Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 11/05/2026

1206

Cofnodion cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Mai 11eg am 7:00pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr: Rhodri Evans(Cadeirydd) , Dafydd Lloyd Jones, Caryl Jones, Gareth Jones, Eirwen James.

I dderbyn ymddiheuriadau

Cynghorwyr: Beth Griffiths, John Griffiths, Pat Parry.

1.Ethol Cadeirydd i’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2026/27.

Etholwyd Cyng. Rhodri Evans yn Gadeirydd y Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2026/27.

Diolchodd Cyng Rhodri Evans i bawb am y cymorth yn ystod y flwyddyn gan edrych ymlaen at gydweithio unwaith eto’r flwyddyn nesaf er mwyn cynorthwyo a gwella seilwaith y gymuned.

Cynigwyd gan: Caryl Jones Eilwyd: Gareth Jones

2.Ethol Is-Gadeirydd I’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2026/27.

Etholwyd Cyng. John Griffiths yn Is-gadeirydd y Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2026/27.

Cynigwyd gan: Caryl Jones Eilwyd: Gareth Jones

3.Derbyn Datganiad derbyn Swydd gan y Cadeirydd.

Arwyddwyd datganiad derbyn swydd gan y Cadeirydd am y flwyddyn 2026-2027.

I gadarnhau cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Cymuned a gynhaliwyd ar Fai 12fed 2025.

Cynigwyd bod y cofnodion yn gywir –  Dafydd Lloyd Jones.   Eilwyd gan Gareth Jones.

Dim materion yn codi.

4. Ystyried a chymeradwyo Adroddiad  Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi 2025/26

Anfonwyd yr adroddiad drafft i aelodau cyn cyfarfod Ebrill. Yn dilyn y clerc yn mynychu Cwrs Un Llais Cymru ar gyfrifon diwedd blwyddyn  cytunwyd i gynnwys manylion pellach o dan adroddiad Archwilio Cymru. 

5.Derbyn Datganiadau ddiddordeb/rhagfarn.

Dim.

6.Apwyntio Pwyllgorau a Gweithgorau:

Pwyllgor Rheoli’r Neuadd.

Cytunwyd bod aelodau presennol o’r Cyngor Cymuned yn aelodau o’r pwyllgor rheoli gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor. Er hyn, gyda newidiadau yn ffiniau cymunedol yn weithredol o fis Mehefin 2027 bydd angen adolygu strwythur y Pwyllgor gyda’r angen i gynnal Cyfarfod Blynyddol yn gynnar yn 2027 cyn bod y newidiadau yn digwydd.

1207

Gweithgor Bioamrywiaeth (Dyletswydd dan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 Adran 6)

Etholwyd Cynghorwyr Rh Evans, G Jones ag E James yn aelodau o’r Pwyllgor. Cytunwyd i ofyn i aelodau o’r gymuned sydd ag arbenigedd a dealltwriaeth o faterion bioamrywiaeth i roi Cyngor a chydweithio a’r Grŵp Bioamrywiaeth. 

7. Apwyntio Cynrychiolwyr.

a. Pwyllgor Ardal Un Llais Cymru.

 Cynghorwyr Rhodri Evans ag Eirwen James i barhau am 2026-2027.

8.Cyfradd ad-dalu.

I adolygu’r canlynol:

a.Lwfans Cadeirydd.

£50 i’w hawlio am 2025-2026. Cafodd Lwfans Cadeirydd 2024-25 ei gyfrannu tuag at elusen Uchelsiryf Dyfed – Ambiwlans Awyr Cymru.

b.Lwfans Aelodau.

Dim wedi ei hawlio am 2025-2026.

Nodwyd bod ffurflen papur ar gael er mwyn hawlio’r lwfans. Hefyd byddai unrhyw aelod sydd am gymryd y lwfans yn cael ei henwi ar gofnodion ariannol y Cyngor Cymuned.

