Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Rhagfyr 8fed 2025 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
Agenda
- Croeso
- Derbyn Ymddiheuriadau
- Materion Personol
- Datgan Diddordeb
- Cyfranogiad y cyhoedd
- Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Tachwedd 10fed 2025
- Materion yn codi
- Apwyntio Is Gadeirydd
- Materion Ariannol
- Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Tachwedd 30ain 2025
- Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol
- Taliadau cylchol
- (i) Teleffon a band enag y Neuadd BT
- (ii) Taliadau Banc
- Llog Banc a Dderbyniwyd
- Taliadau a dderbyniwyd – Ad daliad Torch Pabi Coch
- Adolygu Cyfnod Prawf y Clerc
- Ystyried tendrau ar gyfer torri porfa 2026 & 2027
- Adroddiad Adran 6 Bioamrywiaeth
- Gohebiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru
- Gorchymyn Cadw Coed
- Diweddariad Taith Tractor er budd elusen Ann Jones, Uchel Siryf Dyfed
- Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
- Datblygiadau Ynni Waun Maenllwyd / Lan Fawr / Bryn Rhudd
- Ceisiadau Cynllunio
- a) A250891 – Gwyncoed Fawr, Llanddewi Brefi, SY25 6PD
- b) A250894 – Mountain Gate, Llanddewi Brefi, SY25 6NY
- Adroddiad PCSO
- Cystadleuaeth Golau Nadolig / Noson Canu Carolau o amgylch y goeden
- Cinio Blynyddol
- Cynnig am rodd i Helfa Gogerddan
- Gohebiaeth
- Hyfforddiant am ddim i Cynghorwyr – Un Llais Cymru
- Cylchlythyr Rhifyn 2 2025 – Un Llais Cymru
- Prosiect Argyfwng Costau Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau – Un Llais Cymru
- Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru – 21/01/2026
- EFFAITH – cylchlythyr allanol pob mis Llais Cliciwch am y fersiwn Gymraeg.
- Cynlluniau Strategol Ynni Rhanbarthol Cymru
- Ymgynghori â rhanddeiliaid ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig – Mynyddoedd Cambria
- https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/forest-planning-cynllunio-coedwig/forest-resource-plan-cambrian-mountains-2025/
- Bwletin Mis Tachwedd Cynnal y Cardi
- Apêl Cronfa Cyfle i Bawb Urdd Gobaith Cymru 2026
- Bwletin Costau Byw – Cliciwch ar y ddolen hon i ddarllen y bwletin ar-lein
- Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
24. Unrhyw fater arall
25. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Ionawr 12fed 2026 am 7:30pm
GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org
This page is also available in: English