Agenda Cyfarfod Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 13/07/26

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Gorffennaf 13eg 2026 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Datgan Diddordeb
  5. Cyfranogiad y cyhoedd
  6. Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Mehefin 15fed 2026
  7. Materion yn codi
  8. Adroddiad yr Heddlu
  9. Materion Ariannol
    • Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Mehefin 30ain 2026
    • Awdurdodi taliadau –
      • Staff a thaliadau cyfrinachol
      • Taliadau cylchol – Teleffon a band eang y Neuadd BT
    • Taliadau Banc
    • Taliadau a dderbyniwyd
  10. Archwilio Cymru – Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-26
  11. Newid Ffiniau Cymunedol
  12. Diffibriliwr
  13. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  14. Gohebiaeth
    • Un Llais Cymru
      • Adolygiad Gymunedol Ceredigion
      • E Bwletin Un Llais Cymru Rhif 26
      • Rhifyn 3 ‘Y Llais’
      • Dyddiadau Hyfforddiant – Gorffennaf – Medi 2026
      • Beth mae cynghorau cymuned a thref yn ei gyflawni ledled Cymru
      • Prosiect Argyfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau
    • Cyngor Sir Ceredigion
      • Ymgynghoriad ar Bolisi Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) a Lleihau Arferion Cyfyngol (RRP)
      • Bwletin Costau Byw Mehefin
      • Ceredigion Oed Gyfeillgar
    • Cyngor Sir Gaerfyrddin – Ymgynghoriad ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Drafft
    • Bute Energy – Cofnodion Grŵp Cyswllt Cymunedol Lan Fawr
    • Eisteddfod Llambed 2026
  15. Unrhyw fater arall
  16. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Medi 14eg 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

This page is also available in: English