Pob cofnod gan Website Administrator

Agenda Cyfarfod Cyngor Cymuned – 12/10/2026

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Hydref 12fed 2026 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Datgan Diddordeb
  5. Cyfranogiad y cyhoedd
  6. Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Medi 14eg 2026
  7. Materion yn codi
  8. Adroddiad yr Heddlu
  9. Cyflwyniad gan Lowri Vaughan Tir Natur
  10. Materion Ariannol
    • Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Medi 30ain 2026
    • Awdurdodi taliadau
      • Staff a thaliadau cyfrinachol
    • Taliadau cylchol
      • Teleffon a band eang y Neuadd BT
      • Taliadau Banc
    • Taliadau a dderbyniwyd
    • Ystyried cais am arian tuag at Noson Tân Gwyllt CFFI Llanddewi-Brefi
  11. Hysbysiad Cwblhau Archwiliad 2025-26 – Archwiliad Cymru
  12. Canllawiau Argyfwng Tywydd Garw
  13. Newid Ffiniau Cymunedol
  14. Diffibriliwr
  15. Sul y Cofio
  16. Gweithgareddau Nadolig
  17. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  18. Gohebiaeth
    • Cyhoeddiad o’r Adroddiad Blynyddol Drafft ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2026–27
    • Cyngor Sir Ceredigion
      • Panel Arfarnu Cymru/  Canfyddiadau Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
      • Arolwg Gofal Plant i Rieni a Gofalwyr
      • Gwasanaethau clirio eira atodol
    • Un Llais Cymru
      • Newidiadau i drefniadau llywodraethu a Phwyllgor Gweithredol Cenedlaethol
      • E-Bwletin Un Llais Cymru Rhif 30 / 31
    • Pwyllgor Ardal Ceredigion 22.9.26
    • EFFAITH – cylchlythyr misol Llais
    • Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru – Arolwg 2030
    • PONTIO GWYRDD YNG NGHEREDIGION
  19. Unrhyw fater arall
  20. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Tachwedd 9fed 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

Cau Ffordd Dros Dro: C1095 Llanddewi Brefi, Tregaron – 30/10/2026

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro : 

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:672/26
Rhif y Ffordd:
USRN
C1095  47101347
Lleoliad: Llanddewi Brefi, Tregaron  https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:6d98f3ae-cfec-46d1-ad9f-2c870c4044a9
 Dyddiad ac amser:30/10/2026 08:00-17:00
Parhad:Yn ystod y cyfnod dan sylw
Gwaith:Gwaith polion
Ymgeisydd:GT Williams ar rhan BT Openreach
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Cau Ffordd Dros Dro: U1518 Llanddewi Brefi, Tregaron – 29/10/2026

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro : 

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:678/26
Rhif y Ffordd:
USRN
U1518  47101462
Lleoliad: Llanddewi Brefi, Tregaron https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:99a059f3-11f5-4d00-9812-a3c78ffc0d42
Dyddiad ac amser:29/10/2026 08:00-17:00
 Parhad:Yn ystod y cyfnod dan sylw
Gwaith:Gwaith polion
Ymgeisydd:GT Williams ar rhan BT Openreach
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 17/07/26

1216

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Wener, Gorffennaf 17eg am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Eirwen James(EJ), John Griffiths(JG), Caryl Jones (CJ)

1.Croeso

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ) PCSO John Evans

3.Materion Personol .

Dymuno’n dda i Rhian Griffiths a fydd yn derbyn gwobr Myfyrwraig y Flwyddyn Adran Amaethyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn Sioe Frenhinol Cymru.

4.Datganiad o ddiddordeb.

Nid oedd unrhyw ddatgan o ddiddordeb ond atgoffwyd y cynghorwyr pe bai rhywbeth yn codi yn ystod y cyfarfod i nodi hyn.

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Mehefin 15fed 2026

Cynigwyd i gadarnhau’r cofnodion –  EJ   Eilwyd gan – RE

I gadarnhau cofnodion cyfarfod arbennig Gorffennaf 9fed 2026

Cynigwyd i gadarnhau’r cofnodion – CJ    Eilwyd gan – JG

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Gan nad yw’r Cyngor yn cyfarfod ym mis Awst a bod Neuadd yr Eglwys ar werth nodwyd a oedd y Cyngor Cymuned am nodi’r cyfraniad  tuag at gostau argraffu llyfr yn cynnig cyfraniadau Cymunedol. Nodwyd bod cofnodion y cyfarfod yn nodi bod angen sicrhad ei bod wedi prynu’r eiddo yn gyntaf cyn gwneud cyfraniad. Os bydd angen nodi swm yn ystod mis Awst yna bydd yn rhaid cynnal cyfarfod arbennig.

Cyngor Cymuned wedi anfon llythyr ynglŷn â Gorchymyn Coed Arfaethedig i Gyngor Sir Ceredigion.

Cyngor Cymuned wedi anfon carden o gydymdeimlad i’r Cynghorydd PP.

