Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Ebrill 13eg am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.
Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.
Presennol:
Cynghorwyr : Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Caryl Jones (CJ), Eirwen James(EJ), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ), Gareth Jones(GJ), John Griffiths(JG) Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP)
1.Croeso
Croesawyd pawb i’r cyfarfod.
2. I dderbyn ymddiheuriadau.
PCSO John Evans
3.Materion Personol .
Dymuno penblwydd hapus arbennig i’r Cadeirydd Rhodri Evans, ynghyd a Gareth Jones a oedd yn dathlu ei benblwydd ar ddiwrnod y cyfarfod.
Llongyfarch John a Menna Griffiths ar gael eu henwebu am wobr ar gyfer Safle Gwersylla Orau a Safle Glampio orau.
4.Datganiad o ddiddordeb.
Nododd Gareth Jones datganiad o ddiddordeb ynglŷn â phwynt 15 rhan 3 o’r cyfarfod.
5.Cyfranogiad y Cyhoedd.
Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Mawrth 9fed 2026
Cynnigwyd i gadarnhau y cofnodion – CJ Eilwyd gan – GJ
7.Materion yn codi o’r cofnodion.
Roedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn neges bellach gan Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â phwynt agenda Gorchymyn Cadw Coed arfaethedig yng nghyfarfod Rhagfyr 2025. Yr oedd yn gofyn am ymateb i e-bost a ddanfonwyd gan y Swyddog ar Fawrth 3ydd 2026. Clerc wedi anfon e-byst yn ôl gan nodi bod e-bost wedi’i anfon gan y Cyngor Cymuned ar Fawrth 16eg am 06:35. Ni dderbyniwyd unrhyw neges bellach.
Ffurflen Deffibriliwr Newydd wedi’i osod yng nghaban wrth y Foelallt Arms.
Tyllau yn parhau ar yr heol ger mynediad Ystrad Dewi ac ar yr heol wrth Gogoyan.
Cais cynllunio Ochrdewi wedi’i ganiatau.
Nodwyd gan un cynghorydd am yr angen i osod Ceisiadau Cynllunio ar wefan y Cyngor Cymuned.
8. Adroddiad yr Heddlu
Nid oedd PCSO John Evans yn gallu mynychu’r cyfarfod ond yr oedd wedi anfon adroddiad o flaen llaw. Nododd bod un achos o ladrad wedi digwydd yn ardal Llanio gyda swm o olew wedi’i gymryd o danc olew. Nid oedd unrhyw achos o Ymddygiad anghymdeithasol, difrod troseddol, trais a thwyll.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae Tîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed Powys yn ymwybodol o nifer o ymgais twyll cludwr o fewn Dyfed Powys. (Nid yw unrhyw un wedi cael ei adrodd yn ein hardal).Mae preswylydd hŷn newydd golli swm mawr o arian i dwyllwyr yn efelychu heddlu.
Cylchgrawn Tîm Troseddau Economaidd yn nodi Cyngor ar gyfer y pethau canlynol:- Clonio Llais Deallusrwydd Artiffisial; Ffugio galwadau a Defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn twyll.
Nodwyd bod trigolion y Pentref yn parhau i weld plant yn teithio yn gyflym ar sgwteri/beiciau trwy’r Pentref. Mae’r trigolion yn ofni bod teithio ar fath gyflymder yn mynd i achosi damwain yn fuan.
1204
Hefyd nododd un Cynghorydd ei bod wedi derbyn ymweliad yn y cartref gan unigolyn o’r Pentref yn nodi’r defaid sydd ar yr heol ar y B4343 gan bron ag achosi damwain bws yn ddiweddar ynghyd a nodi eu cyflwr.
Clerc i hysbysu PCSO John Evans.
Nododd un Cynghorydd am fan sydd wedi ei barcio wrth fynedfa cae ar y B4343. Nodwyd ei fod wedi parcio oddi ar yr heol ac er dir preifat. Ar yr un tir mae nifer o hen garafanau. Cytunodd y Cynghorwyr i’r clerc anfon e-bost at Gyngor Tref Tregaron.
9. Adroddiad Ariannol
a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Fawrth 31ain 2026
b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol:
£325.77 Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.
Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £74.34.
c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £52.74 (Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19);
(ii) Taliadau banc 13/02 – 12/03 – £15.10 Deddf Llywodraeth Lleol 1972 a.111
d) Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol –
Ad dalu y Clerc ar gyfer Krystal Hosting Ltd – £98.39 Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19
Aethpwyd trwy gyllideb 2025-26 gan nodi’r gwahaniaeth rhwng y swm a osodwyd ar hyn a wariwyd gan esbonio gwahaniaethau sylweddol.
10. Diweddariad SiopNi
Roedd cynrychiolwyr o SiopNi yn y cyfarfod. Cafwyd diweddariad o’r ymgynghoriad cymunedol a oedd wedi cymryd lle yn ddiweddar. Mae’r ymgynghoriad wedi cael ei ymestyn i Ebrill 23ain. Roedd 67 o ymatebion wedi’i dderbyn hyd yn hyn. O’r 46 ymateb cyntaf a dderbyniwyd yr oedd yn cynrychioli 108 o fobol gyda chefnogaeth gref i’r cynllun. Nid yw Neuadd yr Eglwys wedi cael ei hysbysebu eto. Gweithgareddau casglu arian i’w gynnal yn fuan gyda chyfraniadau Caffi Dewi yn mynd tuag at y cynllun. Cwis wedi cael ei drefnu ar gyfer dechrau Mai. Mae’r Pwyllgor yn gweithio ar logo i SiopNi. Pwyllgor SiopNi yn gofyn i’r Cyngor Cymuned ysgrifennu llythyr o gefnogaeth i’r cynllun. Clerc i wneud hyn a’i anfon at y Swyddogion.
