Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 11/05/26

 1209

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Mai 11eg am 8:00pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Caryl Jones (CJ), Eirwen James(EJ), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ)

1.Croeso

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

John Griffiths(JG) Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP), PCSO John Evans

3.Materion Personol .

Llongyfarch clwb pêl-droed Sêr Dewi ar ennill Adran 3 y Gynghrair Pêl-droed ar ddydd Sadwrn Mai 9fed. Dymunwyd pob llwyddiant iddynt yn Adran 2 y tymor nesaf.

Llongyfarch Rhian Griffiths, Gogoyan ar ennill gwobr ‘The Farmers Club Pinnacle Awards for Excellence in Business Management’.

Diolch i bawb sydd wedi bod yn cynorthwyo i gynnal a chadw’r maes chwarae a’r cae pêl-droed.  

4.Datganiad o ddiddordeb.

Nododd Gareth Jones datganiad o ddiddordeb ynglŷn â phwynt 12 rhan 1 o’r cyfarfod.

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Ebrill 13eg 2026

Cynnigwyd i gadarnhau y cofnodion –  CJ   Eilwyd gan – DLJ

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Cam dreiglo – ei penblwydd nid ei benblwydd

Yn dilyn anfon e-bost i Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â phwynt agenda Gorchymyn Cadw Coed arfaethedig yng nghyfarfod Rhagfyr 2025 ar Ebrill 7fed ni dderbyniwyd unrhyw neges bellach.

Ceisiadau Cynllunio ar wefan y Cyngor Cymuned.

Ffôn yn y blwch ffôn ar y sgwâr yn gweithio.  

8. Adroddiad yr Heddlu

Nid oedd PCSO John Evans yn gallu mynychu’r cyfarfod ond yr oedd wedi anfon adroddiad o flaen llaw. Nododd ar 27/04/26 bod yr heddlu wedi derbyn adroddiad gan Goedwigoedd Till Hill bod tân mynydd heb ei reoli yn ardal Llanddewi Brefi i Fynydd Tyn Cornel ar 08/04/26. Nododd Till Hill nad oedd unrhyw ystyriaethau diogelwch tân mewn lle. Lledaenodd y tân i goetir a oedd yn cael ei reoli gan Till Hill gan achosi difrod i goed. Cafodd difrod troseddol ei chofnodi. Ni chofnodwyd unrhyw ladrad pellach ers digwyddiad i swm o olew gael ei gymryd o danc olew.  Nid oedd unrhyw achos o ymddygiad anghymdeithasol, difrod troseddol, trais a thwyll.

Yn dilyn anfon e-bost am ddefaid ar yr heol B4343, roedd yr Heddlu yn parhau i fonitro’r sefyllfa. Hefyd nid oedd yr Heddlu wedi gweld unrhyw blant yn teithio yn gyflym ar sgwteri/beiciau trwy’r Pentref.  

Roedd sawl aelod wedi lawrlwytho ap Dyfed Powys Connects. Trafodwyd bod angen rhoi mwy o rybudd am ddigwyddiadau megis Syrjeri Gymunedol.

1210

9. Adroddiad Ariannol

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Ebrill 30ain 2026

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:

£238.25  Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.

Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £59.20

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £57.54 (Deddf Llywodraeth Leol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19) sy’n gynnydd ers Ebrill 1af 2026

(ii) Taliadau banc 13/03 – 12/04 – £12.70 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol

      Aelodaeth Un Llais Cymru – £149.00

e) Derbyniwyd Rhandaliad 1af Praesept a Grant Mynwent yn ôl Gwariant 2024-25

Angen talu Marc Jones am y gwaith o dynnu gwreiddiau coed y tu ôl i’r cae pêl-droed.

Angen adolygu cytundeb y lanhawraig ag Ysgrifennydd Claddedigaeth.

Pwynt agenda’r cyfarfod nesaf – Oriau Ychwanegol y Clerc i baratoi Dogfennau ar gyfer Archwilio Cymru.

