Y Cynghorau Sir sy’n gyfrifol am ddarparu’r mwyafrif o wasanaethau. Mae gan y Cynghorau Cymuned lai o ddyletswyddau ond gallant ddrfnyddio eu pwerau cyfreithiol i ddarparu, neu gynorthwyo eraill i ddarparu, ystod o wasanaethau ar lefel leol. Gweler rhestr o’r pwerau yma yn y ‘Canllaw i Gynghorydd Da 2012’ drwy lawrlwytho o wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’n ddyletswydd ar Gynghorau Sir i ymgynhori â’r cynghorau cymuned ar faterion sy’n effeithio ar bobl leol ac ystyried eu hymateb. Yn eu plith mae ceisiadau cynllunio, materion yn ymwneud â phriffyrdd neu hawliau tramwy a cheisiadau am drwydded o fewn y gymuned.
Gall Cynghorau Cymuned gyhoeddi hysbysiadau a chynnal cyfarfodydd i ofyn barn y trigolion neu ddarparu gwybodaeth am wasanaethau neu faterion perthnasol. Gellir cynnal pleidlais yn y cyfarfodydd yma ac mae’n ddyletswydd arnynt i ystyried y canlyniad a chymryd y camau priodol.
Mae Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi yn aelod o Un Llais Cymru, cymdeithas sy’n cynnig hyfforddiant a chyngor am faterion cyfreithiol a pholisi i Gynghorau Tref a Chymuned ar draws Cymru. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod y Cynghorau yn ymwybodol o newidiadau sy’n effeithio arnynt.
Defnyddia’r Cyngor Cymuned y pwerau yn ei feddiant i ddarparu’r gwasanaethau canlynol:
- Darparu a chynnal gwefan y Cyngor a’r gymuned.
- Golau strydoedd yn y pentref.
- Seddau a meinciau cyhoeddus wrth ymyl y ffordd.
- Coeden a goleuadau Nadolig
- Hysbysfyrddau cyhoeddus a byrddau gwybodaeth.
- Cynnal a chadw rhai mannau glas yn y pentref.
- Darparu mynwent.
- Cynnal a thrwsio’r gofgolofn filwrol.
Gweithreda’r Cyngor fel Ymdiriedolwr Gwarchodol i Neuadd y Pentref a’r Cae Chwarae. Rheoir y neuadd o ddydd i ddydd gan elusen annibynnol, rhif cofrestru 523862 ac mae cynrychiolydd o’r Cyngor Cymuned ar y Pwyllgor hwnnw..
Ceisiadau Cynllunio
Hybysiadau
Un Llais Cymru (Cyswllt allanol)
This page is also available in: English