1216
Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Wener, Gorffennaf 17eg am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.
Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.
Presennol:
Cynghorwyr : Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Eirwen James(EJ), John Griffiths(JG), Caryl Jones (CJ)
1.Croeso
Croesawyd pawb i’r cyfarfod.
2. I dderbyn ymddiheuriadau.
Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ) PCSO John Evans
3.Materion Personol .
Dymuno’n dda i Rhian Griffiths a fydd yn derbyn gwobr Myfyrwraig y Flwyddyn Adran Amaethyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn Sioe Frenhinol Cymru.
4.Datganiad o ddiddordeb.
Nid oedd unrhyw ddatgan o ddiddordeb ond atgoffwyd y cynghorwyr pe bai rhywbeth yn codi yn ystod y cyfarfod i nodi hyn.
5.Cyfranogiad y Cyhoedd.
Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Mehefin 15fed 2026
Cynigwyd i gadarnhau’r cofnodion – EJ Eilwyd gan – RE
I gadarnhau cofnodion cyfarfod arbennig Gorffennaf 9fed 2026
Cynigwyd i gadarnhau’r cofnodion – CJ Eilwyd gan – JG
7.Materion yn codi o’r cofnodion.
Gan nad yw’r Cyngor yn cyfarfod ym mis Awst a bod Neuadd yr Eglwys ar werth nodwyd a oedd y Cyngor Cymuned am nodi’r cyfraniad tuag at gostau argraffu llyfr yn cynnig cyfraniadau Cymunedol. Nodwyd bod cofnodion y cyfarfod yn nodi bod angen sicrhad ei bod wedi prynu’r eiddo yn gyntaf cyn gwneud cyfraniad. Os bydd angen nodi swm yn ystod mis Awst yna bydd yn rhaid cynnal cyfarfod arbennig.
Cyngor Cymuned wedi anfon llythyr ynglŷn â Gorchymyn Coed Arfaethedig i Gyngor Sir Ceredigion.
Cyngor Cymuned wedi anfon carden o gydymdeimlad i’r Cynghorydd PP.
Gydag Aelod o’r cyhoedd yn bresennol a oedd am drafod eitem yn rhestr gohebiaeth yn benodol munudau Ynni Bute Grŵp Cyswllt Cymunedol Lan Fawr cytunwyd i drafod yr eitem ar y pwynt yma. Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi’i dderbyn ynglŷn â ble fydd yr ynni yn ymuno a’r rhwydwaith na sut. Hefyd, dderbyniwyd gwybodaeth bod ymweliadau fferm yn digwydd ym mis Awst ynghyd a data am effaith dirgryniadau gan bob tyrbin gwynt.
Derbyniwyd diweddariad am yr ardd Gymunedol:
- Gwirfoddolwyr yn barhaus i chwynnu’r ardd;
- Angen asesu’r plastig sydd yn dal y cerrig yn y llwybr – oes angen tynnu’r plastig allan neu dderbyn mwy o gerrig i guddio’r plastig;
- Asesu beth sydd wedi tyfu yn yr ardd;
- Ystyried tyfu mintys a sage i gyflwyno planhigion sy’n arogleuo.
1217
8. Adroddiad yr Heddlu
Nid oedd PCSO John Evans yn bresennol ond yr oedd wedi anfon adroddiad o flaen llaw. Nid oedd unrhyw ddifrod troseddol, lladrad, ymddygiad anghymdeithasol, trais a thwyll wedi ei gofnodi ers y cyfarfod blaenorol. Yn dilyn ein cyfarfod blaenorol lle nodwyd bod ceir yn parcio ar balmentydd o amgylch y Pentref nodwyd bod yr heddlu yn monitro’r sefyllfa ac wedi cymryd rhif rhai cerbydau.
Nododd Aelod o’r Cyngor Cymuned bod pobol ifanc yn parhau i ddefnyddio e-sgwter o amgylch y Pentref heb roi unrhyw ystyriaeth i ddefnyddiwr eraill.
9. Adroddiad Ariannol
a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Fehefin 30ain 2026
b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:
£399.70 Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.
Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £103.93
c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £57.54 (Deddf Llywodraeth Leol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19). Nid yw’r gostyngiad o £11.18 wedi ei gymryd allan o’r bil o ganlyniad i gwyn a wnaed am ddiffyg ffôn am wythnos ar ddechrau Mai. Angen cysylltu â BT ynglŷn â’r mater yma.
