Masnach

Daeth y Swyddfa Bost i’r pentref am y tro cyntaf yn 1855 a’r ffôn cyntaf ar gyfer telegram yn unig yn 1897. Daeth y ciosg i’r sgwar yn 1937.

Siop Brefi yw’r unig siop yn y pentref ond yn 1970 enwyd y Cooperative, London Shop a Siop Harriet.

London shop

Flynyddoedd yn ôl roedd llawer mwy – Cambrian Store; Cherry Tree; Smith House yn gwerthu bara; Siop Mrs Morgan; Y Ddôl; Brenig View, cigydd; Miss Hawes, Llwynonn ac Evan Jones, Penbont y ddau yn gwerthu bara.
Roedd stafell ddarllen yn Erwlas lle byddai pentrefwyr yn mynd i ddarllen yr unig gopi o’r papur dyddiol.
Roedd pum ffair yn cael eu cynnal yn y pentref:
Ionawr 15fed – am bythefnos i gydfynd â bendithio’r had.
Mai 7fed – amser hau.
Ffair Gwsberins – Gorffennaf 24ain. Roedd offer ar gyfer tymor y cynhaeaf yn cael eu gwerthu yn y ffair gan gynnwys tywod i hogi pladuriau.
Dwy ffair hydref :
Hydref 9fed i blesera.
Tachwedd 13eg – ffair gyflogi gweision ar y ffermydd.
Enwau’r tafarndai yw’r Foelallt Arms a’r New Inn. Bu 12 tŷ tafarn a thai cwrw yn y pentref. Enwau sy’n aros gyda ni yw:- Y Drovers; Bridge End; Cross Inn; Black Lion; Black Lion Fach.
Ffald gerrig dan glo oedd y Pownd. Byddai anifeiliaid strae yn cael eu cadw ynddi ac roedd rhaid i’r perchnogion dalu am eu rhyddhau. Roedd hawl gwerthu anifeiliaid na ddaeth unrhywun i’w perchnogi a defnyddio’r arian fel taliadau lles.

Seiliwyd y testun yn bennaf ar ddetholion o gylchgrawn “Yr Ancr”, ymchwil disgyblion Ysgol Llanddewi Brefi 1970 a’u Prifathro y diweddar Mr. Ben Richards.

HANES
DIWYDIANT
CREFYDD AC ADDYSG

This page is also available in: English