Cyngor Cymuned

Cymuned – Darn o dir  sy’n ffurfio’r sail i haen gyntaf llywodraeth leol yng Nghymru o dan yr awdurdodau unedol (neu’r cynghorau sir). Dyma ddaeth yn lle’r Plwyfi Sifil Cymreig yn 1974.

Mae Cynghorau Cymuned yng Nghymru yn gweithredu yn yr un modd â’r Cynghorau Plwyf yn Lloegr. Eu pwrpas yw bod yn llais  i’r gymuned, i gynrychioli anghenion a barn y bobl gerbron yr awdurdod lleol a chyrff  cyhoeddus eraill  a darparu ystod cyfyngedig o wasanaethau ar lefel leol.

Community council area boundary

Ffynhonnell: neighbourhood.statistics.gov.uk

Mae 10 aelod gwirfoddol a chlerc cyflogedig yng Nghyngor Cymuned Llanddewi Brefi sy’n cynrychioli  640  o drigolion y pentref a’r gymuned amgylchynol. (data censws 2011). Mae ward Llangeitho yng Nghyngor Sir Ceredigion yn cynnwys Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi.

Mae’r cyngor llawn yn gyfrifol am wneud yr holl benderfyniadau yn y cyfarfodydd a gynhelir.  Fel arfer, fe’u cynhelir ar yr ail Nos Lun o bob mis. Ar brydiau, mae’n bosib y bydd y cyngor yn penderfynu dirprwyo tasgiau penodol i grwp o gynghorwyr neu i’r clerc.

Cynhelir y cyfarfodydd yn yr ystafell gyfarfod fach yn Neuadd y Pentref. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu hysbysebu a gall aelodau o’r cyhoedd fynychu; gweler yr Agenda ar y wefan ac ar hysbysfwrdd y cyngor o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfodydd. Rydym yn cyhoeddi cofnodion y cyfarfodydd unwaith iddynt gael eu cymeradwyo yn y cyfarfod cyngor olynol.

Bob blwyddyn, mae’r cyngor yn gosod praesept, swm o arian i’w gasglu gan yr awdurdod lleol drwy’r dreth gymuedol; i ariannu’r gwariant ar wasanaethau. Gweler manylion y gwariant ar dudalennau Cyllid y wefan hon, ynghyd â’r fantolen ariannol flynyddol a ddychwelir i Swyddfa Archwilio Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

PDFAdroddiad blynyddol y Cyngor 2022/23

PDFAdroddiad blynyddol y Cyngor 2021/22

Agenda’r Cyfarfod Nesaf
Cysylltu â’r Cyngor
Cysylltu â’ch cynrychiolwyr etholedig ar wahanol lefelau llywodraeth (Cyswllt allanol)

This page is also available in: English