10. Archwilio Cymru- Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-2026

 Roedd y clerc wedi mynychu Hyfforddiant a ddarparwyd gan Un Llais Cymru ar Ebrill 29ain er mwyn derbyn gwybodaeth a chanllawiau Archwiliad Sylfaenol 2025-2026. Aethpwyd trwy gyfrifon y flwyddyn gan gwblhau ffurflen Dychweliad Blynyddol am y flwyddyn yn gorffen Mawrth 31ain 2026  ynghyd â Datganiad Llywodraethu Blynyddol; cwblhau’r llythyr cychwynnol ac egluro’r gwahaniaethau rhwng cyfanswm eleni a’r flwyddyn ddiwethaf. Cytunwyd i ofyn i Gareth Jones i gynnal yr archwiliad mewnol gan gwblhau ffurflen ‘Terms of Reference’ gan Un Llais Cymru cyn ymgymryd â’r dasg.

 11.  Trafodaeth am adolygiadau ffiniau cymunedol.

Mae angen trefnu cyfarfod gyda Chyngor Cymuned Llangeitho er mwyn trafod y camau nesaf. Ond yn gyntaf mae angen edrych ar gyfansoddiad Pwyllgor y Neuadd. I’w gadw fel pwynt i’r agenda nesaf. 

12. Cais Cynllunio A260173 – Land Adj. Llwyndewi,  Llanddewi Brefi, Tregaron, SY25 6RR

Gadawodd Cynghorydd Gareth Jones y cyfarfod. Roedd eisoes wedi cwblhau ffurflen datganiad o ddiddordeb. Edrychwyd ar a thrafodwyd y cynllun arfaethedig. Cynllun Draenio wedi’i gymeradwyo gan  Adran Priffyrdd. Yn dilyn trafodaeth hir penderfynodd y cynghorwyr i nodi’r angen am ganran uwch o dai fforddiadwy yn rhan o’r cynllun.  

Yn dilyn diwedd y drafodaeth, dychwelodd Cynghorydd Gareth Jones i’r cyfarfod.

Cais Cynllunio A260208 – Crug, Llanddewi Brefi, Tregaron, SY25 6PE

Edrychwyd a thrafodwyd cynnwys y cynllun arfaethedig. Mae cynllun yn dod o dan LU09 ond nododd y cynghorwyr nad oedd llawer o adfeilion ar ôl.

13. Diffibriliwr

Nid yw’r Cyngor Cymuned wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach hyd yn hyn.

Penderfynwyd cynnwys y pwynt yma ar agenda’r cyfarfod nesaf.

14.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

1211

15. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

  • Un Llais Cymru – Prosiect Argfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau

                             Newyddlen Cyllid Ebrill 2026 

                             Lansio Adduned Un Llais Cymru ar Cwrteisi a Parch                         

                             E Bwletin 22

                             E Bwletin 23

                             Y Llais – Rhifyn 2

  • Cyngor Sir Ceredigion – Wythnos Ffoaduriaid 2026

                                       Bwletin Costau Byw Ebrill

                                       Ymgynghoriad: Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr

  • Newyddion : CAB Ceredigion Citizens Advice
  • EFFAITH – cylchlythyr misol Llais

16. Unrhyw fater Arall

Derbyniwyd gohebiaeth gan Barc Ynni Lan Fawr yn nodi bod cyfarfod yn cael ei gynnal ar nos Fawrth Mai 12fed yn Neuadd Llanfair Clydogau. Yn anffodus nid oedd unrhyw Gynghorydd yn gallu mynychu’r cyfarfod.

Ar ddydd y cyfarfod, roedd y clerc wedi derbyn gohebiaeth gan Cadnocomms yn gofyn am gyfarfod trwy Teams ar Fai 12fed neu 13eg. Nodwyd nad oedd hyn yn ddigon o rybudd gyda’r clerc i anfon neges iddynt roi dyddiadau pellach er mwyn cynnal cyfarfod.

Baw ci o amgylch y Pentref – angen gosod arwyddion o amgylch y Pentref i atgoffa perchnogion cŵn.

Angen cywiro’r fainc sydd yn Hyfrydle.

Angen edrych ar y faner wrth y fynwent.

Angen gosod y bin Newydd yn y fynwent.

Pyst ar gyfer llwybr Pynfarch – pyst ar gael ond angen cysylltu â rhywun i’w gosod.

17.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

15/06/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 21:35.

This page is also available in: English