Pob cofnod gan Website Administrator

Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 08/09/2025

Bydd cyfarfod cyffredin o’r Cyngor Cymuned yn cael ei gynnal Nos Lun 8fed o Mis Medi 2025 am 7.30pm yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu o bell anfon neges e-bost web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1. Derbyn ymddiheuriadau.
2. Materion personol.
3. Datganiadau o ddiddordeb.
4. Cyfranogiad y cyhoedd.
5. I gadarnhau cofnodion y cyfarfod.
6. Materion yn codi o’r cofnodion.
7. Cytundeb swydd i’r clerc newydd
8. Adroddiad oddiwrth Siop Ni
9. Trafod ffordd i godi arian i elusen dewisiedig Ann Jones, Uchel Siryf Dyfed.
10. Adroddiad ariannol a taliadau
11. Diffibriliwr
12. Cinio Nadolig
13. Unrhyw fater arall

Rhodri Evans Cadeirydd y Cyngor cymuned.

Agenda – Llanddewi Brefi Community Council – 01/09/2025

Extraordinary Meeting of the Community Council to be held on Monday, 1st September 2025 at 7:00pm in the Community Centre.

AGENDA

1) Apologies for absence.
2) Declarations of interest.
3) Appointment of New Clerk
a. Consideration of applications / candidates
b. Resolution to appoint Clerk
4) –
5) Any Other Urgent Business (at the discretion of the Chair)
6) Date of Next Meeting

Issued by:
Rhodri Evans Chair
Llanddewi Brefi Community Council

Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 12/08/2025

Cynhelir Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Cymuned Nos Fawrth 12 Awst 2025 am 8:00yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA
1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Datgan diddordeb.
3) Cyfranogiad y Cyhoedd
4) Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Mawrth 2025.
5) Awdurdodi taliadau.
a. Ad-dalu’r benthyciad gan Neuadd Bentref Llanddewi Brefi
b. Aelodaeth Un Llais Cymru 2025-2026
6) Cymeradwyo toriad ychwanegol ar gyfer mynwent a mynwent y plwyf

Hysbysiad Archwilio 2025

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 

Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025

  1. Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2025
  2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Rhodri Evans

Y Ganolfan Llanddewi Brefi Village Hall, Llanddewi Brefi, Tregaron SY25 6RX.

Rhwng yr oriau o  13:00  a  15:00 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (drwy apwyntiad yn unig – 07870 604199)

Yn dechrau ar                 14 Awst  2025

Ac yn dod i ben ar                   11 Medi 2025

  1. O 15 Medi 2025 hyd nes bod yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
  • yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
  • yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn archwiliadcyngorcymunedol@archwilio.cymru.

  1. Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Y sefyllfa sylfaenol

Drwy gyfraith, mae gan unrhyw berson â diddordeb yr hawl i archwilio cyfrifon y Cyngor. Os oes gennych hawl ac os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r cyngor lleol, yna mae gennych chi (neu eich cynrychiolydd) yr hawl hefyd i ofyn cwestiynau amdanynt i’r Archwilydd Cyffredinol neu i herio eitem sydd wedi ei chynnwys yn y cyfrifon.

Yr hawl i archwilio’r cyfrifon

Pan fydd corff llywodraeth leol wedi cwblhau ei gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid iddo hysbysebu eu bod ar gael i bobl edrych arnynt. Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o’ch bwriadau, bydd gennych wedyn 20 diwrnod gwaith i edrych drwy’r cyfrifon a’r dogfennau ategol. Cewch wneud copïau o’r cyfrifon a’r rhan fwyaf o’r dogfennau perthnasol gan y corff. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu tâl copïo.

Yr hawl i ofyn cwestiynau i’r archwilydd ynglŷn â’r cyfrifon

Cwestiynau ynglŷn â’r cyfrifon yn unig y cewch eu gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ateb cwestiynau ynghylch polisïau, cyllid, gweithdrefnau’r corff na dim arall nad yw’n gysylltiedig â’r cyfrifon. Rhaid i’ch cwestiwn ymwneud â’r cyfrifon sy’n destun yr archwiliad. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddweud a yw’n credu bod rhywbeth y mae’r cyngor wedi’i wneud, neu eitem yn ei gyfrifon, yn gyfreithlon neu’n rhesymol.

