngor pan fydd ganddynt fwy o wybodaeth.

Nid yw’r borfa wedi’i dorri yng nghefn y cae pêl-droed fel y nodwyd yn y cytundeb ag arwyddwyd ar gyfer y gwaith. Y Cadeirydd a’r clerc i asesu’r gwaith a wnaed gan gwrdd â’r contractiwr.

Nid oedd PCSO John Evans wedi cyrraedd eto felly penderfynwyd symud ymlaen i bwynt 9 o’r agenda.

1220

9. Adroddiad Ariannol

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Awst 31ain 2026

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:

£475.90  (Cyflogau Gorffennaf ac Awst) Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.

Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £59.40

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £57.54 (Deddf Llywodraeth Leol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19).

(ii) Taliadau banc 13/07 – 12/08 – £15.10 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol:

      Treuliau’r Clerc (Stampiau, cost postio ac inc) £38.28

e) Derbyniwyd taliadau gan:- TE & ME Jones £1740.00; Cyngor Sir Ceredigion – ail ran daliad Praesept £6000.00; Wayleave £14.77 a BT £4.80.

f) Setliad Cyflog Blynyddol 2026-27 – Cyngor Cenedlaethol y Cynghorau Lleol – darllenwyd trwy’r ddogfen a ddarparwyd trwy Un Llais Cymru gan gymeradwyo’r cynnydd tâl ynghyd a’i ddyddio yn ôl i Ebrill 1af. Nododd un Aelod o’r Cyngor Cymuned pam fod gwahaniaeth ym mhwynt talu’r Clerc a Chlerc y Fynwent. Cytunwyd y dylai’r Clerc cyfarfod gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd er mwyn cynnal cyfarfod adolygu staff gan fod y clerc wedi bod mewn swydd am flwyddyn.

O ganlyniad i’r newid yma bydd angen newid cytundeb y Clerc a Chlerc y Fynwent.

Yn ogystal derbyniwyd  canllawiau Rheoliadau Caffael a darllenwyd trwy’r wybodaeth.

10. Rheolau Sefydlog Enghreifftiol 2026

Ar ddechrau Medi, roedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn canllawiau Rheolau Sefydlog Enghreifftiol 2026 gan Un Llais Cymru.  Mireiniwyd y canllawiau wrth ei ddarllen gan ychwanegu gwybodaeth a oedd yn berthnasol i Gyngor Cymuned Llanddewi-Brefi. Cynigwyd i gadarnhau’r cofnodion –  DLJ   Eilwyd gan – EJ

Roedd PCSO John Evans wedi cyrraedd ac aethpwyd yn ôl i bwynt 8 o’r agenda.

8. Adroddiad yr Heddlu

Dros fisoedd yr hâf roedd un achos o ladrad o gerbyd gyda’r achos dal ar agor. Yn ystod Gorffennaf ac Awst derbyniwyd adroddiadau o ‘courier scams’  lle’r oedd rhywun ar y llinell ffôn yn dweud bod angen iddynt basio ymlaen manylion banc neu roedd y person ar y ffôn yn esgus bod yn swyddog Heddlu o Heddlu Metropolitan. Nodwyd un achos o drefn Gyhoeddus lle’r oedd dau barti gwahanol wedi anghytuno yn dilyn cynnig am nwyddau ar wefan . Nid oedd unrhyw ddifrod troseddol, lladrad, ymddygiad anghymdeithasol, trais a thwyll wedi ei gofnodi ers y cyfarfod blaenorol.

Yn dilyn consyrn a godwyd yn y cyfarfod blaenorol ynglŷn â beicau a sgwteri yn teithio trwy’r pentref ar gyflymder gan roi defnyddiwr eraill yr heol mewn peryg, nodwyd bod sawl patrôl wedi cymryd lle dros yr hâf gyda sawl patrôl yn digwydd mewn un dydd ar adegau, a dim ond unwaith y gwelwyd plant yn teithio ar feiciau ond nid oeddynt yn gwneud unrhyw beth i beri gofid. Nodwyd gan aelod o’r Cyngor Cymuned bod aelod o’r cyhoedd bron a chael ei bwrw i lawr wrth adael tafarn gan wrth iddo agor y drws a chamu allan, daeth beic yn sydyn i lawr y palmant. Maent yn defnyddio’r palmant fel ramp. Gofynnwyd a fyddai modd i Swyddog Diogelwch yr Heol i ymweld â’r ysgolion lleol.

