Pob cofnod gan Website Administrator

Cynnig Belltown Power ar gyfer Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd

Ewch o amgylch yr arddangosfa (cyswllt allanol) a rhannu’ch barn gyda Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi erbyn 24 Gorffennaf. Defnyddiwch y bocsys yn Siop Brefi neu New Inn, neu anfonwch e-bost: clerc@llanddewibrefi.org

Mae’r Adroddiad Cwmpasu a’r holl ddogfennau cysylltiedig ar gael ar wefan Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru (cyfeirnod CAS-02650-B0P0M9).

Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 10/07/2023

Cynhelir cyfarfod o’r Cyngor Cymuned Nos Lun 10fed Gorffennaf 2023 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1. I dderbyn ymddiheuriadau.
2. Materion Personol.
3. Datganiadau o ddiddordeb.
4. Cyfranogiad y cyhoedd.
5. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022.
6. Materion yn codi o’r cofnodion.
7. Nodi’r trefniadau presennol ar gyfer y gwasanaeth Galw Heibio Ieuenctid cyn gwyliau’r haf.
8. Adolygu yswiriant ar gyfer gwasanaethau claddu.

a. Torri Gwair Ychwanegol

9. Adolygu a mabwysiadu’r Rheolau Sefydlog Diwygiedig
10. Adroddiad ariannol

a. Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 30 Mehefin 2023.
b. Awdurdodi taliadau.

i. Staff a thaliadau cyfrinachol
ii. Treuliau Galw Heibio Ieuenctid
iii. Ffioedd archwiliwr mewnol

c. Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol newidiol parhaus:

i. BT – ffôn Neuadd a band eang.
ii. Ffioedd banc

d. Taliadau a dderbyniwyd.

i. Wayleaves
ii. Hawl i osod cofeb

11. Gohebiaeth

a. Mark Webb-SSW- TRF:Enquiry regarding route 48/34
b. Ceredigion County Council: Efion Jones: RE: Issues re: Private track from Nant Gwernog near Llanddewi Brefi
c. Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru: AROLWG O GYMUNEDAU YNG NGHEREDIGION
d. Belltown Power UK Ltd: RE: Llanddewi Brefi Community Council meeting 27th June
e. Sirgar Llyw Cymru: Digwyddiad Rhanddeiliaid Afon
f. Un Llais Cymru

i. ATGOFFA – DYDDIADAU HYFFORDDIANT MEHEFIN & GORFFENNAF 2023
ii. FW: Keep Wales Tidy – training and contract services survey for Town and Community Councils
iii. FW: Sustainable Drainage Feasibility Grant

12. Derbyn adroddiad gan y PCSO
13. Adroddiad y Cynghorydd Sir ar faterion yn codi o Geredigion
14. Ceisiadau cynllunio
15. Derbyn adroddiad gan bwyllgor y Neuadd Bentref a Meysydd Hamdden.
16. Cwestiynau i’r Cadeirydd.
17. Dyddiad y cyfarfod nesaf

L. Zanoni, Clerc i’r Cyngor
05/07/2023

Cais Cynllunio: A230391

Rhif y Cais:A230391 – linc i dogfennau
Ymgeisydd(wyr):Anthony Smee & Jamie Pawliczek
Dyddiad dilysu:31/05/2023
Cynnig:Cais Deiliaid Tŷ-
Proposed single storey extension to accommodate living area / kitchen / dining at ground floor and a two storey extension to accommodate an new bedroom and an extension to master bedroom.
Lleoliad:Brynheulog, Llanddewi Brefi, Tregaron
Côd post:SY25 6PE
Dyddiad y penderfyniad:29/11/2023
Penderfyniad:Caniatawyd gydag Amodau

I weld manylion llawn y ceisiadau cynllunio: 

