Pentref ar lan yr Afon Brefi yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru yw Llanddewi Brefi. Mae’n un o’r plwyfi mwyaf yng Nghymru. Yn y ganrif gyntaf gosododd y Rhufeiniaid eu gwersyll o’r enw Loventium a’u baddonau yn Llanio Isaf ac yn ddiweddarach adeiladwyd eu heol, Sarn Helen. Yr ochr draw i’r Afon Teifi roedd sefydliad o’r enw Bremia, – ‘nant yn byrlymu’. Dyma safle Llanddewi Brefi. Daw ail ran yr enw o’r chwedl leol am yr ychen. Roedd yr ychen yn tynnu cerrig pan syrthiodd un yn farw. Brefodd y llall naw gwaith, a hynny mor uchel nes hollti Craig y Foelallt. Galwyd y lle yn Llanddewi Brefi o achos y brefu uchel.
Y cysylltiad gyda Dewi Sant roddodd i’r pentref ran cyntaf ei enw gan i Nawddsant Cymru gynnal y Senedd Frefi yma yn 520 OC. Mae’r gair “Llan” mewn enwau pentrefi Cymreig yn cyfeirio at eglwys neu le sanctaidd.
Yn ôl y stori pan nad oedd y dyrfa fawr a ddaeth i weld Dewi Sant yn medru ei glywed, cododd y ddaear o dan ei draed gan sefyll ar y bryn lle mae’r eglwys yn sefyll heddiw. Mae Eglwys Dewi Sant yn dyddio nôl i’r 12fed ganrif er fod lle addoliad wedi bod ar y safle ers y 7fed ganrif. Mae sawl croes Geltaidd ddiddorol yn y fynwent. Mae’r safle wedi parhau yn bwysig o ran crefydd a dysg ac ar un adeg dyma ble roedd y Brifysgol i gael ei hadeiladu.
Roedd maenorau neu ardaloedd yn y plwyf: Llanio; Garth ac Ystrad; Goyan a Gorwydd; Prysg a Charfan; Doethie Pysgotwr an Doethie Camddwr. Enwau gwhanol lefydd yn y plwyf oedd: Pentre Rhew, Llety Poeth; Pentre Richard; Dôlgam; Dolfelin; Dôl Saint; Cae Wenlli. Mae’r enwau yn dal ar lafar gwlad.
Seiliwyd y testun yn bennaf ar ddetholion o gylchgrawn “Yr Ancr”, ymchwil disgyblion Ysgol Llanddewi Brefi 1970 a’u Prifathro y diweddar Mr. Ben Richards.
DIWYDIANT
MASNACH
CREFYDD AC ADDYSG
This page is also available in: English