1199
Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Mawrth 9fed am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.
Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.
Presennol:
Cynghorwyr : Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Caryl Jones (CJ), Eirwen James(EJ), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ), John Griffiths(JG), PC Liz Jenkins
1.Croeso
Croesawyd pawb i’r cyfarfod.
2. I dderbyn ymddiheuriadau.
Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP)
3.Materion Personol .
Llongyfarch CFFI Llanddewi-Brefi am gynhyrchu sioe Hanner Awr o adloniant arbennig yn ddiweddar wrth gystadlu yng nghystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant CFFI Ceredigion. Hefyd eu llongyfarch am gynnal noson o adloniant ar nos Iau, Mawrth 5ed. Nodwyd enw Daniel Evans ymysg un o’r Actorion Gorau yn y gystadleuaeth.
4.Datganiad o ddiddordeb.
Nid oedd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb ond atgoffwyd yr aelodau am yr angen i wneud hyn os fyddai yn codi yn ystod y cyfarfod.
5.Cyfranogiad y Cyhoedd.
Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Chwefror 9fed 2026
Cynnigwyd i gadarnhau y cofnodion – EJ Eilwyd gan – DLJ
7.Materion yn codi o’r cofnodion.
Anfonwyd carden o gydymdeimlad ar ran y Cyngor cymuned i deulu’r diweddar cyn Cynghorydd Wynne Davies.
Roedd Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi wedi derbyn ymateb gan Gyngor Tref Tregaron ynglŷn â dŵr ar draws yr heol rhwng Abercoed a Fforest. Nodwyd bod Cyngor Tref Tregaron wedi cwyno i Gyngor Sir Ceredigion am y dŵr gan ofyn i Gyngor Cymuned Llanddewi-Brefi i wneud yr un peth. Cwblhawyd ffurflen i’r adran berthnasol trwy ‘Clic’ ar Chwefror 16eg.
Cwblhawyd pum ffurflen arall trwy ‘Clic’ am y materion canlynol:-
Tyllau yn yr heol rhwng Pant a Nantydderwen – Neges gan Gyngor Ceredigion – gwaith wedi’i gwblhau. Er bod y Cyngor Cymuned yn ddiolchgar i’r Cyngor Sir am atgyweirio’r tyllau nid yw’r gwaith o safon ddigonol.
Tyllau yn yr heol ger mynediad Ystrad Dewi – Swyddogion y Cyngor yn parhau i ymchwilio i’r mater.
Cangen yn hongian dros wifrau ger Nantydderwen – Swyddog o’r Cyngor wedi bod yn archwilio gan ddatgan nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.
Draenau rhwng Hyfrydle a Bronhelem – Swyddog o’r Cyngor yn parhau i ymchwilio i’r mater.
Draenau rhiw cwar – Swyddog o’r Cyngor yn parhau i ymchwilio i’r mater.
Mandad cyfrifon Cyngor Cymuned wedi’i gwblhau.
1200
Derbyniwyd gohebiaeth bellach gan Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â thrafodaeth cyfarfod Rhagfyr am Orchymyn Cadw Coed. Mae’r cofnodion wedi’i mireinio i adlewyrchu taw aelodau o’r gymuned a wnaed y sylwadau ynghdd a nodi bod yr aelod o’r Cyngor Cymuned a oedd wedi datgan diddordeb wedi cwblhau’r ffurflen berthnasol cyn y cyfarfod ynghyd a gadael yr ystafell. Roedd yr e-bost yn gofyn am ymateb y Cyngor Cymuned a chytunwyd i ddanfon yr ateb canlynol – ‘Atodwn gofnodion diwygiedig sy’n datgan bod yr aelod o’r Cyngor Cymuned a nodwyd wedi cwblhau’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb cyn y cyfarfod a’i bod wedi gadael yr ystafell’.
Diolchwyd i bawb am gydweithio gyda digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth y 1af gan sicrhau digwyddiad llwyddiannus. Diolch i Yvonne, New Inn am baratoi a gweini’r cawl, i aelodau Caffi Dewi am weini’r te a choffi ac aelodau SYM am baratoi’r pice ar y maen ac aelodau CFFI am baratoi’r Bara Brith. Cytunwyd i anfon e-bost i bawb am gynorthwyo. Diolch i BG am gasglu’r llysiau a bwydydd eraill o Aberystwyth a Thregaron ac i EJ am werthu nifer fawr o docynnau. EJ wedi anfon llythyr o ddiolch i Parch Carwyn Arthur a Sandra Jones am gynnal y Gwasanaeth.