Gydag Aelod o’r cyhoedd yn bresennol a oedd am drafod eitem yn rhestr gohebiaeth yn benodol munudau Ynni Bute Grŵp Cyswllt Cymunedol Lan Fawr cytunwyd i drafod yr eitem ar y pwynt yma.  Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi’i dderbyn ynglŷn â ble fydd yr ynni yn ymuno a’r rhwydwaith na sut. Hefyd, dderbyniwyd gwybodaeth bod ymweliadau fferm yn digwydd ym  mis Awst ynghyd a data am effaith dirgryniadau gan bob tyrbin gwynt.

Derbyniwyd diweddariad am yr ardd Gymunedol:

  • Gwirfoddolwyr yn barhaus i chwynnu’r ardd;
  • Angen asesu’r plastig sydd yn dal y cerrig yn y llwybr – oes angen tynnu’r plastig allan neu dderbyn mwy o gerrig i guddio’r plastig;
  • Asesu beth sydd wedi tyfu yn yr ardd;
  • Ystyried tyfu mintys a sage i gyflwyno planhigion sy’n arogleuo.

1217

8. Adroddiad yr Heddlu

Nid oedd PCSO John Evans yn bresennol ond yr oedd wedi anfon adroddiad o flaen llaw. Nid oedd unrhyw ddifrod troseddol, lladrad, ymddygiad anghymdeithasol, trais a thwyll wedi ei gofnodi ers y cyfarfod blaenorol. Yn dilyn ein cyfarfod blaenorol lle nodwyd bod ceir yn parcio ar balmentydd o amgylch y Pentref nodwyd bod yr heddlu yn monitro’r sefyllfa ac wedi cymryd rhif rhai cerbydau.

Nododd Aelod o’r Cyngor Cymuned bod pobol ifanc yn parhau i ddefnyddio e-sgwter o amgylch y Pentref heb roi unrhyw ystyriaeth i ddefnyddiwr eraill.

9. Adroddiad Ariannol

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Fehefin 30ain 2026

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:

£399.70  Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.

Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £103.93

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £57.54 (Deddf Llywodraeth Leol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19). Nid yw’r  gostyngiad o £11.18 wedi ei gymryd allan o’r bil o ganlyniad i gwyn a wnaed am ddiffyg ffôn am wythnos ar ddechrau Mai.  Angen cysylltu â BT ynglŷn â’r mater yma.

(ii) Taliadau banc 13/05 – 14/06 – £9.10 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol

      Lwfans y Cadeirydd 2025/26 – £50.00

      Archwilio Cymru – £863.05

      Zurich Municpial – Yswiriant Cyngor Cymuned – £358.77

e) Ni dderbyniwyd unrhyw daliadau.

10. Archwilio Cymru- Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-2026

Yn dilyn cymeradwyo’r cyfrifon ar 09/07/26, mae’r wybodaeth berthnasol wedi’i anfon i Archwilio Cymru. Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr wedi’i gosod yn hysbysfwrdd y Cyngor ynghyd a gwefan y Cyngor. Nodwyd yn sgil digwyddiad a chyn aelod seneddol a gwybodaeth gan Gyngor Sir Ceredigion, na ddylai’r clerc cwrdd ag etholwyr ar ben ei hun ond yn hytrach trefnu amser lle mae o leiaf un Cynghorydd ar gael i fynychu.

 11. Trafodaeth am adolygiadau ffiniau cymunedol.

Darllenwyd trwy ymateb a dderbyniwyd gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion yn dilyn Cynghorau Llangeitho a Llanddewi-Brefi yn ysgrifennu llythyr ar y cyd gan ofyn Cwestiynau ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Hefyd darllenwyd llythyr a dderbyniwyd gan gyngor Cymuned Llandysiliogogo ynglŷn â’r newidiadau. Cytunodd y Cyngor Cymuned i anfon llythyr i Siân Gwenllian Gweinidog Llywodraeth Leol. Cyfarfod ar y cyd a Chyngor Cymuned Llangeitho wedi ei drefnu ar gyfer nos Lun, Gorffennaf 27ain am 8:00pm yn Neuadd Jiwbilî, Llangeitho.

12. Diffibriliwr

Nid oedd bocs Newydd mewn stoc pan edrychwyd y tro diwethaf. Cost y bocs Newydd yw £594 gan gynnwys TAW. Ceisiadau i British Heart Foundation wedi agor. Clerc i gwblhau’r ffurflen berthnasol.

