1212
Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Mehefin 15fed am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.
Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.
Presennol:
Cynghorwyr : Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Eirwen James(EJ), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ) PCSO John Evans
1.Croeso
Croesawyd pawb i’r cyfarfod.
2. I dderbyn ymddiheuriadau.
John Griffiths(JG) Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP), Caryl Jones (CJ)
3.Materion Personol .
Cydymdeimlo gyda John a Menna Griffiths yn dilyn marwolaeth tad a thad yng nghyfraith.
Cydymdeimlo gyda Pharch Carwyn Arthur ar golli ei fam.
Llongyfarch Sefydliad y Merched Llanddewi-Brefi am ddod yn ail yn y Rali Hâf yn ddiweddar.
Llongyfarch CFFI Llanddewi-Brefi am rali lwyddiannus gyda sawl aelod yn derbyn gwobr 1af, 2il a 3ydd.
Llongyfarch Sêr Dewi ac Ysgol Henry Richard am gynnal twrnamaint Pêl-droed llwyddiannus yn ddiweddar ar y cae pêl-droed. Cyngor Cymuned i anfon e-bost i’r ysgol yn eu llongyfarch am gynnal digwyddiad llwyddiannus.
Llongyfarch Ysgol Henry Richard am wneud mor dda yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.
Gydag aelod o’r gymuned yn bresennol ac am drafod agweddau o Adroddiad Bioamrywiaeth y Cyngor Cymuned cytunwyd i glywed ei chyflwyniad am Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Cyngor Cymuned gan glywed y gwaith mae gwirfoddolwyr wedi ymgymryd ag e yn barod ac awgrymiadau pellach.
Gyda PCSO John Evans yn bresennol cytunwyd i drafod Adroddiad yr Heddlu nesaf.
8. Adroddiad yr Heddlu
Nid oedd unrhyw ddifrod troseddol, lladrad, ymddygiad anghymdeithasol, trais a thwyll wedi ei gofnodi ers y cyfarfod blaenorol. Atgoffwyd yr aelodau bod ymgyrch yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i fobol rhoi cyllyll i mewn. Yn dilyn cofnod am ddefaid ar y ffordd B4343, roedd y Cyngor Sir wedi cymryd camau gweithredu yn ddiweddar. Cafwyd cwestiwn gan aelod o’r Cyngor ynglŷn â phobol sydd yn parcio cerbydau ar y palmant o amgylch y Pentref. Nodwyd bod bysiau a loriau hir yn cael trafferth i deithio trwy’r Pentref. Gofynnwyd cwestiwn pellach ynglŷn â nifer o fobol sydd yn mynychu’ r syrjeris cymunedol a gynhelir ar ddydd Mercher cyntaf y mis ger y fan Swyddfa Bost yn Hyfrydle. Nododd PCSO John Evans ei fod yn gwneud ymdrech i fynychu Caffi Dewi.
4.Datganiad o ddiddordeb.
Nid oedd unrhyw ddatgan o ddiddordeb ond atgoffwyd y cynghorwyr pe bai rhywbeth yn codi yn ystod y cyfarfod i nodi hyn.
5.Cyfranogiad y Cyhoedd.
Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Mai 11eg 2026
Cynigwyd i gadarnhau’r cofnodion – DLJ Eilwyd gan – GJ
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Mai 11eg 2026 – Cynigwyd gan – GJ Eilwyd gan – EJ
7.Materion yn codi o’r cofnodion.
Derbyniwyd neges gan Sêr Dewi yn diolch y Cyngor Cymuned am yr e-bost yn ei llongyfarch am ennill Adran 2 y Gynghrair.
1213
9. Adroddiad Ariannol
Roedd y Clerc wedi cysylltu â Banc Barclays er mwyn derbyn llyfr siec newydd. Pan dderbyniwyd y llyfr newydd gwelwyd bod y llyfr siec yn dechrau ar 00321. Er edrych trwy gwpwrdd ffeiliau ar holl ffeiliau eraill a dderbyniwyd wrth drosglwyddo o un clerc i’r llall ni lwyddwyd i ddod i’r llyfr siec gyda’r rhifau 00289 – 00320. Cytunwyd i ddefnyddio’r llyfr siec Newydd gan nodi ni fyddai’n bosib defnyddio y llyfr siec arall gan fod angen dau berson i arwyddo pob siec.
a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Mai 31ain 2026
b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:
£237.85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.
Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £59.20
c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £57.54 (Deddf Llywodraeth Leol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19). Nodwyd bydd gostyngiad o £11.18 yn y bil mis nesaf o ganlyniad i gwyn a wnaed am ddiffyg ffôn am wythnos ar ddechrau Mai.
(ii) Taliadau banc 13/04 – 12/05 – £13.30 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a.111
d) Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol
M J Construction – £2520.00
e) Ni dderbyniwyd unrhyw daliadau.
Nodwyd yn sgil paratoi Dogfennau ar gyfer Archwilio Cymru bod y clerc wedi gweithio 15 awr yn ychwanegol. Cytunwyd i dalu 15 awr ychwanegol i’r Clerc. Cynigwyd gan EJ; eilwyd gan DLJ.
Cytunwyd ar gytundeb y lanhawraig ag Ysgrifennydd Claddedigaeth. Clerc i drefnu bod y cytundebau yma yn cael eu harwyddo.