(ii) Taliadau banc 13/05 – 14/06 – £9.10 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a.111
d) Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol
Lwfans y Cadeirydd 2025/26 – £50.00
Archwilio Cymru – £863.05
Zurich Municpial – Yswiriant Cyngor Cymuned – £358.77
e) Ni dderbyniwyd unrhyw daliadau.
10. Archwilio Cymru- Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-2026
Yn dilyn cymeradwyo’r cyfrifon ar 09/07/26, mae’r wybodaeth berthnasol wedi’i anfon i Archwilio Cymru. Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr wedi’i gosod yn hysbysfwrdd y Cyngor ynghyd a gwefan y Cyngor. Nodwyd yn sgil digwyddiad a chyn aelod seneddol a gwybodaeth gan Gyngor Sir Ceredigion, na ddylai’r clerc cwrdd ag etholwyr ar ben ei hun ond yn hytrach trefnu amser lle mae o leiaf un Cynghorydd ar gael i fynychu.
11. Trafodaeth am adolygiadau ffiniau cymunedol.
Darllenwyd trwy ymateb a dderbyniwyd gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion yn dilyn Cynghorau Llangeitho a Llanddewi-Brefi yn ysgrifennu llythyr ar y cyd gan ofyn Cwestiynau ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Hefyd darllenwyd llythyr a dderbyniwyd gan gyngor Cymuned Llandysiliogogo ynglŷn â’r newidiadau. Cytunodd y Cyngor Cymuned i anfon llythyr i Siân Gwenllian Gweinidog Llywodraeth Leol. Cyfarfod ar y cyd a Chyngor Cymuned Llangeitho wedi ei drefnu ar gyfer nos Lun, Gorffennaf 27ain am 8:00pm yn Neuadd Jiwbilî, Llangeitho.
12. Diffibriliwr
Nid oedd bocs Newydd mewn stoc pan edrychwyd y tro diwethaf. Cost y bocs Newydd yw £594 gan gynnwys TAW. Ceisiadau i British Heart Foundation wedi agor. Clerc i gwblhau’r ffurflen berthnasol.
13.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.
1218
14. Gohebiaeth
Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-
- Un Llais Cymru – Adolygiad Gymunedol Ceredigion
E Bwletin Un Llais Cymru Rhif 26
Rhifyn 3 ‘Y Llais’
Dyddiadau Hyfforddiant – Gorffennaf – Medi 2026
Beth mae cynghorau cymuned a thref yn ei gyflawni ledled Cymru
Prosiect Argyfwng Costau Byw – Gwbodaeth ac Adnoddau
- Cyngor Sir Ceredigion – Ymgynghoriad ar Bolisi Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) a
- Lleihau Arferion Cyfyngol (RRP)
Bwletin Costau Byw Mehefin
Ceredigion Oed Gyfeillgar
- Cyngor Sir Gaerfyrddin – Ymgynghoriad ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Drafft
- Bute Energy – Cofnodion Grŵp Cyswllt Cymunedol Lan Fawr
- Eisteddfod Llambed 2026
15. Unrhyw fater Arall
Cadnocomms wedi bod mewn cysylltiad ond nid oedd Dyddiad addas i gwrdd ar y cyd. Penderfynu gohirio’r cyfarfod tan fis Medi.
Twll yn yr heol ar bwys Gogoyan – gwneud cais trwy Clic i’w gywiro.
Torri porfa – tyfiant mawr yn y fynwent a nodwyd nad yw pob rhan wedi ei dorri eto. Cytunwyd i’r Clerc a’r Cadeirydd i gwrdd â’r contractiwr er mwyn amlinellu’r gwaith sydd angen ei wneud.
Angen cywiro’r fainc sydd yn Hyfrydle.
Pyst ar gyfer llwybr Pynfarch – pyst ar gael ond angen cysylltu â rhywun i’w gosod.
Cadeirydd wedi bod yn gofyn am amcanbris ar gyfer arwyddion Dim Cŵn ond heb dderbyn cadarnhad o bris eto.
16.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
14/09/2026
Daeth y cyfarfod i ben am 20:50.
This page is also available in: English