13.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

1218

14. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

  • Un Llais Cymru – Adolygiad Gymunedol Ceredigion

                                      E Bwletin Un Llais Cymru Rhif 26

                                      Rhifyn 3 ‘Y Llais’

                                      Dyddiadau Hyfforddiant – Gorffennaf – Medi 2026

                                      Beth mae cynghorau cymuned a thref yn ei gyflawni ledled Cymru

                                      Prosiect Argyfwng Costau Byw – Gwbodaeth ac Adnoddau

  • Cyngor Sir Ceredigion – Ymgynghoriad ar Bolisi Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) a   
  •                                                      Lleihau Arferion Cyfyngol (RRP)

                                       Bwletin Costau Byw Mehefin

                                       Ceredigion Oed Gyfeillgar

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin – Ymgynghoriad ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Drafft
  • Bute Energy – Cofnodion Grŵp Cyswllt Cymunedol Lan Fawr
  • Eisteddfod Llambed 2026

15. Unrhyw fater Arall

Cadnocomms wedi bod mewn cysylltiad ond nid oedd Dyddiad addas i gwrdd ar y cyd. Penderfynu gohirio’r cyfarfod tan fis Medi.

Twll yn yr heol ar bwys Gogoyan – gwneud cais trwy Clic i’w gywiro.

Torri porfa – tyfiant mawr yn y fynwent a nodwyd nad yw pob rhan wedi ei dorri eto. Cytunwyd i’r Clerc a’r Cadeirydd i gwrdd â’r contractiwr er mwyn amlinellu’r gwaith sydd angen ei wneud.

Angen cywiro’r fainc sydd yn Hyfrydle.

Pyst ar gyfer llwybr Pynfarch – pyst ar gael ond angen cysylltu â rhywun i’w gosod.

Cadeirydd wedi bod yn gofyn am amcanbris ar gyfer arwyddion Dim Cŵn ond heb dderbyn cadarnhad o bris eto.

16.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

14/09/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 20:50.

Agenda Cyfarfod Cyngor Cymuned – 14/09/2026

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Medi 14eg 2026 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Datgan Diddordeb
  5. Cyfranogiad y cyhoedd
  6. Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Gorffennaf 17eg 2026
  7. Materion yn codi
  8. Adroddiad yr Heddlu
  9. Materion Ariannol
    • Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Awst 31ain 2026
    • Awdurdodi taliadau – Staff a thaliadau cyfrinachol
    • Taliadau cylchol
      • Teleffon a band eang y Neuadd BT
      • Taliadau Banc
    • Taliadau a dderbyniwyd
    • Setliad Cyflog Blynyddol 2026-27 – Cyngor Cenedlaethol y Cyngorau Lleol
  10. Rheolau Sefydlog Enghreifftiol 2026
  11. Cais Cynllunio
    • A260422 – Land northwest of Nant Gwernog, approximately 8.5 km east of Llanddewi-Brefi, Ceredigion
    • A260428 – Land and south of Lan Fawr, approximately 6 km south-east of Llanddewi-Brefi, Ceredigion
  12. Newid Ffiniau Cymunedol
  13. Diffibriliwr
  14. Sul y Cofio
  15. Gweithgareddau Nadolig
  16. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  17. Gohebiaeth
    • Un Llais Cymru
      • Newyddlen Cyllid Gorffennaf / Awst 2026
      • Prosiect Argyfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau
      • Dyddiadau Hyfforddiant – Awst – Rhagfyr  2026
      • E BWLETIN UN LLAIS CYMRU RHIF 29
    • Cyngor Sir Ceredigion
      • Bwletin Mis Awst Cynnal y Cardi
      • Bwletin Costau Byw Awst a Medi
      • Eich gwahoddiad i gymryd rhan: Gŵyl Cariad 2027
    • EFFAITH – cylchlythyr misol
    • Bwrdd Iechyd Hywel Dda -Rhannwch eich barn ar y cynnig ar gyfer man diogel ar gyfer iechyd meddwl oedolion
    • Diweddariad Parc Ynni Lan Fawr
  18. Unrhyw fater arall
  19. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Hydref 12fed 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

Cau Ffordd Dros Dro: U1516 Llanddewi Brefi, Tregaron – 01/10/2026-31/03/2028

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro: 

Dim mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys

Cyf:139/26
Rhif y Ffordd
USRN
U1516 47108110
Lleoliad:Llanddewi Brefi, Tregaron https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:c201a5d2-6786-44b6-9ef6-212c26bf142f
Dyddiad ac amser:01/10/2026-31/03/2028 24 awr
Parhad:24 awr y dydd
Gwaith:Cynhaliaeth y ffordd wedi methu
Ymgeisydd:Cyngor Sir Ceredigion
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Cau Ffordd Dros Dro: U1654 Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan – 30/09/2026

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro: 

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:462/26
Rhif y Ffordd:
USRN
U1654   47108391
Lleoliad: Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:711ad71f-4ae6-4936-a96e-1ad21403005e
 Dyddiad ac amser:30/09/2026 08:00-17:00
 Parhad:Yn ystod y cyfnod dan sylw
Gwaith:Gwaith polion
Ymgeisydd:GT Williams ar rhan BT Openreach
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Cau Ffordd Dros Dro: B4343 Ffordd Dewi, Tregaron – 28/09/2026

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro: 

