Croeso i wefan Llanddewi Brefi. Pleser Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi yw cynnig gwefan i chi drigolion ac ymwelwyr â’r ardal drwy sicrhau
- Presenoldeb gwefan i’r Cyngor Cymuned ei hun
- Calendr digwyddiadau, gweithgareddau a chlybiau yn y Gymuned.
- Gwybodaeth i drigolion, twristiaid, ac ymwelwyr â’r pentref.
Arolwg Cymunedol Ceredigion 2023
Croeso i bentref Llanddewi Brefi, Ceredigion, – pentref bach croesawgar yng nghesail y mynydd a chanolbwynt cymuned Plwyf Llanddewi Brefi, – un or mwyaf yng Nghymru. Medrwn olrhain hanes a chysylltiadau crefyddol y pentref hwn yn ôl i’r 7 fed Ganrif. Bydd y tafarndai, y siop, yr hostel ieuenctid a’r Gwely a Brecwast lleol yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol yn y gymuned.
Mae’r tirwedd o’n cwmpas yn eithriadol o brydferth gyda’r llwybrau cerdded yn cynnig cyfle i ddilyn yn ôl traed y Porthmyn, cerdded glannau’r afonydd a mentro tua’r mynydd-dir. Ardal amaethyddol sy’n gartref i grefft a masnachu bwyd.
Mae Neuadd y Pentref a’r tir o’i hamgylch yn gartref i Sioe Amaethyddol a Garddwriaethol Llanddewi Brefi a gynhelir yn flynyddol ac yn faes chwarae i Sêr Dewi, y Clwb Pêl Droed lleol a ddathlodd 50 mlynedd yn 2009 ac sy’n chwarae yng Nghynghrair Ceredigion. Yma yn 1980 y cychwynnodd Pwyllgor Rasus Harnes Deri Llanio sydd bellach yn adnabyddus fel un o’r cyfarfodydd rasus enwocaf yn y Deyrnas Unedig, Clwb Trotian Tregaron. Ers 2008 bu’r pentref yn cynnal Ras Gŵyl Ddewi, ras redeg flynyddol ar yr heol a gweithgaredd pwysig ar galendr clybiau athletau lleol. Mae gan y pentref nifer o grwpiau cymunedol. Mae SyM, y CFfI a’r Clwb Ffrindiau yn cwrdd yn rheolaidd; mae gan y grwpiau gefnogaeth dda ac mae croeso i aelodau newydd.
Yn ystod haf 1988 a 1990, cafodd Llanddewi Brefi ei drawsnewid i fod yn dref farchnad wledig o’r 1930au ar gyfer ffilmio drama ‘We Are Seven’ ar HTV.
Cafodd nifer o’r trigolion y cyfle i fod yn ‘extras’ a thrawsnewidiwyd nifer o’r tai yn siopau ar gyfer y ffilmio.
Llun © Hawlfraint Roger Kidd ac wedi’i drwyddedu ar gyfer ail-ddefnyddio dan y Drwydded Creative Commons
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar sut i ddatblygu’r wefan hon, cysylltwch â: web@llanddewibrefi.org
Cysylltu â Chyngor Cymuned Llanddewi Brefi | Amodau & Preifatrwydd
Cysylltiadau allanol:
Llwybrau’r Porthmyn ger Llanddewi Brefi
Darganfod Ceredigion:mynyddoedd y Cambria
This page is also available in: English