11. Awdit Cymru – Hysbysiad Archwilio Sylfaenol 2025-2026
Bydd Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi yn derbyn archwiliad sylfaenol ar gyfer cyfrifon 2025-2026. Clerc i fynychu Hyfforddiant ar-lein gan Un Llais Cymru ar Ebrill 29ain er mwyn derbyn canllawiau diweddaraf i gwblhau’r broses.
12. Adroddiad Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi 2025-2026
Roedd y clerc wedi paratoi Adroddiad drafft ac wedi anfon copi i’r aelodau o flaen llaw. Er mwyn cwblhau’r adroddiad mae angen derbyn cyfriflenni Banc Ebrill er mwyn cwblhau materion ariannol hyd at 31/03/26.
13. Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028
Roedd yr aelodau wedi derbyn copi o’r cynllun o flaen llaw. Pasiwyd y Cynllun Bioamrywiaeth. Clerc i’w osod ar wefan y Cyngor Cymuned ac anfon copi i Adran Bioamrywiaeth Un Llais Cymru. Roedd y Clerc wedi cysylltu â Swyddog Bioamrywiaeth Un Llais Cymru ar Fawrth 15fed er mwyn derbyn cyngor pellach ar nodweddion i’w gynnwys. Roedd y Swyddog ar wyliau hyd at Ebrill 7fed ac nid oes unrhyw neges arall wedi’i dderbyn.
14. Trafodaeth am adolygiadau ffiniau cymunedol.
Roedd y Clerc wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Cymuned Llangeitho. Roedd Cyngor Cymuned Llangeitho wedi derbyn e-bost gan Un Llais Cymru yn dilyn cais am gyfarfod pellach gyda’r ddau Gyngor Cymuned i esbonio goblygiadau Newid ffiniau cymunedol. Yn anffodus nid oedd Un Llais Cymru yn gallu
1205
cynnig sesiwn pellach i’r ddau gyngor Cymuned gan ofyn iddynt dderbyn Cyngor gan Gyngor Sir Ceredigion. Anfon e-bost at Lowri Edwards.
15. Cais Cynllunio – A260107 – Land southwest of Nant y Maes, Tregaron, SY25 6NW
Nid yw’r Cyngor Cymuned fel arfer yn ymateb i’r math yma o gais cynllunio.
Cais Cynllunio – A260055 – Land East of Nant Y Maen, Tregaron, SY25 6NW
Nid yw’r Cyngor Cymuned fel arfer yn ymateb i’r math yma o gais cynllunio. Er hyn nododd aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol nad oedd y ceisiadau wedi rhoi ystyriaeth i fywyd adar yr Elennydd; nad oedd arolwg mwyn wedi ei wneud nac unrhyw drawseffaith ar iechyd a lles.
Cais Cynllunio A260173 – Land Adj. Llwyndewi, Llanddewi Brefi, Tregaron, SY25 6RR
Gadawodd Cynghorydd Gareth Jones y cyfarfod. Roedd eisoes wedi cwblhau ffurflen datganiad o ddiddordeb. Edrychwyd ar a thrafodwyd y cynllun arfaethedig. Penderfynodd yr aelodau gohirio wneud unrhyw benderfyniad a’i gynnwys ar agenda’r cyfarfod nesaf. Byddai o fudd i’r Cyngor Cymuned i dderbyn y Cynllun Draenio gan yr Adran Priffyrdd.
Yn dilyn diwedd y drafodaeth, dychwelodd Cynghorydd Gareth Jones i’r cyfarfod.
16. Diffibriliwr
Nid yw’r Cyngor Cymuned wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach hyd yn hyn.
Penderfynwyd cynnwys y pwynt yma ar agenda’r cyfarfod nesaf.
17.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.
18. Gohebiaeth
Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-
- Un Llais Cymru – Newyddlen Cyllid Mawrth 2026
E Bwletin Rhif 20
E Bwletin Rhif 21
- Cyngor Sir Ceredigion – Bwletin Mawrth – Pasg: Teuluoedd, Plant a Phobl Ifanc
Panel Arfarnu Cymru/ Canfyddiadau Cod Ymddygiad yr
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
- Teifi Smart Towns – Ein canllaw newydd i’w lawrlwytho AM DDIM
19. Unrhyw fater Arall
Nodwyd a oedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach yn dilyn deiseb Mynyddoedd y Cambrian.
Angen cywiro’r fainc sydd yn Hyfrydle.
Angen edrych ar y faner wrth y fynwent.
Biniau’r fynwent – atgyweiriwyd y bin cyn Sul y Blodau. Angen bin newydd.
Ffôn y neuadd – Angen gwirio polisi’r ffôn i weld a oes modd gwneud galwadau allan. Hefyd mae angen gosod y rhif ffôn i fyny mewn argyfwng. Hefyd mae angen sicrhau bod y ffôn yn y blwch ffôn yn gweithio.
Pyst ar gyfer llwybr Pynfarch – pyst ar gael ond angen cysylltu â rhywun i’w gosod.
Tîm Gorfodi – Y Cyngor sir wedi ehangu’r staff i’w tîm gorfodi i gynnal ymchwiliadau a sicrhau bod pobol yn cydymffurfio.
20.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
11/05/2026
Daeth y cyfarfod i ben am 21:00.
This page is also available in: English