Hefyd, yn dilyn y cyfarfod blaenorol pryd nodwyd bod ceir yn parcio ar balmentydd, nodwyd bod yr heddlu yn monitro’r sefyllfa. Nodwyd gan nad yw’r palmant wrth ardd y Foelallt Arms yn mynd i unman ar bwys Graigwen nid yw o rwystr i gerddwyr.

Nododd un Cynghorydd o’r Cyngor Cymuned y broblem o geir yn mynd trwy’r pentref ar gyflymder rhwng 9:00 a 11:00 yr hwyr. Nid oedd unrhyw fanylion gan y Cynghorydd o’r car ond roedd wedi digwydd ar fwy nag un achlysur.  

1221

 11. Cais Cynllunio – A260422 Land Northwest of Nantgwernog approximately 8.5km east o Llanddewi-Brefi

Edrychwyd trwy’r dogfennau perthnasol. Nid yw’r Cyngor yn ymateb i’r math yma o gais cynllunio.

Cais Cynllunio A260428 – Land South of Lan Fawr, approximately 6km south-east of Llanddewi-Brefi

Edrychwyd trwy’r dogfennau perthnasol. Nid yw’r Cyngor yn ymateb i’r math yma o gais cynllunio.

Ar y pwynt yma cyrhaeddodd RE y cyfarfod gan gymryd y gadair i gadeirio gweddill y cyfarfod. Diolchodd i’r Is-gadeirydd am gadeirio’r cyfarfod hyd at y pwynt yma.

12. Trafodaeth am newidiadau ffiniau cymunedol.

Diolchwyd i bawb a fynychodd y cyfarfod ar y cyd â Chyngor Cymuned Llangeitho ar Orffennaf 27ain. Roedd llythyr wedi’i anfon at Siân Gwenllian y Gweinidog dros Lywodraeth Leol ynghyd ac aelodau Senedd Cymru rhanbarth Ceredigion Penfro. Derbyniwyd llythyr yn ôl gan Siân Gwenllian ar Awst 27ain. Yn dilyn cyfarfod â Llangeitho, anfonwyd ail lythyr at Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion gydag ymholiadau pellach. Nid ydym wedi derbyn ymateb hyd yn hyn. Cytunwyd ar Orffennaf 27ain i gwrdd unwaith eto a hynny ar nos Lun, Medi 21ain am 8:00pm yn Neuadd Llanddewi-Brefi.

Yn y cyfamser roedd dau gynrychiolydd o’r Cyngor Cymuned wedi mynychu cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith – Ymwrthod â’r newidiadau i Gynghorau Cymuned a Thref Ceredigion.

Nodwyd yr argymhellion a roddwyd am y newid sef bod Cyngor Sir Ceredigion wedi gofyn am newid; bod nifer o seddi gwag ar gynghorau Cymuned ac nad oedd presenoldeb llawn mewn mwyafrif o gyfarfodydd ar draws y sir. Ar y pwynt yma nodwyd er bod y Cyngor Cymuned wedi hysbysu’r Cyngor Sir am sedd wag yn Nhachwedd 2025 nid oeddynt wedi derbyn unrhyw ymateb bellach am y mater. Cytunwyd i anfon e-bost i’r adran berthnasol yn gofyn am ddiweddariad.

Nodwyd bod cyfarfod arall ar y gweill o bosib Medi 24ain, a nodwyd y dylai pawb wneud ymdrech i’w fynychu gan fod y cyfarfod wedi ei gynnal mewn modd safonol iawn gyda digon o gyfle i wrando a mynegi barn. Hefyd nodwyd bod cynnig yn cael ei roi ger bron y Cyngor Sir ar Fedi 24ain gan grŵp Annibynnol y Cyngor yn gofyn am ail-edrych ar y penderfyniad. Cynhelir y cyfarfod am 2:00pm.

13. Diffibriliwr

Nid oedd modd gwneud cais i British Heart Foundation gan fod Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi wedi gwneud cais o’r blaen yn 2026.  Er hyn roedd gwaith o ddarganfod pris am diffibriliwr wedi digwydd trwy’r hâf. Derbyniwyd neges gan Calon Hearts yn nodi ei bod yn gallu cynnig diffibriliwr am £950 heb gostau postio na TAW. Nodwyd bod pris cabinet yn £550 ar ben ei hun. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i brynu dau diffribriliwr newydd i’w osod yn y Ganolfan Gymuned a disodli’r un ar bwys y Foelallt Arms gan ddefnyddio’r arian a godwyd wrth ganu carolau yn Nadolig 2024. Gofyn iddynt hefyd a fyddai modd iddynt gynnal noson Hyfforddiant yn y neuadd. Wrth ddisodli diffribiliwr ar bwys y Foelallt Arms trafodwyd a fyddai modd ei osod yn y Cysgodfan bws yn Hyfrydle.