Gosodwyd hysbysiad Tystysgrif Archwilio Awdit Cymru 2024-25 yn hysbysfwrdd y Cyngor Cymuned.
Nid oedd PC Liz Jenkins yn bresennol ar y pryd felly symudwyd pwynt 8 i lawr yr agenda.
9. Adroddiad Ariannol
a) Gan nad oedd y Mandad Banc wedi’i gwblhau cyn bod y Datganiadau wedi’u bostio allan gan Fanc Barclays nid oedd y Clerc wedi derbyn y Datganiadau diweddaraf ac o ganlyniad nid oedd yn bosib cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Chwefror 28ain 2026. Bydd y Clerc yn casglu’r Datganiadau gan y cyn-clerc yn ystod yr wythnos yn dilyn wedi iddynt ddychwelyd o’u gwyliau.
b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:
£281.61 Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.
Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £78.51 i gadw y taliadau yn gyfredol.
Awdurdodi talu treuliau’r clerc – inc a stampiau postio – £26.56 Deddf Llywodraeth Lleol 1972 A.111
c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £52.74 (Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19);
(ii) Taliadau banc 13/01 – 12/02 – £15.10 Deddf Llywodraeth Lleol 1972 a.111
d) Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol –
C H Jones Ad-daliad Mins Peis ar gyfer Noson Canu Carolau – £15.94 (Deddf Llywodraeth Lleol 1972A.145);
CCF – Hadau Porfa – £59.23
Krystal Hosting Ltd – £98.39 Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19
10.Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028
Aethpwyd trwy Gynllun Drafft a oedd yn cynnwys amcanion y Cyngor Cymuned am y tair blynedd nesaf. Mireinio rhai nodweddion cyn eu e-bostio i’r Cynghorwyr i’w basio yn y cyfarfod nesaf.
11. Diweddariad SiopNi
Roedd cynrychiolwyr o SiopNi yn bresennol yn y cyfarfod. Nid oedd wedi bod yn bosib dilyn cynllun A sef prynu’r siop leol. O ganlyniad maent yn canolbwyntio ar gynllun B sef prynu Neuadd yr Eglwys. Bydd Neuadd yr Eglwys yn mynd ar werth yn fuan gydag asiantaeth Brodyr Evans. Mae archwiliad adeiladol a phrisiad wedi cymryd lle. Bwriedir cynnal cyfarfod rhanddeiliad ar nos Iau, Mawrth 26ain am 7:30pm yn New Inn. Bwriedir lansio gwefan a chynnal ymgynghoriad cymunedol.
1201
Ar y pwynt yma cyrhaeddodd PC Liz Jenkins y cyfarfod a chytunwyd i drafod Pwynt 8 yr agenda.
8. Adroddiad yr Heddlu
Nid oedd llawer wedi digwydd ers y cyfarfod blaenorol. Roedd PC Jenkins wedi derbyn yr e-bost o’r cyfarfod blaenorol ynglŷn â chyflymder ceir trwy’r pentref yn yr ardal 20mya. PC Jenkins wedi bod yn siarad â’r adran Go Safe i weld a oedd modd iddynt ddod i Landdewi-Brefi. Nid oedd wedi derbyn ymateb hyd yn hyn. Nododd aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol bod damwain wedi digwydd yr wythnos diwethaf lle’r oedd fan a oedd yn dosbarthu parseli wedi bwrw car arall. Nododd aelod arall o’r cyhoedd ei bod wedi gorfod symud i ben clawdd yn ddiweddar pan oedd dau gar yn gyrru yn gyflym trwy’r Pentref.
Nodwyd bod Mater Cymdogaeth wedi digwydd yn ddiweddar a bod yr Heddlu yn cydweithio ag Asiantaeth Tai Barcud er mwyn datrys y broblem.
Atgoffwyd am ap Heddlu Dyfed Powys gydag anogaeth i bawb i lawrlwytho’r ap.
Gofynnodd aelod o’r Cyngor Cymuned a oedd cynllun marcio beiciau cwad yn parhau a nododd PC Jenkins ei fod yn parhau hyd nes bod ganddynt stoc.
