Mae rheoliad 15(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi lofnodi a dyddio’r datganiad cyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno derbynebau a thaliadau Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi am y flwyddyn. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 30 Mehefin 2025.
Llofnododd ac ardystiodd y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfrifon ar 29 Mehefin 2025.
Mae Rheoliad 15(2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor, yn dilyn yr ardystiad gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, gymeradwyo’r cyfrifon. Mae’r Rheoliadau yn mynnu bod hyn wedi’i gwblhau erbyn 30 Mehefin 2025.
Nid yw’r Cyngor wedi cymeradwyo’r cyfrifon eto oherwydd oedi wrth gwblhau’r adroddiad archwilio mewnol.
L. Zanoni, Clerc i’r Cyngor
29/06/2025
This page is also available in: English