Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi 12/01/2026

 1191

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Ionawr 12fed am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd), Caryl Jones, Eirwen James, John Griffiths, Pat Parry, PC Liz Jenkins

1.Croeso

Dymunodd y Cadeirydd Blwyddyn Newydd Dda i bawb oedd yn y cyfarfod. Diolchodd i bawb oedd wedi cynorthwyo i dynnu’r goeden Nadolig i lawr yn gynharach yn y noson ynghyd a’i roi i fyny ar ddechrau Rhagfyr. Diolchwyd i Richard Elliott am ddarparu’r goeden. Nododd, y bu Rhagfyr yn fis prysur gyda noson ganu carolau llwyddiannus o amgylch y goeden ar Ragfyr 18fed a chynulleidfa dda ar gyfer yr arddangosfa gan Helfa Gogerddan ar Ddydd San Steffan. Hefyd braf oedd gweld gymaint o gefnogaeth ar gyfer y Daith Tractorau gan godi dros £7000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i Damelza, Malen a Gwilym am gynorthwyo gyda’r Groto Nadolig.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

Gareth Jones, Dafydd Lloyd-Jones, Beth Griffiths

3.Materion Personol .

Dymuno Penblwydd hapus arbennig i JG.

4.Datganiad o ddiddordeb.

Dim

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Rhagfyr 8fed 2025

Cynnigwyd i gadarnhau y cofnodion –  EJ   Eilwyd gan – JG

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Esboniodd PC Liz Jenkins bod yr hyn a ddigwyddodd ar iard yn agos i Dregaron yn dal yn cael ei ymchwilio gan eu bod yn aros am ganlyniadau unrhyw dystiolaeth ffroesnig a gymerwyd o’r bag awyr a aeth i ffwrdd  yn y cerbyd.

Safleoedd Bysus – e-bost wedi’i anfon at Gyngor Ceredigion i nodi nad oes yna safleoedd bysus yn y mannau a nodwyd ar y daenlen. Ychwanegwyd safle bws Hyfrydle i’r rhestr.

Roedd y Clerc wedi hysbysu’r person a rhoddodd y Tendr llwyddiannus i mewn ar gyfer Torri Porfa.

Roedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn e-bost o ddiolch gan Helfa Gogerddan am y rhodd ar gyfer yr arddangosfa ar ddydd San Steffan.

Anfonwyd e-bost i gwmni Barcud ar 14/12/25 ynglŷn â pherth 9 Heol y Gorwydd gyda’r gwaith yn cael ei gwblhau ar 17/12/25.

1192

Nid oedd y Cyngor Cymuned wedi bod yn llwyddiannus i dderbyn grant Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru.

Wedi bod yn edrych ar ba resymau pam nad yw’r teleffon ddim yn gweithio yn y blwch teleffon.

Cyngor Cymuned wedi anfon llythyr ynglŷn â’r Gorchymyn Coed i Gyngor Ceredigion. Nid oes unrhyw ohebiaeth bellach wedi ei dderbyn.

Enillydd cystadleuaeth Tŷ Golau Nadolig orau oedd Tŷ Mawr, Llanddewi-Brefi.

Cafwyd bwyd bendigedig yng Nghegin Gareth ar gyfer ein Cinio Blynyddol.

8. Adroddiad yr Heddlu

Croesawyd PC Liz Jenkins i’r Cyfarfod. Nodwyd ar 19/12/25 bod dau berson ifanc wedi bod yn cnocio ar ddrws person o fewn y Pentref ac yna rhedeg i ffwrdd. Roedd y person wedi cysylltu â’r heddlu gyda swyddog o’r heddlu wedi siarad ar ddau berson ifanc yng nghwmni ei rhieni.

Ar 11/12/25 derbyniwyd adroddiad bod Swyddog Gorfodaeth wedi clampio car yn dilyn Hysbysiad Tâl Cosb oedd heb ei dalu. Ar y diwrnod canlynol pan ddychwelodd y Swyddog roedd y car wedi mynd a chofnodwyd hyn fel lladrad.

Mae yna adroddiadau o ddyn ifanc yn cerdded o amgylch ardal Olmarch, Llwynygroes a Rhattal. Mae’n gwisgo dillad tywyll ac mae fel petai yn edrych i mewn i fynedfa tai pobol. Mae’r heddlu yn awyddus i siarad â’r person er mwyn sicrhau nad yw yn berson bregus ac angen cymorth.

Ar 11/01/26 derbyniwyd adroddiad o lampio yn digwydd yn ardal Swyddffynnon gan annog pawb i fod yn wyliadwrus.

Atgoffwyd am yr Ap o gyfarfod Tachwedd.

Nododd un cynghorydd bod aelod o’r gymuned wedi ei chysylltu ynglŷn â cheir gwahanol sydd yn y Pentref yn ystod y Nadolig. Anogodd PC Liz Jenkins i gadw cofnod o’r math o gar ac amseroedd penodol. Byddai modd hysbysu’r heddlu trwy ei ffonio neu ffonio Crimestoppers.

Gofynnwyd am reswm am bresenoldeb tri char heddlu ac un car heb ei farcio ar Noswyl Nadolig. Nid oedd PC Jenkins yn ymwybodol o hyn ond byddai yn rhoi gwybodaeth mor gynted â phosib. Nododd bod modd i’r Cyngor Cymuned anfon neges unrhyw adeg ac ni does angen aros i’r Cyfarfod misol.

