Agenda Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 11/05/2026

Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Cyngor nos Lun Mai 11eg 2026 am 7pm yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hodffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org  ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA:

  1. Ethol Cadeirydd i’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2026/27.
  2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn 2026/27.
  3. Derbyn  Datganiad Derbyn Swydd gan y Cadeirydd.
  4. Ystyried a chymeradwyo  adroddiad blynyddol drafft Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 2025/26 .
  5. Derbyn datganiadau diddordeb/rhagfarn.
  6. Apwyntio Pwyllgorau a  a Gweithgorau:
  7. Apwyntio Cynrychiolwyr
    • Pwyllgor Un Llais Cymru.
  8. Cyfradd ad-dalu.
    • Adolygu’r canlynol:
      • Lwfans Cadeirydd.
      • Lwfans aelodau
  9. Adolygu’r cofrestr asedau sefydlog.
  10. Adolygu a derbyn Rheolau sefydlog a Rheoliadau Ariannol.
  11. Penderfynu a oes angen adolygu trefn gwyno’r Cyngor Cymuned.
  12. Adolygu Cofrestr Asesiad Risg y Cyngor Cymuned.
  13. Adolygu trefniadau Yswiriant y Cyngor.
  14. Adolygu gweithdrefnau a pholisïau’r Cyngor mewn cysylltiad â’i rwymedigaethau o dan Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR).
  15. Adolygu polisïau Amddiffyn a Diogelu cyngor Cymuned Llanddewi Brefi. 
  16. Adolygu Polisi Grantiau’r Cyngor
  17. Adolygu polisïau cyflogaeth a gweithdrefnau’r Cyngor.
  18. Adolygu gwariant y Cyngor a dynnwyd o dan a.137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
  19. Adolygu’r Cynllun Hyfforddiant Statudol.
  20. Penderfynu amser a lleoliad cyfarfodydd y cyngor llawn hyd at/gan gynnwys y Cyfarfod Blynyddol y Cyngor llawn nesaf.

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

This page is also available in: English