Yr hawl i fynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon

Os byddwch yn tybio bod y corff wedi gwario arian na ddylai fod wedi ei wario, neu fod rhywun wedi achosi colled i’r corff yn fwriadol neu drwy ymddwyn yn anghyfrifol, cewch fynegi gwrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol drwy anfon ‘hysbysiad o wrthwynebiad’ ffurfiol, y mae’n rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, i’r cyfeiriad isod. Rhaid i chi ddweud wrth yr Archwilydd Cyffredinol pam yr ydych yn gwrthwynebu. Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddod i benderfyniad ynglŷn â’ch gwrthwynebiad. Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad hwnnw, cewch apelio i’r llys.

Cewch wrthwynebu hefyd os byddwch yn meddwl bod rhywbeth yn y cyfrifon y dylai’r Archwilydd Cyffredinol ei drafod gyda’r Cyngor neu ddweud wrth y cyhoedd amdano mewn ‘adroddiad buddiant cyhoeddus’. Unwaith eto, rhaid i chi roi eich rhesymau yn ysgrifenedig i’r Archwilydd Cyffredinol yn y cyfeiriad isod. Yn y sefyllfa honno, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau. Fel arfer, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoi rhesymau dros ei benderfyniad, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny ac ni chewch apelio i’r llys. Ni chewch ddefnyddio’r ‘hawl i wrthwynebu’ hon i wneud cwyn bersonol neu hawliad yn erbyn y corff.

Os byddwch yn dymuno gwneud cwyn neu hawliad personol, dylech fynd â’r cwynion hyn i’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol, Canolfan y Gyfraith leol, neu eich cyfreithiwr. Efallai y cewch hefyd gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os byddwch yn credu bod Aelod o’r corff wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau. Gellir cysylltu â’r Ombwdsmon yn: 1 Heol yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ, (ffôn: (01656) 641 150).

Beth arall y gellwch ei wneud

Yn hytrach na gwrthwynebu, gellwch roi gwybodaeth i’r Archwilydd Cyffredinol sy’n berthnasol i’w gyfrifoldebau. Er enghraifft, gellwch sôn wrth yr Archwilydd Cyffredinol os byddwch yn meddwl bod rhywbeth o’i le ar y cyfrifon neu am wastraff ac aneffeithlonrwydd yn y ffordd y mae’r Cyngor yn rhedeg ei wasanaethau. Nid oes rhaid i chi ddilyn unrhyw derfynau amser na gweithdrefnau penodol. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi adroddiad manwl i chi o ganlyniad ei archwiliad. 

Gair terfynol

Rhaid i gyrff llywodraeth leol, ac felly trethdalwyr lleol, dalu costau delio â chwestiynau a gwrthwynebiadau. Pan fydd yr Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu a ddylid mynd â’ch gwrthwynebiad ymhellach, mae un o gyfres o ffactorau  y  mae’n rhaid iddo eu hystyried yn  cynnwys y costau a fydd yn gysylltiedig.  Bydd  ond yn parhau gyda’r gwrthwynebiad os yw er budd y cyhoedd i wneud hynny. Os byddwch yn apelio i’r llysoedd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y camau gweithredu eich hun.

Os byddwch yn dymuno cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol, ysgrifennwch at: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ.

Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 11/08/2025

Cynhelir Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Cymuned Nos Lun 11 Awst 2025 am 8:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA
1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Datgan diddordeb.
3) Cyfranogiad y Cyhoedd
4) Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Mawrth 2025.
5) Awdurdodi taliadau.
a. Ad-dalu’r benthyciad gan Neuadd Bentref Llanddewi Brefi
b. Aelodaeth Un Llais Cymru 2025-2026
6) Cymeradwyo toriad ychwanegol ar gyfer mynwent a mynwent y plwyf

Swydd Wag – Clerc y Cyngor

Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi

Swydd: Clerc / Swyddog Ariannol Cyfrifol

Disgrifiad Swydd |

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n Cyngor Cymuned fel Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol. Mae’r swydd yn cynnwys:

• Mynychu cyfarfodydd misol y Cyngor Cymuned a chadw cofnodion cywir.
• Trefnu a mynychu unrhyw gyfarfodydd ychwanegol.
• Derbyn, paratoi a dosbarthu e-byst a llythyrau swyddogol.
• Cydlynu cyfarfodydd, cyflwyniadau ac ymweliadau.
• Rheoli cyllid y Cyngor Cymuned ac ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Ariannol Cyfrifol.
• Paratoi dogfennau ariannol gan gynnwys y precept a’r cyfrifon blynyddol.
• Derbyn a dosbarthu unrhyw ohebiaeth berthnasol.
• Paratoi posteri, hysbysebion ac adroddiadau.
• Sicrhau bod gwefan y Cyngor (WordPress) yn gywir ac yn gyfredol.
• Cynnal cyfathrebu rheolaidd gyda Chyngor Sir Ceredigion ac Un Llais Cymru.
• Cymryd cofnodion ar gyfer Pwyllgor y Neuadd a’r Cae Chwarae, cyhoeddi anfonebau llogi a chadw’r cyfrifon perthnasol.
• Helpu gyda materion y Neuadd a’r Cae Chwarae yn ôl yr angen.
• Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill fel y gofynnir gan y Cynghorwyr.

(Hyd y clywir yn wahanol, bydd y clerc claddu presennol yn gyfrifol am faterion claddu ym Mynwent y Plwyf a bydd yn cydlynu gyda’r Clerc ynghylch taliadau.)


Manyleb Person

Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n dangos:

• Y gallu i gyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg a Saesneg, gan greu dogfennau dwyeithog cywir.
• Sgiliau trefnu rhagorol ac agwedd ofalus at waith.
• Y gallu i reoli amser yn effeithiol a chwrdd â therfynau amser.
• Profiad o waith cyllid, cyllidebu a chadw cyfrifon (yn fanteisiol).
• Sgiliau TG da, yn enwedig gyda WordPress a meddalwedd swyddfa.
• Dealltwriaeth gadarn o gyfrinachedd.
• Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm bach cymunedol.


Cyflog :
£13.50 yr awr / per hour
o leia 18 awr y mis / per month


Sut i Wneud Cais

Os ydych yn angerddol am gefnogi eich cymuned leol ac yn credu bod gennych y sgiliau a’r ymrwymiad i ymgymryd â’r rôl hon, anfonwch ebost i fynegi diddordeb at Cadeirydd y Cyngor Cymuned Rhodri Evans at

llanio1@hotmail.co.uk.

Agenda – Llanddewi Brefi Community Council – 14/07/2025

An Ordinary meeting of the Community Council will be held on Monday 14th July 2025 at 7:30pm in the Community Centre. Members of the public wishing to attend remotely should email web@llanddewibrefi.org in advance to request a link to the meeting.
AGENDA
1. To receive apologies.
2. Personal Matters.
3. Declarations of interest.
4. Public participation.
5. To confirm the minutes of the Ordinary Meeting of Council held on 9 June 2025.
6. Matters arising.
7. Financial report
a. To approve the bank reconciliation for the period ending 30 June 2025.
b. Authorisation of payments (schedule to be sent to members prior to the meeting).
i. Staff and confidential payments
ii. Repayment of loan from Llanddewi Brefi Village Hall
iii. One Voice Wales membership fee 2025-2026
iv. Authorisation of payments for Clerk’s expenses re: Zoom.
c. Recurring payments – confirmation of ongoing variable direct debit instructions:
i. BT Telephone & broadband
ii. Barclays Bank -Commission charges
d. Payments received.
i. Bank Interest & Loyalty received.
ii. HMRC VAT126 s33 reclaim.
8. Correspondence
a. Ceredigion County Council
i. Engagement and Participation Policy 2025-consultation
b. One Voice Wales
i. Practice Development Note – Writing Reports
ii. The Friends of Ceredigion Museum – request for councillor representatives
c. Workplace pensions re-enrolment
d. The Circuit – defibrillator record update request
9. To receive correspondence not specifically referenced on the agenda (Decisions cannot be taken in relation to matters raised under this agenda item).
10. To approve the job description and consider advertising the vacant post of Clerk.
11. To receive the annual internal audit report and approve the annual accounting statement and governance statement for the annual return 2024-2025
12. To consider applying for funding:
a. Cynnal y Cardi Community Development and Support Fund
b. Ceredigion: Tackling food poverty and food insecurity funding 2025-26
13. To consider organising a village ‘clean-up’ during Summer 2025
14. To receive a report from the PCSO.
15. County Councillor’s report on matters arising from Ceredigion.
16. Planning applications.
a. To note decisions
17. To receive a report from the Village Hall and Recreation Grounds committee.
18. Questions to the Chair.

