Agenda – Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 13/05/2024

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Cyngor nos Lun 13 Mai 2024 am 7pm yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hodffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA:

1. Ethol Cadeirydd i’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2023/24.
2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn 2023/24.
3. Derbyn Datganiad Derbyn Swydd gan y Cadeirydd.
4. Ystyried a chymeradwyo adroddiad blynyddol drafft Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 2022/23 (I’w e-bostio cyn y cyfarfod).
5. Derbyn datganiadau diddordeb/rhagfarn.
6. Apwyntio Pwyllgorau a a Gweithgorau:

a. Pwyllgor Rheoli’r Neuadd.
(pob Cynghorydd yn aelod a’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd yn cadeirio).
b. Gweithgor bioamrywiaeth (Dyletswydd dan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 Adran 6. ).

7. Apwyntio Cynrychiolwyr

a. Pwyllgor Un Llais Cymru (ar hyn o bryd Cyng E Kincaid and E James).

8. Apwyntio un Ymddiriedolwr i elusen Mawndiroedd (Rhif elusen: 500142).
9. Cyfradd ad-dalu.
Adolygu’r canlynol:

a. Lwfans Cadeirydd.
b. Lwfans aelodau

10. Adolygu’r cofrestr asedau sefydlog (gweler cofrestr wedi ei atodi).
11. Adolygu a derbyn Rheolau sefydlog a Rheoliadau Ariannol.
12. Penderfynu a oes angen adolygu trefn gwyno’r Cyngor Cymuned.
13. Adolygu Cofrestr Asesiad Risg y Cyngor Cymuned (gweler Cofrestr AR 2022/23 wedi ei atodi).
14. Adolygu trefniadau Yswiriant y Cyngor.
15. Adolygu gweithdrefnau a pholisïau’r Cyngor mewn cysylltiad â’i rwymedigaethau o dan Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR).
16. Adolygu polisïau Amddiffyn a Diogelu cyngor Cymuned Llanddewi Brefi.
17. Adolygu Polisi Grantiau’r Cyngor
18. Adolygu polisïau cyflogaeth a gweithdrefnau’r Cyngor.
19. Adolygu gwariant y Cyngor a dynnwyd o dan a.137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
20. Adolygu’r Cynllun Hyfforddiant Statudol.
21. Penderfynu amser a lleoliad cyfarfodydd y cyngor llawn hyd at/gan gynnwys y Cyfarfod Blynyddol y Cyngor llawn nesaf.

Lisa Zanoni

Clerc i’r Cyngor – 08/05/2023

This page is also available in: English