  • Copïwch y rhif cais o’r rhestr uchod
  • Cliciwch yma i ddilyn y ddolen i wefan Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasgwch ‘Lansio’r Teclyn Chwilio’
  • Teipiwch rif y cais yn y bocs ‘Rhif y Cais Cynllunio’
  • Gwasgwch ‘Chwilio’ ar waelod y dudalen
  • Sgroliwch lawr at ‘Canlyniadau’r chwiliad’ a gwasgwch ar rif y cais sydd wedi ei danlinellu a’I liwio’n las
  • Sgroliwch i’r gwaelod ac ar y dde gwasgwch ‘Edrych ar y dogfennau’
  • Medrwch safio’r dogfennau fel PDF ar eich cyfrifriadur

Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 27/06/2023

Cynhelir Cyfarfod Anghyffredin Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi Nos Fawrth 27 Mehefin 2023 am 7:30yh, yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1. Derbyn Ymddiheuriadau.
2. Materion Personol.
3. Datgan diddordeb.
4. Cyflwyniad gan Belltown Power ar gyfer Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd.
5. Cyfranogiad y cyhoedd
6. Cadarnhau cofnodion 15 Mai a 6 Mehefin 2023.
7. Materion yn codi o’r cofnodion.
8. Derbyn yr adroddiad Archwilio Mewnol a chymeradwyo’r Datganiadau Cyfrifyddu a Llywodraethu Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 (danfonwyd i aelodau).
9. Adroddiad ariannol.

a. Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 31 Mai 2023
b. Cadarnhau taliadau.

i. Taliadau Staff
ii. Lwfans y Cadeirydd 2023
iii. Llogi neuadd
iv. Claddedigaethau
Ad-dalu taliadau a wnaed gan aelodau.
v. Pryniannau ar gyfer y clwb ieuenctid
vi. Tanysgrifiad Zoom 06/05/2023 – 05/06/2023

c. Taliadau cylchynnol – cadarnhau cyfarwyddiadau parhaus i dalu debyd uniongyrchol newidiol:

i. BT – ffôn Neuadd a band eang.
ii. Ffioedd banc

d. Taliadau a dderbyniwyd.

i. CSC – Ailgylchu gwydr
ii. Claddedigaethau

10. Ystyried cytundeb newydd ar gyfer ffôn a band eang
11. Derbyn adroddiad gan Gweithgor Arolwg Ffiniau Cymunedol.
12. Derbyn adroddiad gan Elliott Ryder Conservation – Cofeb Ryfel
13. Nodi trefniadau ar gyfer etholiad Cyngor Cymuned ynghylch Swyddi Gwag Achlysurol
14. Gohebiaeth (danfonwyd i aelodau).

a. Archwilio Cymru – Hysbysiad Archwilio 2023
b. Un Llais Cymru

i. Rheolau Sefydlog ddiwygiedig
ii. Un Llais Cymru – Cynhadledd Arfer Arloesol

c. Cynnal y Cardi – Gwahoddiad: Cymunedau Ceredigion yn Ysbrydoli 14/6/23
d. Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru – Amgaeir y cyflwyniad a’r nodiadau siarad ar gyfer yr Arolwg Ffiniau Cymunedo
e. Ben Lake – Gwasanaethau Bws

15. Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
16. Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
17. Cais Cynllunio.

a. I nodi’r cymeradwyaethau canlynol:

i. A220815 – Erection of an agricultural shed to hold farm yard manure; Llanio Fawr
ii. A220878 – Construction of slurry store/tank and associated works; Garth, Llanddewi Brefi

b. Ystyried y ceisiadau canlynol:

i. A230391 – Codi estyniad tŷ; Brynheulog, Llanddewi Brefi, SY25 6PE.

18. Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
19. Cwestiynau i’r Cadeirydd.
20. Dyddiad y cyfarfod nesaf.

L Zanoni, Clerc i’r Cyngor

22/06/2023

Hysbysiad Archwilio 2023

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 

Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023

  1. Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2023
  2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Lisa Zanoni

Clerc i’r Cyngor

Glyn, Llanddewi Brefi, Tregaron SY25 6RL.

Rhwng yr oriau o  10:00  a  16:00 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener

Yn dechrau ar                 3 Gorffennaf 2023

Ac yn dod i ben ar                   28 Gorffennaf 2023

  1. O 11 Medi 2023 hyd nes bod yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
  • yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
  • yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn archwiliadcyngorcymunedol@archwilio.cymru.