14. Sul y Cofio

Dydd Sul y cofio ar ddydd Sul, Tachwedd 8fed. Edrych ar bwy gynhaliodd y gwasanaeth y llynedd a gofyn i’r Sefydliad gwahanol i’w gynnal eleni. Archebwyd 13 torch i’r cymdeithasau amrywiol sydd yn y Pentref.

15. Gweithgareddau’r Nadolig

Taith Tractor wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn, Rhagfyr 19eg. Bydd y digwyddiad yn rhan o ddathliadau Clwb Ffermwyr Ifanc yn 85 oed. Yn ystod y diwrnod,  bydd y Cyngor Cymuned yn cynnal Groto Sion Corn ac yn cyhoeddi enillwyr y ‘Tŷ Addurnedig Orau’.

Cytunwyd i gynnal Cinio Nadolig y Cyngor Cymuned ar Nos Sadwrn, Rhagfyr 12fed. GJ i fwcio lleoliad ar gyfer y cinio.

16.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

1222

17. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

  • Un Llais Cymru Newyddlen Cyllid Gorffennaf / Awst 2026

                               Prosiect Argyfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau

                               Dyddiadau Hyfforddiant – Awst – Rhagfyr  2026

                               E BWLETIN UN LLAIS CYMRU RHIF 29

  • Cyngor Sir Ceredigion – Bwletin Mis Awst Cynnal y Cardi

                                            Bwletin Costau Byw Awst a Medi

                                            Eich gwahoddiad i gymryd rhan: Gŵyl Cariad 2027

  • EFFAITH – cylchlythyr misol
  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda -Rhannwch eich barn ar y cynnig ar gyfer man diogel ar gyfer iechyd meddwl oedolion
  • Diweddariad Parc Ynni Lan Fawr

18. Unrhyw fater Arall

Derbyniwyd diweddariad ynglŷn â’r gwaith sydd wedi’i gwblhau gan wirfoddolwyr yr ardd Gymunedol. Nodwyd bydd gwaith yn cael ei wneud i docio’r berth yn ystod yr Hydref a gofynnwyd a fyddai modd i’r contractiwr torri porfa cymryd cyfrifoldeb dros dorri porfa darn bach o’r ardd Gymunedol. Trafod hwn gyda’r contractiwr pan fydd yn cwrdd ag ef i drafod yr hyn a wnaed yn ystod y flwyddyn.

Derbyniwyd amcanbris ar gyfer arwyddion Dim Cŵn. Cytunwyd i brynu 4 arwydd A3 dibond ar gost o £104.00.  

Lon Prysg – cwynion gan drigolion am gyflwr yr heol. RE i edrych ar yr heol.

Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cyngor Cymuned 2025-26, derbyniwyd sylwadau am bresenoldeb rhai cynghorwyr.

Angen diweddaru lluniau ar y wefan ynghyd a sicrhau taw rhaglenni cyfredol y cymdeithasau sy’n weladwy.

Angen tacluso’r gofgolofn cyn Sul y Cofio.

Gorchymyn Cadw Coed – nid yw’r Cyngor wedi derbyn unrhyw ohebiaeth bellach ers anfon y llythyr ar ddechrau Gorffennaf.

Yn dilyn y tanau gwyllt yn ystod yr hâf gofynnodd EJ sut oedd pwysedd hydrant dŵr yn y pentref gan yn y gorffennol y mae wedi bod yn isel iawn. Nododd a fyddai posib i’r Frigâd Dân lleol i wirio’r pwysedd dŵr.

Yn ystod mis Awst, bu cynrychiolydd o ‘Tir Natur’ mewn cysylltiad yn gofyn am gyfle i ddiweddaru Cynghorwyr o’r gwaith sy’n cymryd lle ar y mynyddoedd y tu allan i Landdewi-Brefi. Cytunwyd i’w gwahodd i’r cyfarfod nesaf a’i gynnwys fel pwynt agenda.

19.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

12/10/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 21:35.

This page is also available in: English