MEMBERS OF THE PUBLIC AND THE PRESS CAN OBTAIN ANY DOCUMENTS REFERENCED ON THE AGENDA FROM THE CLERK PRIOR TO THE MEETING. PLEASE E-MAIL REQUESTS TO clerk@llanddewibrefi.org

R. Evans – Proper Officer
09/07/2025

Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2024-25

Mae rheoliad 15(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi lofnodi a dyddio’r datganiad cyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno derbynebau a thaliadau Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi am y flwyddyn. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 30 Mehefin 2025.

Llofnododd ac ardystiodd y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfrifon ar 29 Mehefin 2025. 

Mae Rheoliad 15(2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor, yn dilyn yr ardystiad gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, gymeradwyo’r cyfrifon. Mae’r Rheoliadau yn mynnu bod hyn wedi’i gwblhau erbyn 30 Mehefin 2025.

Nid yw’r Cyngor wedi cymeradwyo’r cyfrifon eto oherwydd oedi wrth gwblhau’r adroddiad archwilio mewnol.

L. Zanoni, Clerc i’r Cyngor                                                                                                                 

29/06/2025                                                                                                            A close-up of a name

Description automatically generated

Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 09/06/2025

Bydd cyfarfod cyffredin o’r Cyngor Cymuned yn cael ei gynnal Nos Lun 9 Mehefin 2025 am 7.30pm yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu o bell anfon neges e-bost web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1. Derbyn ymddiheuriadau.
2. Materion personol.
3. Datganiadau o ddiddordeb.
4. Cyfranogiad y cyhoedd.
5. I gadarnhau cofnodion y Cyfarfodydd Blynyddol a Chyffredinol y Cyngor, a gynhelir ar 12 Mai 2025.
6. Materion yn codi o’r cofnodion.
7. Adroddiad ariannol:
a. Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 31 Mai 2025. b. Awdurdodi taliadau.
i. Taliadau staff a chyfrinachol.
c. Awdurdodi tâl ar gyfer costau’r Clerc sy’n gysylltiedig â Zoom.
d. Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol newidiol parhaus:
i. BT Ffôn a band eang:
ii. Banc Barclays – Costau’r Comisiwn: Deddf LG (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a.19. e. Taliadau a dderbyniwyd.
i. Llog Banc a Theyrngarwch a dderbyniwyd.
ii. CFF Grant Cyfanswm olaf.
8. I adolygu’r Dychweliad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2025.
9. I adolygu Cytundeb Band Eang BT ar gyfer y neuadd y pentref.
10. I ystyried canlyniadau’r arolwg ynghylch y cynigion ar gyfer cyfleuster siop dros dro yn y maes parcio o dan y Cyngor.
11. I ystyried penodi swyddog Ariannol Cyfrifol a Swyddog Proper o 01/07/2025.
12. I ystyried hysbysebu ar gyfer y swydd o Glerc.
13. I ystyried adborth y CONTRACTWR ar gyfer y rownd dynnoli gyntaf ar gyfer gwaith newid ystafell a storio’r neuadd.
14. Gohebiaeth
a. Cyngor Sir Ceredigioni. Grant Cyfalaf Ardal Chwarae Ceredigion .
b. Un Llais Cymru
i. Camau ariannol blythedeg: dysgu pwysig yn codi.
ii. Mentorau cymunedol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r camau
gofalplant a chwarae yn y Cynllun Gweithredu Anti-raffiad Cymru.
iii. FW: Cau a Leihau Safle Gwastraff Cartref.
iv. Cynhadledd Ymarfer Arloesol – Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025.
v. FW: Ymgynghoriadau Hywel Dda.
15.Gohebiaeth aI dderbyn gohebiaeth nad yw’n cael ei chyfeirio’n benodol ar yr agenda (ni ellir gwneud penderfyniadau mewn perthynas â materion a godwyd o dan yr eitem hon ar yr agenda. 16.Derbyn adroddiad gan y PCSO.
17.Adroddiad y Cynghorydd Sir ar faterion sy’n codi o Geredigion.
18.Ceisiadau cynllunio
19.Derbyn adroddiad gan bwyllgor Neuadd y Pentref a’r Meysydd Hamdden
20.Cwestiynau i’r Cadeirydd.
GALL AELODAU’R CYHOEDD A’R WASG GAEL UNRHYW DDOGFENNAU Y CYFEIRIR ATYNT AR YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. ANFONWCH E-BOST AT clerk@llanddewibrefi.org