9. Adroddiad Ariannol

Nid oedd wedi bod yn bosibl i baratoi adroddiad o flaen llaw gan nad oedd y Clerc wedi derbyn y cyfriflenni hyd at noswaith y cyfarfod.

EJ wedi bod mewn Cysylltiad â Banc Barclays ac wedi anfon ffurflen mandad banc ymlaen i’r clerc i’w gwblhau er mwyn newid cyfeiriad gohebiaeth.

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Ragfyr 31ain 2025

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol: £475.67  Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £52.74 (Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19);

(ii) Taliadau banc 13/11 – 14/12 – £19.90 Deddf Llywodraeth Lleol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol –  M E James Ad-daliad am anrhegion Nadolig £128.57; P Parry Ad-daliad am anrhegion Nadolig – £84.08 74 (Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19);

1193

A Tuncay – Ad-daliad am ddefnydd trydan ar gyfer goleuo Coeden Nadolig £25.00 (Deddf Llywodraeth Lleol 1972A.144);  

I.A Griffiths Beddfeini £550.00 (Deddf Llywodraeth Lleol 1972, a214)

Diolchwyd i EJ a PP am brynu y nwyddau ar gyfer yr anrhegion.

 
e) Taliadau a dderbyniwyd – Dim

10.Ystyried cynigion cyllideb a chymeradwyo praesept ar gyfer 2026-2027

Yn dilyn trafodaeth am gyllideb 2026-27 penderfynwyd cadw at godi praesept o £18,000.

Cynnigwyd gan JG. Eilwyd gan EJ

11.Cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol ar Wariant Refiniw ynglyn â darparu Gwasanaethau yn ymwneud â Thir Claddu a Mynwentydd am y flwyddyn sy’n diweddu ar Fawrth 31ain 2025.

Edrychwyd yn ôl ar Adroddiad Ariannol 2024-2025 a nodwyd bod angen gofyn am adaliad o £2,240.30. Cynnigwyd gan EJ. Eilwyd gan PP.

12.Adroddiad Adran 6 Bioamrywiaeth / Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028

Cyflwynwyd Adroddiad Adran 6 Bioamrywiaeth i’r Cyngor. Bydd yr adroddiad yn cael ei anfon ymlaen at Swyddogion Bioamrywiaeth Un Llais Cymru ynghyd a’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Mae angen ysgrifennu Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028. Bydd y clerc yn mynychu hyfforddiant ar-lein a ddarperir gan Un Llais Cymru ar ran y Cyngor ar nos Iau, Ionawr 22ain er mwyn derbyn canllawiau ac arferion da. Yn dilyn yr hyfforddiant yma bydd modd dechrau coladu gwybodaeth i’w gynnwys yn y Cynllun Bioamrywiaeth.

13.Gohebiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru

Derbyniwyd e-bost gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ddydd Gwener, Rhagfyr 19eg yn nodi byddai’r Cyngor yn derbyn estyniad i blannu coed y tu ôl i’r cae pêl-droed. Er hyn roedd y Cyngor eisoes wedi trefnu plannu coed a oedd wedi ei brynu ym mis Tachwedd. Ar ddydd Llun Rhagfyr 22ain anfonwyd lluniau o dystiolaeth bod y coed wedi’i blannu. Hyd yn hyn nid ydym wedi derbyn unrhyw ohebiaeth bellach am y mater.

14.Diweddariad Taith Tractor er budd elusen Ann Jones, Uchel Siryf Dyfed

Cafwyd diwrnod llwyddiannus dros ben fel y nodwyd ar ddechrau’r cyfarfod.

15.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

16. Datblygiadau Ynni Waun Maenllwyd / Lan Fawr / Bryn Rhudd

Derbyniwyd e-bost ar 06/01/26 yn amlinellu yr hyn roedd Bute wedi ei wneud ar ddatblygiadau Ynni Lan Fawr a Bryn Rhydd.

17. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

1194

18. Unrhyw fater Arall

CJ wedi derbyn adborth o werthfawrogiad aelodau’r cyhoedd bod Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi yn ymateb i e-byst a dderbynnir ynglŷn â datblygiadau Ynni.

Ar hyn o bryd nid oes angen unrhyw adnoddau pellach ar glerc y Fynwent.

Er nad yw’r Cyngor Cymuned wedi derbyn Grant Dydd Gŵyl Dewi roedd yna ymdeimlad cryf bod pobol am ddod at ei gilydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Chawl. Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd cynnal Cawl ar ddydd Sul, Mawrth 1af. Aelodau i anfon negeseuon o fewn y pythefnos nesaf i gadarnhau amser. Penderfynu creu poster i arbed y Dyddiad. Trafodwyd gwahodd disgyblion Ysgol Henry Richard i ddiddanu’r gynulleidfa.

Tyllau ar yr heol wedi gwaethygu yn dilyn yr eira rhwng Pant a Nantydderwen.

Dŵr ar yr heol wrth Fforest. Gan nad yw’r Cyngor yn gritio heol Pont Llanio mae’n hanfodol bod angen sortio allan y dŵr sydd yn cronni rhwng Fforest ac Abercoed. Penderfynwyd anfon llythyr at Gyngor Tref Tregaron yn nodi consyrn trigolion y Pentref.

Angen gosod polion ar lwybr Prynfarch.

Angen adnewyddu rhestr monitor y defib. Angen sicrhau bod defib ar gyfer y Ganolfan Gymuned.

Dŵr yn cronni ar yr heol rhwng Bronhelem a Llety Poeth. Dreanau wedi’i blocio.

19.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

09/02/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 21:26.

This page is also available in: English