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:389/26
Rhif y Ffordd:
USRN
B4343 Ffordd Dewi 47100707
Lleoliad: Tregaron https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:709ed0ef-edd6-4002-890f-89bf1bb7392f
Dyddiad ac amser:28/09/2026 09:30-15:30
Parhad:Yn ystod y cyfnod dan sylw
Gwaith:Gwaith ceblu
Ymgeisydd:Sunbelt Rentals Ltd ar rhan BT Openreach
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Adroddiad Blynyddol 2025-26 Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi

Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi

Adroddiad Blynyddol 2025-2026

Cyflwyniad

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 52, yn mynnu bod Cynghorau Cymunedol yng Nghymru, cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol am flaenoriaethau, gweithgareddau a chyflawniadau’r Cyngor dros y flwyddyn flaenorol.

Cadeirydd Cyngor Cymuned 2025-2026

Cynghorydd Rhodri Evans

Trefniadaeth y Cyngor

Mae Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi yn cynnwys deg Cynghorydd, ac mae’n cyflogi clerc rhan-amser fel Swyddog Priodol a Swyddog Cyllid Cyfrifol. Mae’r Cyngor Cymuned yn defnyddio gwasanaeth Cyfrifo Llywela Thomas Bookkeeping and Payroll Services er mwyn cwblhau materion gyda CThEF.

Mae’r Cyngor Cymuned yn Awdurdod Claddedig gyda chyfrifoldeb am Fynwent Llanddewi Brefi, ac mae hefyd yn cyflogi Clerc Claddedig rhan-amser,  ynghyd a glanhawraig rhan amser ar gyfer y Neuadd Gymunedol.

Mae’r Cyngor Cymuned hefyd yn Ymddiriedolwr elusen Neuadd y Pentref a Maes Hamdden Llanddewi Brefi. Mae gweithgareddau’r elusen yn wahanol i swyddogaethau’r Cyngor Cymuned, ond mae pob Cynghorydd yn aelodau o’r Pwyllgor Rheoli, sy’n cynnal cyfarfodydd ar wahân ac yn cyflwyno adroddiadau i gyfarfodydd Cyngor arferol.

Yn dilyn ymddiswyddiad y Clerc ym mis Mehefin 2025, daeth dau aelod yn bwyllgor tymor byr i weithredu fel Swyddog Priodol a Swyddog Ariannol Cyfrifol (RFO), heb dal, er mwyn sicrhau y byddai’r Cyngor yn gallu parhau i weithredu tan benodi Clerc parhaol. Llwyddwyd i lenwi’r swydd hon gyda phenodi Mr Sion Jones fel Clerc a Swyddog Cyllid Cyfrifol ar 01/09/2025.

Gellir cysylltu â’r Cyngor trwy’r Clerc:

Post: Awelon, Llanddewi Brefi, Tregaron, Ceredigion. SY25 6RL

E-bost: clerk@llanddewibrefi.org

Ffôn: 07870 299370

Cynghorwyr

Yn ystod adeg yr adroddiad, aelodau’r Cyngor Cymuned oedd:

  • Cadeirydd: Cyng. Rhodri Evans (o Mai 2025) (Swyddog Priodol Dros Dro rhwng 01/07/2025 –  01/09/2025)
  • Is-Gadeirydd: Cyng. Emmanuel Kincaid ( rhwng Mai 2025 a Hydref 2025 –  Ymddiswyddodd Hydref 2025 a Swyddog Cyllid Cyfrifol Dros Dro rhwng 01/07/2025 – 01/09/2025
  •   Cyng. John Griffiths ( o Ragfyr 2025)
  • Aelodau: Cyng. Dafydd Lloyd-Jones (Cadeirydd hyd at Mai 2025); Bethan Griffiths; Eirwen James; Caryl Hâf Jones; Gareth Jones; Pat Parry.

Mae manylion cyswllt pob aelod wedi’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor: https://www.llanddewibrefi.org/community-council/council-members/

Cyfarfodydd y Cyngor

Yn arferol, cynhelir cyfarfodydd ar ail nos Llun bob mis, heblaw am fis Awst.

Cafodd agenda a chofnodion cyfarfodydd eu hanfon yn electronig drwy e-bost a’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Cynhaliwyd cyfarfodydd wyneb yn wyneb drwy’r flwyddyn, gyda darpariaeth barhaus ar gyfer mynychu o bell gan Gynghorwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn unol â phennod 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Cynhaliwyd deuddeg cyfarfod arferol yn ystod y flwyddyn hyd at 31/03/2026, yn ogystal â’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai.

Cynhaliwyd y cyfarfodydd eithriadol ganlynol hefyd:

• 22/09/2025 – Trafod Datblygiadau Ynni Gwynt.

• 01/09/2025 – I ystyried cais am swydd Clerc a Swyddog Cyllid Cyfrifol.