L. Zanoni, Clerc

04/06/2025

Cau Ffordd Dros Dro: U1518 Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan – 23/06/2025

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys

Cyf:/Ref:67/25
Rhif y Ffordd/Road no:

USRN
U1518 47101463

Lleoliad:/Location:
 Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan/Lampeter 
 Dyddiad ac amser/
Dates and times:
23/06/2025 09:30-15:30 
 Parhad:Yn ddyddiol – Yn ystod y cyfnod dan sylw/
yn ddyddiol –Yn ystod y diwrnod gwaith/ 
24 awr y dydd/ Yn ystod y cyfnod dan sylw
 
Duration:Daily – During Times Specified/Daily – During Working Day/ 24 hours a day/ During Period Specified
Gwaith:/Works: Gwaith polion / poling works 
Ymgeisydd:/Applicant: Sunbelt Rentals ar rhan/for BT Openreach 
Rheswm:/Reason:I sicrhau diogelwch y cyhoedd/
To ensure public safety

Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 12/05/2025

Bydd cyfarfod cyffredin o’r Cyngor Cymuned yn cael ei gynnal Nos Lun 12 Mai 2025 am 8.00pm yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu o bell anfon neges e-bost web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA
1. Derbyn ymddiheuriadau.
2. Materion personol.
3. Datganiadau o ddiddordeb.
4. Cyfranogiad y cyhoedd.
5. I gadarnhau cofnodion y Cyfarfod Cyffredin a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2025.
6. Materion yn codi o’r cofnodion.
7. Adroddiad ariannol:
a. Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 30 Ebrill 2025.
b. Awdurdodi taliadau.
i. Taliadau staff a chyfrinachol.
c. Awdurdodi taliadau ar gyfer gwaith â Chymorth Grant CFF ar gyfer Ystafelloedd Newid y Neuadd a’r Sied Storio.
i. Contract G Davies 1-taliad anfoneb derfynol 3 (prosiect CFF) £13,135.54.
ii. L Davies Contract 2-taliad anfoneb derfynol (prosiect CFF) £ £1,132.46.
iii. Steel Fabricators (Wales) Ltd Contract 3-taliad (prosiect anfoneb derfynol CFF)
£ 3,000.00.
d. Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol newidiol parhaus:
i. BT Ffôn a band eang:
ii. Banc Barclays – Costau’r Comisiwn: Deddf LG (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a.19.
e. Taliadau a dderbyniwyd.
i. Llog Banc a Theyrngarwch a dderbyniwyd.
ii. Rhandaliad 1af o Bresept 2025-26 a Grant Mynwent 2023/24.
8. I adolygu cynnydd y prosiect o ran gwaith cymorth grant Sefydliad Pêl-droed Cymru ar y gweill i ystafelloedd newid y Neuadd a’r Sied Storio.
9. Gohebiaeth
a. Cyngor Sir Ceredigion
i. Toiledau Cyhoeddus Llanddewi Brefi 2025-2026 Toiledau Cyhoeddus Llanddewi Brefi
b. Un Llais Cymru
i. Cyfarfod Pwyllgor Ardal Ceredigion 2.4.25 – – Cyfarfod Pwyllgor Ardal Ceredigion 2.4.25.
ii. Rheoliadau Ariannol Diwygiedig 2025
10. Gohebiaeth
aI dderbyn gohebiaeth nad yw’n cael ei chyfeirio’n benodol ar yr agenda (ni ellir gwneud penderfyniadau mewn perthynas â materion a godwyd o dan yr eitem hon ar yr agenda.
11. Derbyn adroddiad gan y PCSO.
12. Adroddiad y Cynghorydd Sir ar faterion sy’n codi o Geredigion.
13. Ceisiadau cynllunio: I ystyried cydnabyddiaeth ynglŷn â’r ceisiadau canlynol:
a. A250232 – Ochr Garth, Llanddewi Brefi, Tregaron, Ceredigion, SY25 6UJ.
14. Derbyn adroddiad gan bwyllgor Neuadd y Pentref a’r Meysydd Hamdden
15. Cwestiynau i’r Cadeirydd.
GALL AELODAU’R CYHOEDD A’R WASG GAEL UNRHYW DDOGFENNAU Y CYFEIRIR ATYNT AR YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. ANFONWCH E-BOST AT clerk@llanddewibrefi.org