9.Adolygu Cofrestr Asedau Sefydlog.

Darllenodd yr aelodau trwy gynnwys Cofrestr Asedau Sefydlog a chytunwyd i gadw popeth yr un peth.  

10.Adolygu a derbyn Rheolau Sefydlog a Rheoliadau Ariannol.

Darllenodd yr aelodau trwy gynnwys dogfen Rheolau Sefydlog a ddarparwyd gan Un Llais Cymru.  

11.Penderfynu a oes angen adolygu trefn gwyno’r Cyngor Cymuned.

Derbyniodd yr aelodau’r polisi o flaen llaw trwy e-bost. Cytunodd pawb i dderbyn y polisi. Roedd y polisi wedi’i baratoi gan Un Llais Cymru.

12.Adolygu Cofrestr Asesiad Risg y Cyngor Cymuned.

Cytunodd yr aelodau i dderbyn y Gofrestr Asesiad Risg yn dilyn y newidiadau canlynol:

Newid lefel risg methu cwrdd â gofynion Deddf Iaith Gymraeg o Uchel i Isel gan fod pob dogfen a gynhyrchir gan y Cyngor Cymuned yn ddwyieithog.

Cynnwys risg ynglyn a deddfwriaeth Diogelu Data.

13.Adolygu trefniadau Yswiriant y Cyngor.

Cytunodd yr aelodau i dderbyn yr amcanbris a dderbyniwyd yn ddiweddar gan Zurich.

Cynigwyd gan –  Rhodri Evans.   Eilwyd gan Caryl Jones.

14.Adolygu gweithdrefnau a pholisiau’r Cyngor mewn cysylltiad â’i rwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR)

Cytunodd y Cyngor nad oedd angen adolygu’r gweithdrefnau.

15.Adolygu Polisiau Amddiffyn a Diogelu Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi. 

Adolygwyd y polisi yng nghyfarfod Tachwedd. Nid oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.

1208

16.Adolygu Polisi Grantiau’r Cyngor.

 Cytunodd y Cyngor i dderbyn Polisi Grantiau’r Cyngor.

17.Adolygu polisiau cyflogaeth a gweithdrefnau’r Cyngor .

Cytunodd y Cyngor i dderbyn y  polisiau canlynol – Polisi Cydraddoldeb ac Amrywioldeb; Polisi Cwynion a Pholisi Disgyblu.

18.Adolygu gwariant y Cyngor a dynnwyd o dan a.137 o ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

£1715 wedi’i dalu o dan a.137 am y flwyddyn 25/26. Nid oedd yn agos i’r swm a ddynodwyd ar gyfer rhoddion.

19.Adolygu Cynllun Hyfforddiant Statudol.

Adolygodd y Cyngor yr Hyfforddiant a dderbyniwyd yn 2025/26 ar Fioamrywiaeth a Newid Ffiniau Cymunedol. Trafodwyd anghenion Hyfforddiant 2026-27 a nodwyd yr angen am Hyfforddiant ar Fioamrywiaeth; Cyfrifon Diwedd Blwyddyn a newidiadau ffiniau cymunedol. Penderfynodd y Cyngor i dderbyn y Cynllun Hyfforddiant Statudol.

20.Penderfynu amser a lleoliad cyfarfodydd y Cyngor llawn hyd at/gan gynnwys y Cyfarfod Blynyddol y Cyngor llawn nesaf.

Cytunodd y Cyngor i gynnal cyfarfodydd ar yr ail nos Lun o’r mis trwy 2026-27 heb law mis Mehefin gan fod twrnamaint pêl-droed yn cael ei gynnal. O ganlyniad, cynhelir cyfarfod Mehefin ar y trydedd nos Lun sef Mehefin 15fed.

Hefyd cytunwyd i gynnal Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar Fai 10fed 2027 yn neuadd bentref Llanddewi-Brefi.

This page is also available in: English