Derbyniwyd gohebiaeth gan SiopNi CBSC yn gofyn am gyfraniad tuag at gostau argraffu llyfr yn cynnig cyfraniadau Cymunedol. Mewn egwyddor cytunodd y Cyngor i wneud cyfraniad ar yr amod bod SiopNi CSBC wedi prynu’r adeilad. Swm i’w benderfynu mewn cyfarfod arall yn dilyn cadarnhad bod yr adeilad wedi’i brynu.
10. Archwilio Cymru- Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-2026
Gareth Jones wedi cytuno i gynnal archwiliad mewnol ac wedi derbyn y gwaith papur ar Fai 31ain. Yr oedd hefyd wedi derbyn copi o ‘Terms of Reference’ ar gyfer y swydd o gynnal archwiliad mewnol. Cytunwyd i gynnal cyfarfod arbennig ar nos Lun Mehefin 29ain er mwyn pasio’r wybodaeth.
11. Gorchymyn Cadw Coed
Derbyniwyd gohebiaeth ac ymweliadau gan drigolion oedd yn poeni am y Gorchymyn Coed ar 2 goeden yn Bridgend House. Roedd y trigolion yn gofidio am gyflwr y coed; bod y wal gerrig yn cael ei wthio allan i’r heol; bod canghennau’r goeden yn blocio golau’r haul gan amharu ar fywyd y bobol i fwynhau eu gerddi ynghyd a lles y trigolion yn poeni beth allai ddigwydd mewn storm neu ddigwyddiad o law trwm. Cytunwyd i ysgrifennu llythyr ar ran y Cyngor Cymuned i’r Cyngor Sir yn datgan ei gwrthwynebiad i’r gorchymyn.
12. Trafodaeth am adolygiadau ffiniau cymunedol.
Derbyniwyd gohebiaeth bellach gan Gyngor Cymuned Llangeitho a oedd yn awyddus i gynnal cyfarfod ar y cyd. Roeddynt wedi paratoi llythyr i’w gyflwyno i Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion yn amlinellu cwestiynau sydd angen eu hateb cyn i’r ddau gyngor uno. Cytunwyd i gynnig Nos Lun Mehefin 29ain fel dyddiad posib gan gwrdd mewn lleoliad yn Llangeitho am 8:00pm. Clerc i gysylltu â chlerc Llangeitho.
1214
13. Diffibriliwr
Yn dilyn gwaith ymchwil, mae’r Cyngor Cymuned wedi gweld bocs addas i ddisodli’r un sydd wrth y Foelallt Arms. Cytunwyd i brynu bocs Newydd ar gost o £549. Aros i wneud cais i British Heart Foundation cyn prynu un arall. Ceisiadau yn agor ym mis Gorffennaf. Pwynt agenda i’r cyfarfod nesa.
14.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.
15. Gohebiaeth
Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-
- Un Llais Cymru – Prosiect Argfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau
Newyddlen Cyllid Mai 2026
Newyddlen Cyllid Mehefin 2026
Dyddiadau Hyfforddiant – Mai-Mehefin 2026
E Bwletin 24
E Bwletin 25
Nodiadau Datblygu Ymarfer
- Cyngor Sir Ceredigion – Bwletin Costau Byw Mai
Cronfa Grantiau Bach Cydlyniad Cymunedol 2026/27
- Heddlu Dyfed Powys – Bwletin CHTh
- Bwrdd Iechyd Hywel Dda – Bwrdd Iechyd yn lansio strategaeth hirdymor wedi’i hadfywio
Dweud eich dweud ar wasanaethau fferyllol y dyfodol
Cynllun Gwasanaethau Clinigol – Gwasanaethau Strôc –
Ymgynghoriad Cam 2
- HAHAV Ceredigio – Gwahoddiad i’n Diwrnod Agored
- Cyngor Sir Caerfyrddin-Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (CDLl) 2018-2033
- Bwletin Mis Mai Cynnal y Cardi
- EFFAITH – cylchlythyr misol Llais
16. Unrhyw fater Arall
Manylion cyswllt gwefan – wrth glicio ar rif ffôn y clerc ar y gwefan mae’n ffonio tŷ’r Cadeirydd. Clerc wedi datrys y mater yn ystod y cyfarfod. Rhif ffôn yn canu i’r man cywir.
EJ am ddiweddaru ei llun ar y gwefan. Angen lluniau’r Clerc a Chynghorydd Gareth Jones. Gan taw hon fydd flwyddyn olaf o bosib Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi cyn uno a Llangeitho cytunwyd bod angen llun yr aelodau presennol. Cysylltu â Sue Ryder er mwyn gwneud hyn yn ystod yr Hydref.
Cadnocomms yn awyddus i gynnal cyfarfod gyda’r Cyngor Cymuned.
Torri porfa – tyfiant mawr yn y fynwent a nodwyd nad yw pob rhan wedi ei dorri eto. Cytunwyd i’r Clerc a’r Cadeirydd i gwrdd â’r contractiwr er mwyn amlinellu’r gwaith sydd angen ei wneud.
Angen cywiro’r fainc sydd yn Hyfrydle.
Pyst ar gyfer llwybr Pynfarch – pyst ar gael ond angen cysylltu â rhywun i’w gosod.
Cadeirydd wedi bod yn gofyn am amcanbris ar gyfer arwyddion Dim Cŵn ond heb dderbyn cadarnhad o bris eto.
17.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
13/07/2026
Daeth y cyfarfod i ben am 21:15.
This page is also available in: English