Cafodd y capel Methodist gwreiddiol ei adeiladu yn 1770 a’i ailadeiladu fel Capel Bethesda yn 1873.
Sefydlwyd mynachlog, Coleg Beck, yma yn 1287 gan yr Esgob Beck – lle mae Pebyll yn sefyll heddiw. Roedd y llwybr yn arwain addolwyr o’r fynachlog i’r eglwys yn eu gynau gwynion drwy Gae Wenlli.
Adeiladwyd Capel Bethlehem 1904 a Neuadd y Pentre 1931 gan William Williams, Cefnbedd.
Roedd Ysgolion yn cael eu cynnal yn – ‘Pistyllygwehydd; ‘British School’ yn Festri Capel Bethesda a National School yn yr adeiladau ger Tŷ Gwyn a Graigwen.
Llyfr yr Ancr Llanddewi Brefi
CopÏodd Ancr neu fynach o Landdewi Brefi lawysgrifau yn ei gell tua’r flwyddyn 1346. Mae “Llyfr yr Ancr Llanddewi Brefi” yn llyfr bach wedi ei rwymo mewn croen llo neu felwm. Mae’n chwe modfedd a hanner o hyd a phedair modfedd a hanner o led. Mae nawr yn rhan o drysorau Celtaidd Llyfrgell y Bodleian, Rhydychen.
Seiliwyd y testun yn bennaf ar ddetholion o gylchgrawn “Yr Ancr”, ymchwil disgyblion Ysgol Llanddewi Brefi 1970 a’u Prifathro y diweddar Mr. Ben Richards.
Fersiwn digidol, Llyfrgell Bodley
HANES
DIWYDIANT
MASNACH
This page is also available in: English