  1. Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Y sefyllfa sylfaenol

Drwy gyfraith, mae gan unrhyw berson â diddordeb yr hawl i archwilio cyfrifon y Cyngor. Os oes gennych hawl ac os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r cyngor lleol, yna mae gennych chi (neu eich cynrychiolydd) yr hawl hefyd i ofyn cwestiynau amdanynt i’r Archwilydd Cyffredinol neu i herio eitem sydd wedi ei chynnwys yn y cyfrifon.

Yr hawl i archwilio’r cyfrifon

Pan fydd corff llywodraeth leol wedi cwblhau ei gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid iddo hysbysebu eu bod ar gael i bobl edrych arnynt. Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o’ch bwriadau, bydd gennych wedyn 20 diwrnod gwaith i edrych drwy’r cyfrifon a’r dogfennau ategol. Cewch wneud copïau o’r cyfrifon a’r rhan fwyaf o’r dogfennau perthnasol gan y corff. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu tâl copïo.

Yr hawl i ofyn cwestiynau i’r archwilydd ynglŷn â’r cyfrifon

Cwestiynau ynglŷn â’r cyfrifon yn unig y cewch eu gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ateb cwestiynau ynghylch polisïau, cyllid, gweithdrefnau’r corff na dim arall nad yw’n gysylltiedig â’r cyfrifon. Rhaid i’ch cwestiwn ymwneud â’r cyfrifon sy’n destun yr archwiliad. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddweud a yw’n credu bod rhywbeth y mae’r cyngor wedi’i wneud, neu eitem yn ei gyfrifon, yn gyfreithlon neu’n rhesymol.

Yr hawl i fynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon

Os byddwch yn tybio bod y corff wedi gwario arian na ddylai fod wedi ei wario, neu fod rhywun wedi achosi colled i’r corff yn fwriadol neu drwy ymddwyn yn anghyfrifol, cewch fynegi gwrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol drwy anfon ‘hysbysiad o wrthwynebiad’ ffurfiol, y mae’n rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, i’r cyfeiriad isod. Rhaid i chi ddweud wrth yr Archwilydd Cyffredinol pam yr ydych yn gwrthwynebu. Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddod i benderfyniad ynglŷn â’ch gwrthwynebiad. Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad hwnnw, cewch apelio i’r llys.

Cewch wrthwynebu hefyd os byddwch yn meddwl bod rhywbeth yn y cyfrifon y dylai’r Archwilydd Cyffredinol ei drafod gyda’r Cyngor neu ddweud wrth y cyhoedd amdano mewn ‘adroddiad buddiant cyhoeddus’. Unwaith eto, rhaid i chi roi eich rhesymau yn ysgrifenedig i’r Archwilydd Cyffredinol yn y cyfeiriad isod. Yn y sefyllfa honno, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau. Fel arfer, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoi rhesymau dros ei benderfyniad, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny ac ni chewch apelio i’r llys. Ni chewch ddefnyddio’r ‘hawl i wrthwynebu’ hon i wneud cwyn bersonol neu hawliad yn erbyn y corff.

Os byddwch yn dymuno gwneud cwyn neu hawliad personol, dylech fynd â’r cwynion hyn i’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol, Canolfan y Gyfraith leol, neu eich cyfreithiwr. Efallai y cewch hefyd gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os byddwch yn credu bod Aelod o’r corff wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau. Gellir cysylltu â’r Ombwdsmon yn: 1 Heol yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ, (ffôn: (01656) 641 150).

Beth arall y gellwch ei wneud

Yn hytrach na gwrthwynebu, gellwch roi gwybodaeth i’r Archwilydd Cyffredinol sy’n berthnasol i’w gyfrifoldebau. Er enghraifft, gellwch sôn wrth yr Archwilydd Cyffredinol os byddwch yn meddwl bod rhywbeth o’i le ar y cyfrifon neu am wastraff ac aneffeithlonrwydd yn y ffordd y mae’r Cyngor yn rhedeg ei wasanaethau. Nid oes rhaid i chi ddilyn unrhyw derfynau amser na gweithdrefnau penodol. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi adroddiad manwl i chi o ganlyniad ei archwiliad. 