Roedd aelod o’r Cyngor wedi derbyn cwynion am blant yn gyrru beiciau sgwter yn gyflym trwy’r Pentref gan beryglu gyrwyr ceir.
Nododd PC Jenkins fydd manylion pellach am gymryd gofal wrth losgi porfa yn dod ym mhen y mis o ganlyniad i’r holl danau a ddigwyddodd llynedd. Hefyd bydd negeseuon am gerbydau 4×4 yn teithio ar dir mynyddig.
12. Trafodaeth yn dilyn cyflwyniad Un Llais Cymru – Beth mae angen I chi wybod am adolygiadau ffiniau cymunedol.
Yn dilyn mynychu’r cyflwyniad ar nos Lun Chwefror 16eg penderfynwyd bod angen cysylltu ag Un Llais Cymru er mwyn gweld a oedd modd iddynt gynnal gweithdŷ pellach mewn partneriaeth a Chyngor Cymuned Llangeitho. Hefyd nodwyd yr angen am drafodaeth ynglŷn â strwythur Pwyllgor Gwaith y Neuadd yn dilyn y newidiadau i’r ffiniau cymunedol.
13.Cais Cynllunio
A260072 – Ochrdewi, Llanddewi-Brefi, SY25 6NZ – Dim gwrthwynebiad.
Cafwyd trosolwg o amcanion y cynllun gan ddeiliaid y cartref a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Penderfynwyd anfon y neges ganlynol ar ran y Cyngor Cymuned i Adran Gynllunio Cyngor Sir Ceredigion – ‘ Dim gwrthwynebiad – Mae Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi yn cefnogi’r cais gan sicrhau busnes hyfyw’.
14. Diffibriliwr
Trafodwyd yr angen i brynu diffibriliwr Newydd i’w osod yn y Ganolfan Gymuned. Darllenwyd gwybodaeth a dderbyniwyd gan gwmni AED ynglŷn â chost diffibriliwr ganddynt. Nodwyd bod ‘British Heart Foundation’ yn cynnig diffibriliwr am ddim i gymunedau trwy geisiadau ym mis Mehefin. Trafodwyd yr angen am orchudd newydd ar gyfer y diffribriliwr sydd ar y sgwâr.
Penderfynwyd cynnwys y pwynt yma ar agenda’r cyfarfod nesaf.
15.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.
1202
16. Gohebiaeth
Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-
- Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru 2026
- E-Bwletin Un Llais Cymru Rhifyn 17 / E Bwletin Un Llais Cymru rhif 18
- Big Belly Smart Bins – Fantastic introductory offer in partnership with Keep Wales Tidy
- Tîm Cymorth Argyfwng Costau Byw – Gwybodaeth a Adnoddau – Un Llais Cymru
- Cofnodion – Cyfarfod Pwyllgor Ardal Ceredigion 14.1.26
- Bwletin CHTh
- Cais am gefnogaeth ariannol HAHAV
- Bwletin Mis Chwefror Cynnal y Cardi h
- Bwletin Costau Byw Chwefror 2026 – Cymorth gydag Iechyd a Lles
- Cyhoeddiad o’r Adroddiad Blynyddol ar Gydnabyddiaeth
17. Unrhyw fater Arall
Derbyniwyd e-bost gan aelod o’r gymuned yn gofyn y Cyngor Cymuned i gynnal digwyddiad i esbonio goblygiadau ffermydd gwynt yn debyg i’r hyn a drefnwyd gan Gyngor Cymuned Cellan a Llanfair Clydogau. Angen derbyn gwybodaeth bellach am fwriad y digwyddiad gan gofio bod angen bod yn ddiduedd adeg etholiadau.
Tyllau yn yr heol rhwng Pant a Nantydderwen
Tyllau yn yr heol rhwng Gogoyan a Glanrhocca.
Derbyniwyd cwestiwn gan Sêr Dewi am dorri porfa. Nodwyd mai cyfrifoldeb Sêr Dewi yw torri’r cae am 3 metr o amgylch y cae. Bydd y contractiwr yn gwneud y gweddill.
Nodwyd bydd Treth y Cyngor yn codi 4.75% am y flwyddyn 2026-27.
18.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
13/04/2026
Daeth y cyfarfod i ben am 21:00.
This page is also available in: English