Nodir datganiad o fuddiannau a chyfraniad aelodau mewn cyfarfodydd yn y tabl canlynol:

  Cyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 01/04/2025- 31/03/2026
Cynghorwyr
  Rhodri Evans (Cadeirydd)John Griffiths (Is-Gadeirydd)Beth GriffithsEirwen JamesCaryl JonesGareth JonesDafydd Lloyd-JonesPat ParryEmmanuel Kincaid (hyd at 13/10/25) 
Cyfarfod Mawrth 2026Meeting March 2026  PPAPPPPA  
            
Cyfarfod Chwefror 2026Meeting February 2026PAPPPAPP  
         D  
Cyfarfod Ionawr  2026Meeting January  2026PPAPPAAP  
            
Cyfarfod Rhagfyr 2025Meeting December 2025PPAPAPPP  
         D  
Cyfarfod Tachwedd 2025Meeting November 2025PPAPPPPA  
       D    
Cyfarfod Hydref 2025Meeting October 2025PPPPPPPPP 
  DD  D     
Cyfarfod Medi 22ain 2025Meeting September 22nd  2025PPAPPPPPA 
  D         
Cyfarfod Medi 8fed  2025Meeting September 8th  2025PPPPPPPPP 
            
Cyfarfod Medi 1af 2025Meeting September 1st  2025PPPPPPPAP 
            
Cyfarfod Awst 2025Meeting August 2025PPAPAAPPA 
            
Cyfarfod Gorffennaf 2025Meeting July 2025PPPPPPPPA 
            
Cyfarfod Mehefin 2025Meeting June 2025PPPPPPPAP 
            
Cyfarfod Mai 2025Meeting May 2025PPAPAPPPP 
  D         
Cyfarfod Ebrill 2025Meeting April 2025PPAPAPPPP 
  D         
Presenol1413614101113106 
Absennol018043143 
Datganiad o ddiddordeb410011020 

Cyllid

Rheolir gwariant y Cyngor gan broses gyllidebu a monitro. Wrth osod ei gyllideb mae’r Cyngor yn anelu at ddarparu gwasanaethau, rheoli cyfleusterau a chyflawni ei flaenoriaethau. Ystyrir y gyllideb yng nghyfarfod misol Ionawr yn flynyddol.

Er mwyn rheoli arian cyhoeddus yn effeithiol mae Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi:

  • Ymdrechu i gael gwerth am arian
  • Monitro a rheoli gwariant yn unol â’i Reolau Sefydlog a’i Reoliadau Ariannol
  • Ystyried cymariaethau cyllidebol yn erbyn gwirioneddol drwy gydol y flwyddyn
  • Yn darparu cyllid grant

Crynodeb ariannol ar gyfer y flwyddyn 2025/26

Balans ar 31/03/25      –                            £19,926

Cyfanswm Gwariant 2025/26  –              £55,566

Praesept (Treth y Cyngor )                          £18,000

Amyrwiol Incwm                                         £   5,671                     

Nawdd Grant                                               £15,338

Cyfanswm yr Incwm 2025/26 –                £39,009

Balans ar 31/03/26                                   £   3,407

Gwariant o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Adran 137

Y gwariant mwyaf y gellir ei ysgwyddo o dan adran 137 (1) a (3) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26 yw £11.60 yr etholwr, ac mae trefniadau cyngor cymuned bresennol Llanddewi-Brefi yn cynnwys cyfanswm etholwyr o 513.

Gwnaethpwyd y rhodd flynyddol arferol i’r Lleng Prydeinig, ac fe wnaeth y Cyngor roi grantiau cymorth ariannol cyfanswm o £1,715.00 i’r sefydliadau lleol canlynol gan ddefnyddio pwerau adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972:

• Elusen Uchel Siryf Dyfed

• Clwb Ffermwyr Ifanc

• Helfa Gogerddan

• Cylch Ti a Fi Llanddewi Brefi

Taliadau i aelodau

O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae cynghorau cymuned a threfi yn awdurdodau perthnasol at ddiben talu iawndal.

Felly, mae unigolion sydd wedi derbyn swydd fel aelod o gyngor cymuned neu dref yn gymwys i dderbyn taliadau fel y penderfynir gan y Panel Iawndal Annibynnol Cymru (IRPW).

Yn adroddiad Panel Iawndal Annibynnol Cymru ddyddiedig Chwefror 2021, mae Penderfyniad 42 yn gofyn bod rhaid i bob cyngor cymuned a thref gynnig taliad blynyddol gorfodol i bob aelod fel cyfraniad at gostau a threuliau.

Yn unol â Phenderfyniad 4 yn adroddiad blynyddol Panel Iawndal Annibynnol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2026, rhoddodd pob aelod hysbysiad nad oeddent yn dymuno derbyn y taliad sylfaenol gorfodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/2026.

Yn ychwanegol at lwfans y Cadeirydd o £50, yr unig daliadau eraill i aelodau yn ymwneud â’r flwyddyn tan 31/03/2026 oedd ad-daliadau am eitemau neu wasanaethau a brynwyd ar ran y Cyngor, wedi eu hawdurdodi, ac wedi eu cofnodi yn y cofnodion.

