Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd
Mae Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi wedi ymrwymo i sicrhau’r safon uchaf o ran ansawdd y wybodaeth, a gwnaethpwyd pob ymdrech i gyflwyno’r data diweddaraf a chywir. Fodd bynnag, nid yw’r Cyngor yn rhoi unrhyw sicrwydd ynghylch cywirdeb y wybodaeth ar y wefan hon ac ni fydd yn gyfrifol am unrhyw golled, difrod neu anghyfleuster a achosir o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth o’r fath.
Nid yw’r Wefan hon yn storio nac yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol am y rhai sy’n defnyddio’r safle yn awtomatig, ac eithrio cyfeiriad IP yr unigolyn hwnnw. Ni chedwir unrhyw wybodaeth amdanoch ac eithrio’r wybodaeth a nodwch yn wirfoddol trwy gyfrwng mecanweithiau adborth megis ffurflenni ar y we. Nid yw’r Cyngor yn darparu’r sicrwydd hwn ar gyfer unrhyw safleoedd eraill y gallwch gysylltu â nhw o’r safle hwn.
Mae cysylltiadau â gwefannau eraill (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni fydd Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth ar y gwefannau hynny.
Oni bai y nodir fel arall, mae Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi yn cadw hawlfraint yr holl ddeunydd gwreiddiol a ddangosir ar y wefan hon © 2015.
Cwcis
Ffeil ddata fach sy’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur wrth i chi ymweld â gwefan yw cwci. Nid yw’r cwcis rydym ni’n eu defnyddio ar ein gwefan yn cynnwys unrhyw ddata personol nag unrhyw beth a allai ddweud wrth eraill pwy ydych chi.
CWCI | MATH | HYD O RAN AMSER | DISGRIFIAD |
_ga | Parhaus | 2 flynedd | Teclyn Google Analytic i gasglu data perfformiad a dadansoddi gwybodaeth. |
_gat | Parhaus | 10 munud | Teclyn Google Analytic i gasglu data perfformiad a dadansoddi gwybodaeth |
_icl_current_language | Parhaus | 1 diwrnod | Defnyddir i gofio dewis iaith gwreiddiol yr ymwelydd. |
NID | Parhaus | 28 diwrnod | Cwci Tracio Google wedi ei ddefnyddio i gofio dewisiadau a gwybodaeth arall fel dewis iaith |
viewed_cookie_policy | Parhaus | 1 flwyddyn | Defnyddir i gofio a yw ymwelydd wedi derbyn/cau’r bar gwybodaeth cwci. |
Os ydych eisiau dysgu mwy am gwcis a sut mae eu rheoli, ewch i AboutCookies.org
Polisi’r Wefan Gymunedol
Mae’r Wefan Gymunedol yn cynnig mynediad agored i fusnes y Cyngor Cymuned yn benodol ac hefyd I wybodaeth am y Gymuned a’r ardal leol.
Pwrpas: Sicrhau fod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan er lles trigolion y Gymuned, ymwelwyr a defnyddwyr.
Amcanion: Darparu gwefan sy’n cynnwys
- Gwybodaeth am ddigwyddiadau, grwpiau cymdeithasol, busnesau a gwasanaethau sy’n perthyn i Landdewi Brefi, yn ardal gyfagos a’i thrigolion.
- Gwybodaeth sydd o fudd gwirioneddol i’r rhai sydd â mynediad i’r cynnwys ac i ddefnyddwyr.
- Gwybodaeth sy’n adlewyrchu cymeriad y gymuned leol a’r gwasanaethau perthnasol sydd ar gael iddi ac sydd o gymorth iddi.
- Gwybodaeth ffeithiol gywir. Nid yw’r Cyngor Cymuned yn derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb gwybodaeth a gynigir gan safleoedd allanol. .
- Egwyddorion Cyfle Cyfartal o ran cyfle, mynediad a di bod y wylliant..
- Gwybodaeth di-duedd, heb fod yn sarhaus.
Gweithredu:
Gall cymdeithasau, grwpiau, neu unigolion wneud cais i gyfrannu gwybodaeth drwy ysgrifennu e-bost i web@llanddewibrefi.org neu drwy ffurflenni gwefan.
Trafodir y cais yng nghyfarfod llawn nesaf y Cyngor Cymuned cyn belled â bod y cais wedi ei wneud 7 diwrnod clir cyn dyddiad y cyfarfod. Cewch ymateb i’ch cais cyn gynted â phosib yn dilyn y penderfyniad. Rhais i’r cais amlinellu natur y grŵp, y digwyddiad neu’r hysbysiad. Rhaid cynnwys cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
Mae’n rhaid i gynnwys y wefan ddilyn polisi iaith Gymraeg y Cyngor Cymuned ac felly rhaid i bob darn o wybodaeth gael ei gyhoeddi yn ddwyieithog. Ble bynnag yn bosib, ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fyddai orau. Cysylltwch â’r Gwefeistr os oes angen cymorth cyfieithu arnoch. Ar eich cais, medrwn gynnig patrwm i chi ar gyfer hysbysebu yn y digwyddiadur neu’r cyfeirlyfr. Heblaw hynny, mae modd i chi eu lawrlwytho o’r wefan.
Gellir llwytho dogfennau i gydfynd â rhestriadau trwy wneud cais ar : web@llanddewibrefi.org trwy gytundeb â’r Gwefeistr.
- Mae’r Cyngor Cymuned yn cadw’r hawl i wrthod cyhoeddi.
- Mae’r Cyngor Cymuned yn cadw’r hawl i ddileu gwybodaeth ar unrhyw amser.
Mae’r polisi yn effeithio pawb sy’n defnyddio’r wefan gan gynnwys trigolion, Cynghorwyr Cymuned, Clerc y Cymgor Cymuned, Gwefeistr a phawb sy’n cyflwyno gwybodaeth i’w gyhoeddi.
Yn ôl i’r brig
This page is also available in: English