Mynwent


Llun 2 © Hawlfraint Roger Kidd ac wedi’i drwyddedu ar gyfer ail-ddefnyddio dan y Drwydded Creative Commons

Sefydlwyd Mynwent Llanddewi Brefi yn 1894 i ddarparu safle claddu ychwanegol ar gyfer yr Eglwys a’r capeli. Fe’i lleolir ar ochr ogleddol y pentref ger y B4343. Lleoliad y Gofeb Rhyfel.

Rheolau Mynwentydd

Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi sy’n rheoli a gofalu ar ôl y fynwent ar ran y rhai a gleddir yna ac er lles y rhai sy’n gofalu am y beddau o ran parch ac er cof.

Bwriad y rheolau isod yw sicrhau cydbwysedd teg rhwng hawliau a buddiannau unigolion a’r angen i gadw safle ddiogel a chymen.

Wnewch chi gadw’r rheolau hyn os gwelwch yn dda er mwyn ein helpu i gadw’r fynwent hon yn lle hardd a heddychlon:

  • Dim cŵn, heblaw cŵn tywys.
  • Dim seiclo na gêmau.
  • Peidiwch â rhoi eitemau gwydr ar nac ar bwys y bedd gan y gall achosi niwed.
  • Dylech roi blodau wedi gwywo, dail, papur a phob sbwriel arall yn y biniau wrth ymyl y gât.
  • Er mwyn caniatau torri porfa yn effeithiol, gosodwch bob eitem, gan gynnwys llestri blodau, yn union wrth ymyl y beddfaen ac nid ar y borfa tu blaen i’r garreg os gwelwch yn dda.

Cyfrifoldeb y sawl sydd yn dal yr Hawliau Claddu yw cynnal a chadw’r gofeb. Os na fydd y gofeb yn ddiogel bydd y Cyngor Cymuned bob amser yn ceisio cysylltu â pherchennog y bedd neu’r teulu agosaf, ond cedwir yr hawl i weithredu fel a ganlyn lle bo angen er mwyn sicrhau diogelwch.

  • Gall unrhyw gofebau anniogel sydd hefyd yn achos perygl gael eu gwneud yn ddiogel ar unwaith heb hysbysu’r sawl sy’n meddu Hawl Claddu’r beddfan. Byddwn yn cysylltu cyn gynted â phosib i’ch hysbysu am y camau a gymerwyd a natur y broblem.
  • Bydd rhybudd yn cael ei osod ar unrhyw gofeb sy’n anniogel ond heb fod yn achos perygl. Byddwn yn cysylltu â’r sawl sy’n meddu Hawl Claddu’r beddfan a mynnu bod y diffygion yn cael eu hatgyweirio.

Yn ôl i’r brig

Taliadau Claddu ym Mynwent

Ebrill 2023

(a) Hawl i gladdu. £40.00
(b) Claddu mewn bedd i un. £550.00
(c) Claddu mewn bedd i ddau. £650.00
(d) Claddu mewn bedd i dri. £ I’w gadarnhau
(e) Am bob claddu olynol
– Ail agor am y tro cyntaf. £550.00
– Ail agor am yr ail dro. £ I’w gadarnhau
(f) Claddu plentyn*.
(g) Claddu gweddillion wedi eu hamlosgi. £120.00
(h) Hawl I godi cofeb (gan gynnwys croes). £25.00
(i) Ni fydd unrhyw dâl am yr hawl i godi cofeb ar gyfer plentyn*.
(j) Pris Lestr Blodau Coffa heb garreg bedd. £10.00
* Yn unol â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru, ni fydd y Cyngor yn codi ffioedd mwyach ar gyfer Claddedigaethau Plant ac Amlosgi ar gyfer rhywun dan 18 oed (yn cynnwys gweddillion marw-anedig a ffetws).

Yn ôl i’r brig

Rheoliadau Mynwentydd

(1) Dyfnder o wyneb yr arch i lefel y tir – 3 troedfedd (0.91m).
(2) Ni ddylid gosod carreg neu groes uwch na 3 1/2 troedfedd (1.07m).
(3) Os nad oes carreg fedd, dylid gosod unrhyw lestr blodau yn gyson a lefel y cerrig eraill bob ochor.
(4) Rhaid tacluso’r pridd i fod yr un lefel ar tir.
(5) Yr ochr gysegredig (Eglwys) – Beddfaen yn unig o’r
rhes bresennol ymlaen. Ochr heb ei chysegru (Capel) – Beddfaen yn unig o’r
Llwybr i lawr.
(6) Rhaid gadael 4 treoedfedd (1.22m) o ganol un bedd I ganol y bedd nesaf.
(7) Hyd y bedd – 8 troedfedd (2.44m).
(8) Ni werthir lle claddu ymlaen llaw onibai fod cais yn dod wrth y teulu ar ol yr angladd cyntaf. Yna caniateir un safle claddu ychwanegol nesaf at y bedd cyntaf.
(9) Rhaid i weinidog /ficer fod yn bresennol yn ystod y claddu/ claddu lludw.
(10) Ni chaniateir gwasgaru Llwch.
(11) Bydd perchennog yr hawliau claddu yn gyfrifol am drefnu fod y gofeb yn cael ei symud o’i lle cyn ailagor bedd ar gyfer claddedigaeth ychwanegol, er mwyn sicrhau amodau gweithio diogel.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau pellach at:

Mrs M. Davies
Brynderwen
Llanddewi Brefi
Tregaron
Ffôn: 01974 298636
Ebost: clerk@llanddewibrefi.org

Ffurflen Cyswllt

Map Lleoliad

Yn ôl i’r brig

This page is also available in: English