Hyfforddiant

Mae cynllun hyfforddi Cyngor, i fynd i’r afael â phrif feysydd o wybodaeth sy’n ymwneud â’r Cod Ymddygiad a rheolaeth ariannol a llywodraethu, wedi cael ei gymeradwyo yn unol â dyletswyddau statudol o dan adran 67 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac mae’r cynllun hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol.

Llywodraethu

Derbyniodd y Cyngor adroddiad archwilio cymwysedig ar gyfer 2024-2025 gan Archwilio Cymru. Ac eithrio’r materion a adroddwyd isod, ar sail yr archwiliad, y farn a nodwyd oedd nad oes unrhyw faterion wedi dod i’r sylw i roi achos pryder bod, mewn unrhyw fawrder sylweddol, y wybodaeth a adroddwyd yn y Ffurflen Flynyddol hon:

• heb gael ei pharatoi yn unol â arferion priodol;

• nad ydynt wedi cwrdd â gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol;

• nid yw’n gydnaws â trefniadau llywodraethu’r Cyngor; ac

• nad oes gan y Cyngor drefniadau priodol i sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau.

Ym marn Archwilio Cymru, nid yw’r Datganiad Cyfrifyddu yn cyflwyno taliadau a dderbynnir gan y Cyngor yn ogystal â sefyllfa ariannol y Cyngor yn iawn:

• Mae amrywiadau sylweddol lluosog rhwng y datganiadau taliadau a dderbyniwyd fel yn ôl y Ffurflen Flynyddol ac fel y nodwyd yn lyfr arian parod y Cyngor.

• Mae’r Cyngor yn adrodd balans benthyciadau o £5,000 yn y Ffurflen Flynyddol. Fodd bynnag, nid oes balans benthyciad wedi’u cofnodi gan Bwyllgor Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus i Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi. Nid yw’r Cyngor wedi darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r balans hwn yn y Datganiad Cyfrifyddu.

• Nid yw’r Cyngor wedi darparu cofrestr asedau sefydlog i gefnogi’r balans yn Llinell 12 o’r Datganiad Cyfrifyddu.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol

• Datganiad 4: Mae Adran 1 o Ddeddf Hawliau Llafur 1996 (ERA1996) yn mynnu bod y Cyngor yn darparu contract ysgrifenedig neu ddatganiad ysgrifenedig o delerau penodedig cyflogaeth i’w Glerc o fewn dau fis ar ôl dechrau cyflogaeth. Fodd bynnag, ni allwn sefydlu a yw’r Clerc wedi cael y termau llawn cyflogaeth.

Datganiad 4: Nid yw cadeirydd y Cyngor wedi llofnodi’r adroddiad blynyddol fel tystiolaeth o gymeradwyaeth y Cyngor ar y cyfrifon blynyddol

• Datganiad 3: Nid oes cofnodion o gyfarfodydd wedi’u cyhoeddi ers Ebrill 2025. Nid yw’r Cyngor yn cyhoeddi ar ei wefan y wybodaeth y mae’n ofynnol iddynt ei chyhoeddi’n electronig yn unol ag adran 55 Deddf Pwyllgor Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Trefniadau i sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau

• Nododd ein archwiliad dri thaliad a oedd yn fwy na £3,000. O dan reoliadau ariannol y Cyngor, dylai’r Cyngor wedi ceisio tri amcangyfrif ar gyfer pob contract ymgymmerwyd ag ef ar gyfer cyflenwi nwyddau/gwasanaethau.

• Ni ddarparodd y Cyngor unrhyw dystiolaeth bod yn cydymffurfio â’i reoliadau ariannol Materion eraill a argymhellion Tynnwyd sylw’r Cyngor at y materion a’r argymhellion canlynol nad ydynt yn effeithio ar farn archwilio ond y dylid eu hwynebu gan y Cyngor.

Diffyg Tystiolaeth Gefnogol ar gyfer derbyniadau a thaliadau

 Trwy gydol ein profion archwilio nodwyd nad oedd gan y Cyngor y lefel briodol o dystiolaeth gefnogol ar gyfer tri derbyniad grant a derbyniad un angladd. Argymhellwn y bydd y Cyngor yn cynnal llwybr archwilio digonol ar gyfer trafodion a dderbyniwyd.

Sieciau heb eu cyflwyno

Mae’r Cyngor yn adrodd dau siec hŷn heb eu cyflwyno, ysgrifennwyd y sieciau hyn ym mis Gorffennaf a Rhagfyr 2024.

Rydym yn argymell y dylai’r Cyngor adolygu tebygolrwydd y bydd y sieciau hyn yn cael eu hachosi. Os na chafodd y sieciau hyn eu hachosi, dylai’r Cyngor ystyried ysgrifennu’r sieciau hyn yn ôl i’r cyfrifon.

