Canllawiau i ymgeiswyr
Dogfen drosolwg (Dolen i ddogfen allanol)
Y Broses Enwebu
Mae’r papurau enwebu ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (Dolen i wefan allanol).
Bydd y cyfnod enwebu rhwng dydd Gwener, 16 Mehefin a 4pm ddydd Gwener, 23 Mehefin.
Os dymunwch gyflwyno’r papurau enwebu wyneb yn wyneb, bydd yn rhaid gwneud apwyntiad. Gellir gwneud hyn drwy ffonio 01545 570881 neu drwy e-bostio swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk.
Fel arall, gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig yn unol â’r trefniadau a amlinellir isod:
- Mae’n rhaid cyflwyno’r papurau enwebu drwy anfon e-bost at swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk. Ni fydd enwebiadau’n cael eu derbyn os byddant yn cael eu cyflwyno i gyfeiriad e-bost arall;
- Dylai llinell bwnc yr e-bost nodi enw’r ymgeisydd yn glir;
- Wedi i’r papurau gael eu derbyn, bydd e-bost yn cael ei anfon i gydnabod hynny. Ni fydd hyn yr e-bost hwn yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys;
- Bydd e-bost pellach yn cael ei anfon naill ai yn cadarnhau bod yr enwebiad yn ddilys neu yn nodi fod problemau gyda’r wybodaeth a ddarparwyd;
- Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y papurau enwebu wedi’u cyflwyno a’u dilysu, erbyn dim hwyrach na 4.00pm ar 23 Mehefin 2023
Dyddiadau Pwysig
| Digwyddiad | Dyddiad (erbyn pryd os nad erbyn canol nos) |
| Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad | Dydd Iau, 15 Mehefin 2023 |
| Cyflwyno’r papurau enwebuGall papurau enwebu gael eu cyflwyno yn electronig neu wyneb yn wyneb. Bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir. | Rhwng dydd Gwener, 16 Mehefin hyd at 4pm dydd Gwener, 23 Mehefin |
| Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer dosbarthu papurau enwebu | 4pm dydd Gwener, 23 Mehefin |
| Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer tynnu’n ôl | 4pm dydd Gwener, 23 Mehefin |
| Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi | 4pm dydd Gwener, 23 Mehefin |
| Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad | Dydd Gwener, 23 Mehefin |
| Cyhoeddi datganiadau am y sawl a enwebwyd | Dim hwyrach na 4pm ddydd Llun, 26 Mehefin |
| Cyhoeddi datganiadau am y sawl a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o bleidlais a lleoliad gorsafoedd pleidleisio | Dim hwyrach na 4pm ddydd Llun, 26 Mehefin |
| Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru | Dydd Mawrth, 4 Gorffennaf |
| Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidleisiau drwy’r post a phleidleisiau drwy ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau drwy’r post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes | 5pm dydd Mercher, 5 Gorffennaf |
| Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post na phleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng) | 5pm dydd Mercher, 12 Gorffennaf |
| Cyhoeddi ail hysbysiad interim o newid etholiad | Rhwng dydd Mawrth, 26 Mehefin a 12 Gorffennaf (yn gynwysedig) |
| Yr amser cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng | Ar ôl 5pm ar ddydd Mercher, 12 Gorffennaf |
| Cyhoeddi’r hysbysiad terfynol o newid etholiad | Dydd Iau, 13 Gorffennaf |
| Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio, asiantiaid cyfrif ac is-asiantiaid wedi’u penodi | Dydd Iau, 13 Gorffennaf |
| Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd | Dydd Gwener, 14 Gorffennaf |
| Diwrnod pleidleisio | 7am hyd at 10pm, dydd Iau, 20 Gorffennaf |
| Y tro olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd | 5pm dydd Iau, 20 Gorffennaf |
| Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng | 5pm dydd Iau, 20 Gorffennaf |
| Yr amser olaf y gellir newid y gofrestr oherwydd gwall clerigol neu apêl llys | 9pm dydd Iau, 20 Gorffennaf |
| Dilysu a Chyfrif | 10pm, dydd Iau,20 Gorffennaf |
| Cyflwyno ffurflen gostau’r etholiad | 17 Awst |
| Cyflwyno datganiad costau’r ymgeisydd | 17 Awst |
This page is also available in: English