Gair terfynol

Rhaid i gyrff llywodraeth leol, ac felly trethdalwyr lleol, dalu costau delio â chwestiynau a gwrthwynebiadau. Pan fydd yr Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu a ddylid mynd â’ch gwrthwynebiad ymhellach, mae un o gyfres o ffactorau  y  mae’n rhaid iddo eu hystyried yn  cynnwys y costau a fydd yn gysylltiedig.  Bydd  ond yn parhau gyda’r gwrthwynebiad os yw er budd y cyhoedd i wneud hynny. Os byddwch yn apelio i’r llysoedd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y camau gweithredu eich hun.

Os byddwch yn dymuno cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol, ysgrifennwch at: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ.

Is-etholiad Llanddewi Brefi 2023

Canllawiau i ymgeiswyr

https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/is-etholiad-llanddewi-brefi/gwybodaeth-i-ymgeiswyr/

Dogfen drosolwg (Dolen i ddogfen allanol)

Y Broses Enwebu

Mae’r papurau enwebu ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (Dolen i wefan allanol).

Bydd y cyfnod enwebu rhwng dydd Gwener, 16 Mehefin a 4pm ddydd Gwener, 23 Mehefin. 

Os dymunwch gyflwyno’r papurau enwebu wyneb yn wyneb, bydd yn rhaid gwneud apwyntiad.  Gellir gwneud hyn drwy ffonio 01545 570881 neu drwy e-bostio swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk.

Fel arall, gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig yn unol â’r trefniadau a amlinellir isod:

  • Mae’n rhaid cyflwyno’r papurau enwebu drwy anfon e-bost at swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk. Ni fydd enwebiadau’n cael eu derbyn os byddant yn cael eu cyflwyno i gyfeiriad e-bost arall;
  • Dylai llinell bwnc yr e-bost nodi enw’r ymgeisydd yn glir;
  • Wedi i’r papurau gael eu derbyn, bydd e-bost yn cael ei anfon i gydnabod hynny. Ni fydd hyn yr e-bost hwn yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys;  
  • Bydd e-bost pellach yn cael ei anfon naill ai yn cadarnhau bod yr enwebiad yn ddilys neu yn nodi fod problemau gyda’r wybodaeth a ddarparwyd;
  • Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y papurau enwebu wedi’u cyflwyno a’u dilysu, erbyn dim hwyrach na 4.00pm ar 23 Mehefin 2023

Dyddiadau Pwysig

DigwyddiadDyddiad (erbyn pryd os nad erbyn canol nos)
Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiadDydd Iau, 15 Mehefin 2023
Cyflwyno’r papurau enwebuGall papurau enwebu gael eu cyflwyno yn electronig neu wyneb yn wyneb.  Bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir. Rhwng dydd Gwener, 16 Mehefin hyd at 4pm dydd Gwener, 23 Mehefin  
Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer dosbarthu papurau enwebu4pm dydd Gwener, 23 Mehefin 
Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer tynnu’n ôl4pm dydd Gwener, 23 Mehefin
Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi 4pm dydd Gwener, 23 Mehefin 
Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiadDydd Gwener, 23 Mehefin 
Cyhoeddi datganiadau am y sawl a enwebwydDim hwyrach na 4pm ddydd Llun, 26 Mehefin
Cyhoeddi datganiadau am y sawl a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o bleidlais a lleoliad gorsafoedd pleidleisioDim hwyrach na 4pm ddydd Llun, 26 Mehefin
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestruDydd Mawrth, 4 Gorffennaf
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidleisiau drwy’r post a phleidleisiau drwy ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau drwy’r post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes5pm dydd Mercher, 5 Gorffennaf
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post na phleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng) 5pm dydd Mercher, 12 Gorffennaf
Cyhoeddi ail hysbysiad interim o newid etholiad Rhwng dydd Mawrth, 26 Mehefin a 12 Gorffennaf (yn gynwysedig)
Yr amser cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwngAr ôl 5pm ar ddydd Mercher, 12 Gorffennaf
Cyhoeddi’r hysbysiad terfynol o newid etholiadDydd Iau, 13 Gorffennaf
Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio, asiantiaid cyfrif ac is-asiantiaid wedi’u penodiDydd Iau, 13 Gorffennaf
Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwydDydd Gwener, 14 Gorffennaf
Diwrnod pleidleisio7am hyd at 10pm, dydd Iau, 20 Gorffennaf
Y tro olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd5pm dydd Iau, 20 Gorffennaf
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng 5pm dydd Iau, 20 Gorffennaf
Yr amser olaf y gellir newid y gofrestr oherwydd gwall clerigol neu apêl llys9pm dydd Iau, 20 Gorffennaf
Dilysu a Chyfrif 10pm, dydd Iau,20 Gorffennaf
Cyflwyno ffurflen gostau’r etholiad 17 Awst
Cyflwyno datganiad costau’r ymgeisydd17 Awst

Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 12/06/2023

Cynhelir cyfarfod Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi Nos Lun 12 Mehefin 2023 am 7:30yh, yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1. Derbyn Ymddiheuriadau.
2. Materion Personol.
3. Datgan diddordeb.
4. Cyflwyniad gan Belltown Power ar gyfer Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd.
5. Cyfranogiad y cyhoedd
6. Cadarnhau cofnodion 15 Mai a 6 Mehefin 2023.
7. Materion yn codi o’r cofnodion.
8. Derbyn yr adroddiad Archwilio Mewnol a chymeradwyo’r Datganiadau Cyfrifyddu a Llywodraethu Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 (danfonwyd i aelodau).
9. Adroddiad ariannol.

a. Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 31 Mai 2023
b. Cadarnhau taliadau.

i. Taliadau Staff
ii. Lwfans y Cadeirydd 2023
iii. Llogi neuadd
iv. Claddedigaethau
Ad-dalu taliadau a wnaed gan aelodau.
v. Pryniannau ar gyfer y clwb ieuenctid
vi. Tanysgrifiad Zoom 06/05/2023 – 05/06/2023

c. Taliadau cylchynnol – cadarnhau cyfarwyddiadau parhaus i dalu debyd uniongyrchol newidiol:

i. BT – ffôn Neuadd a band eang.
ii. Ffioedd banc

d. Taliadau a dderbyniwyd.

i. CSC – Ailgylchu gwydr
ii. Claddedigaethau

10. Derbyn adroddiad gan Gweithgor Arolwg Ffiniau Cymunedol.
11. Derbyn adroddiad gan Elliott Ryder Conservation – Cofeb Ryfel
12. Nodi trefniadau ar gyfer etholiad Cyngor Cymuned ynghylch Swyddi Gwag Achlysurol
13. Gohebiaeth (danfonwyd i aelodau).

a. Archwilio Cymru – Hysbysiad Archwilio 2023
b. Un Llais Cymru

i. Rheolau Sefydlog ddiwygiedig
ii. Un Llais Cymru – Cynhadledd Arfer Arloesol

c. Cynnal y Cardi – Gwahoddiad: Cymunedau Ceredigion yn Ysbrydoli 14/6/23
d. Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru – Amgaeir y cyflwyniad a’r nodiadau siarad ar gyfer yr Arolwg Ffiniau Cymunedo

14. Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
15. Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
16. Cais Cynllunio.

a. I nodi’r cymeradwyaethau canlynol:

i. A220815 – Erection of an agricultural shed to hold farm yard manure; Llanio Fawr
ii. A220878 – Construction of slurry store/tank and associated works; Garth, Llanddewi Brefi

b. Ystyried y ceisiadau canlynol:

i. A230391 – Codi estyniad tŷ; Brynheulog, Llanddewi Brefi, SY25 6PE.

17. Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
18. Cwestiynau i’r Cadeirydd.
19. Dyddiad y cyfarfod nesaf.

L Zanoni, Clerc i’r Cyngor

07/06/2023