Nid yw’r Cyngor wedi darparu esboniad digonol am eu hailadroddiadau’r flwyddyn flaenorol.

Cafodd Hysbysiad o gwblhau’r archwiliad a’r hawl i archwilio’r ffurflen flynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 ei gyhoeddi ar 14/02/2026.

Mae’r adolygiadau canlynol yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn:

• Asesiad risg

• Cofrestr asedau

• Telerau ymrwymiad a phenodi Archwilydd Mewnol

Cynhaliwyd adolygiadau cyllideb hefyd drwy’r flwyddyn ac fe wnaethant ffurfio’r sail ar gyfer gosod y parasept  o £18,000 ar gyfer 2026-27.

Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Cynhaliodd y cyngor ymrwymiad cryf i fod yn agored a hygyrchedd drwy sicrhau bod cyfarfodydd arferol misol yn cael eu hysbysebu ac yn cael eu cynnal yn eglur. Datryswyd materion brys a phenodol mewn cyfarfodydd eithriadol a phwyllgor ychwanegol.

Gwnaed ymdrechion i gynyddu rhan y cyhoedd trwy:

• Lledaenu gwybodaeth trwy’r wefan, cyfryngau cymdeithasol a hysbysiadau print;

• Creu cyfleoedd i drigolion trafod â chynghorwyr yn uniongyrchol yn ystod cyfarfodydd;

• Cefnogi digwyddiadau a ddaeth â’r gymuned ynghyd a hwylusodd drafodaeth anffurfiol.

Roedd swydd y Clerc yn wag yn dilyn ymddiswyddiad y Clerc blaenorol ym Mehefin 2025. Yn dilyn cyngor gan Un Llais Cymru a gwerthusiad risg, penodwyd aelodau’r Cyngor dros dro, heb iawndal, i gyflawni dyletswyddau Swyddog Cyllid Cyfrifol (RFO) a Chlerc ac i sicrhau parhad gwasanaeth tan benodi Clerc a Swyddog Cyllid Cyfrifol parhaol ym Medi 2025.

Mae aelodau wedi cynnal a diweddaru Gwefan y Gymuned drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r Cyngor wedi cynnal ac archwilio’r Diffibriliwr Cyhoeddus a leolir ar y sgwâr.

Roedd y Cyngor wedi cyflwyno tendr ar gyfer y gwasanaeth torri glaswellt ar gyfer 2026-2027 ym mis Rhagfyr 2025, ac wedi cynnal ardaloedd glaswellt y fynwent a’r Eglwys, yn ogystal ag ardaloedd chwarae a maes chwarae.

Cynhaliwyd Gwasanaeth Dydd y Cofio ar 09/11/2025 wrth y Gofeb Rhyfel yn y fynwent, a arweiniwyd gan Gadeirydd y Cyngor a’r Parch. Carwyn Arthur. Fe osododd sefydliadau lleol a thrigolion torchau wrth y gofeb.

Cynllunio a Datblygu Lleol

Adolygodd y cyngor ac atebodd ymgynghoriadau statudol ynghylch ceisiadau cynllunio lleol gyda’r nod o sicrhau bod datblygiadau yn cyd-fynd â nodweddion y gymuned a chynhwysedd isadeiledd. Cafodd ystyriaethau effaith amgylcheddol a bioamrywiaeth eu hystyried ym mhob ymateb mawr.

Prif Lwyddiannau a Phrif Brosiectau

Adolygiadau Ffiniau Cymunedol

  • Mynychodd yr aelodau gyflwyniad gan Un Llais Cymru yn ymwneud â’r effaith o Adolygiad Ffiniau’r Gymuned.

Lywodraethu a Goruchwyliaeth Ariannol

  • Cafodd yr archwiliad blynyddol ar gyfer 2024-2025 ei gwblhau.
  • Cafodd monitro ariannol ei wneud bob mis, gydag adroddiadau ar incwm, gwariant, cronfeydd ac arian parod.
  • Mae’r cyngor wedi diweddaru manylion Mandad Banc a Chofrestr Risg.

Diogelwch a Lles Cymunedol

  • Roedd ymrwymiad rheolaidd gyda’r Heddwas Cymunedol Lleol (PCSO) yn galluogi adrodd effeithiol ar ddigwyddiadau a darparu diweddariadau heddlu cymunedol.
  • Mae’r cyngor wedi cynnal a gwirio’r Diffibriliwr Cyhoeddus wedi’i leoli ar y sgwâr.

Amgylchedd a Bioamrywiaeth

  • Ym mis Ionawr 2026, cymeradwyodd y Cyngor Cymunedol Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 – Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwrthsefyll Ecosystemau. Creodd hefyd Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer 2026-2028.
  • Mynychodd y Clerc ar ran Cyngor Cymuned hyfforddiant Un Llais Cymru ar Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth.
  • Adolygodd Swyddog Arfordir a Gwledig Cyngor Sir Ceredigion ac aelodau’r Cyngor lwybrau lleol yn Rhagfyr 2025 i sicrhau bod yr holl lwybrau yn hygyrch.
  • Cafodd 10 coeden eu plannu ar gefn y cae pêl-droed i ddisodli’r coed a dorrwyd yn 2019.

