Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Cyngor nos Lun 12 Mai 2025 am 7pm yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hodffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA:
1. Ethol Cadeirydd i’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2025/26.
2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn 2025/26.
3. Derbyn Datganiad Derbyn Swydd gan y Cadeirydd.
4. Ystyried a chymeradwyo adroddiad blynyddol drafft Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 2024/25 (I’w e-bostio cyn y cyfarfod).
5. Derbyn datganiadau diddordeb/rhagfarn.
6. Apwyntio Pwyllgorau a a Gweithgorau:
a. Pwyllgor Rheoli’r Neuadd.
(pob Cynghorydd yn aelod a’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd yn cadeirio).
b. Gweithgor bioamrywiaeth (Dyletswydd dan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 Adran 6. ).
7. Apwyntio Cynrychiolwyr
a. Pwyllgor Un Llais Cymru (ar hyn o bryd Cyng E Kincaid and E James).
8. Cyfradd ad-dalu.
Adolygu’r canlynol:
a. Lwfans Cadeirydd.
b. Lwfans aelodau
9. Adolygu’r cofrestr asedau sefydlog (gweler cofrestr wedi ei atodi).
10. Adolygu a derbyn Rheolau sefydlog a Rheoliadau Ariannol.
11. Penderfynu a oes angen adolygu trefn gwyno’r Cyngor Cymuned.
12. Adolygu Cofrestr Asesiad Risg y Cyngor Cymuned (gweler Cofrestr AR 2024/25 wedi ei atodi).
13. Adolygu trefniadau Yswiriant y Cyngor.
14. Adolygu gweithdrefnau a pholisïau’r Cyngor mewn cysylltiad â’i rwymedigaethau o dan Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR).
15. Adolygu polisïau Amddiffyn a Diogelu cyngor Cymuned Llanddewi Brefi.
16. Adolygu Polisi Grantiau’r Cyngor
17. Adolygu polisïau cyflogaeth a gweithdrefnau’r Cyngor.
18. Adolygu gwariant y Cyngor a dynnwyd o dan a.137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
19. Adolygu’r Cynllun Hyfforddiant Statudol.
20. Penderfynu amser a lleoliad cyfarfodydd y cyngor llawn hyd at/gan gynnwys y Cyfarfod Blynyddol y Cyngor llawn nesaf.
Lisa Zanoni
Clerc i’r Cyngor – 07/05/2023
This page is also available in: English