Agenda – Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 12/05/2025

Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi


Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Cyngor nos Lun 12 Mai 2025 am 7pm yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hodffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA:

1. Ethol Cadeirydd i’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2025/26.
2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn 2025/26.
3. Derbyn Datganiad Derbyn Swydd gan y Cadeirydd.
4. Ystyried a chymeradwyo adroddiad blynyddol drafft Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 2024/25 (I’w e-bostio cyn y cyfarfod).
5. Derbyn datganiadau diddordeb/rhagfarn.
6. Apwyntio Pwyllgorau a a Gweithgorau:
a. Pwyllgor Rheoli’r Neuadd.
(pob Cynghorydd yn aelod a’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd yn cadeirio).
b. Gweithgor bioamrywiaeth (Dyletswydd dan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 Adran 6. ).
7. Apwyntio Cynrychiolwyr
a. Pwyllgor Un Llais Cymru (ar hyn o bryd Cyng E Kincaid and E James).
8. Cyfradd ad-dalu.
Adolygu’r canlynol:
a. Lwfans Cadeirydd.
b. Lwfans aelodau
9. Adolygu’r cofrestr asedau sefydlog (gweler cofrestr wedi ei atodi).
10. Adolygu a derbyn Rheolau sefydlog a Rheoliadau Ariannol.
11. Penderfynu a oes angen adolygu trefn gwyno’r Cyngor Cymuned.
12. Adolygu Cofrestr Asesiad Risg y Cyngor Cymuned (gweler Cofrestr AR 2024/25 wedi ei atodi).
13. Adolygu trefniadau Yswiriant y Cyngor.
14. Adolygu gweithdrefnau a pholisïau’r Cyngor mewn cysylltiad â’i rwymedigaethau o dan Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR).
15. Adolygu polisïau Amddiffyn a Diogelu cyngor Cymuned Llanddewi Brefi.
16. Adolygu Polisi Grantiau’r Cyngor
17. Adolygu polisïau cyflogaeth a gweithdrefnau’r Cyngor.
18. Adolygu gwariant y Cyngor a dynnwyd o dan a.137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
19. Adolygu’r Cynllun Hyfforddiant Statudol.
20. Penderfynu amser a lleoliad cyfarfodydd y cyngor llawn hyd at/gan gynnwys y Cyfarfod Blynyddol y Cyngor llawn nesaf.

Lisa Zanoni

Clerc i’r Cyngor – 07/05/2023