Digwyddiadau ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

  • Gosododd y Cyngor Coeden Nadolig a goleuadau ar y sgwâr, wedi’u rhoi yn garedig gan Richard Elliot, a threfnodd gystadleuaeth goleuadau Nadolig, gyda hamper gwobr wedi’i roi gan yr aelodau.
  • Cefnogodd y Cyngor Cymuned Ras Tractor Nadolig er mwyn elusen Uchel Siryf Dyfed.
  • Dathlodd y Cyngor Cymuned Dydd Gŵyl Dewi gyda gwasanaeth yn Eglwys Dewi Sant a dilynwyd gan gawl yn neuadd y pentref.
  • Darparwyd cefnogaeth ariannol i elusen Uchel Siryf Dyfed, Clwb Ffermwyr Ifanc, Cylch Ti a Fi a Helfa Gogerddan.

Cynnal a Chadw a Seilwaith y Pentref

  • Adroddiadau misol ar ddiffygiannau ffyrdd yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Sir Ceredigion.
  • Cafodd gwaith cynnal a chadw ar lwybrau cerdded ei gydlynu er mwyn gwella cyfleusterau cyhoeddus.
  • Cafodd materion ynghylch y fynwent eu hadolygu a’u dogfennu.
  • Cynhaliodd y cyngor yr ardaloedd o lawntiau yn y fynwent a’r Eglwys yn ogystal â’r caeau chwarae a mannau chwarae.

Cyfathrebu Strategol

  • Cafodd cyfathrebu mewnol ymhlith y cynghorwyr ei hwyluso gyda grŵp WhatsApp pwrpasol.
  • Cyfathrebu cyhoeddus trwy ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol, hysbysiadau printiedig a rhannu dogfennau digidol i sicrhau bod trigolion yn cael eu cadw’n wybodus.
  • Cynhaliodd a diweddarwyd aelodau wefan y Gymuned drwy gydol y flwyddyn.

Blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer 2026-2027

Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Chyngor Cymuned Llangeitho yn barod i’r newid Ffin Gymunedol ym Mai 2027. Y Cyngor Cymunedol yw Unig Ymddiriedolwr Neuadd y Pentref a Maes Hamdden Llanddewi-Brefi ac fe fydd yn ceisio cyngor proffesiynol i ystyried a allai strwythurau llywodraethu amgen, e.e. Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIO) fod yn fwy addas.

Bydd y Cyngor Cymunedol yn parhau i:

  • Hyrwyddo gwydnwch y gymuned drwy fentrau bioamrywiaeth, seilwaith digidol a chynnwys ieuenctid;
  • Sicrhau adnoddau a cheisio cynnal seilwaith o ansawdd uchel, gan gynnwys diffibriliwr, toiledau ac arwyddion.

Casgliad

Yn ystod 2025-26, mae Cyngor Cymunedol Llanddewi-Brefi wedi cydbwyso ei gyfrifoldebau statudol gydag ymrwymiad i edrych ymlaen at ddatblygu cymunedol. Gyda llywodraethu tryloyw, rheolaeth ariannol gadarn, a gwasanaeth aelodau ymroddedig, mae’r Cyngor wedi cryfhau’r sylfaen ar gyfer dyfodol ffyniannus a chynaliadwy.

Mae’r cyngor yn estyn ei ddiolch i’r trigolion, gwirfoddolwyr, sefydliadau partner, a phawb sy’n cyfrannu at fywyd ein cymuned. Edrychwn ymlaen at gydweithio eto yn 2026-2027.

Cau Ffordd Dros Dro – U1518 – Llanddewi-Brefi, Tregaron – 26/08/26

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro:

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:484/26
Rhif y Ffordd:

USRN
U1518 47101461
Lleoliad:Llanddewi Brefi, Tregaron https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:2bda75c0-be0e-4c8f-a2cc-4aabdb261690
Dyddiad ac amser:26/08/2026 08:00-17:00
Parhad:Yn ystod y cyfnod dan sylw
Gwaith:Gwaith polion  
Ymgeisydd:G T Williams ar rhan BT Openreach
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Cau Ffordd Dros Dro – U1513 – Llanddewi-Brefi, Tregaron – 26/08/26

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro:

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:481/26
Rhif y Ffordd:

USRN
U1513 47107903
Lleoliad:Llanddewi Brefi, Tregaron https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:c31bb8e0-11f9-4100-852c-57890c1b9b68
Dyddiad ac amser:26/08/2026 08:00-17:00
Parhad:Yn ystod y cyfnod dan sylw
Gwaith:Gwaith polion  
Ymgeisydd:G T Williams ar rhan BT Openreach
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd