CYNGOR CYMUNED LLANDDEWI BREFI
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Adran 116
Hysbysiad o Gyfethol
RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod 3 sedd wag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned uchod, a bod y Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.
Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
- wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
- yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
- wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
- rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.[2]
Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Cymuned ar/yn Brynderwen, Llandewi Brefi, Tregaron, Ceredigion SY25 6UU erbyn 12yp, 6 Mehefin, 2017.
Dyddiedig 19 Mai 2017
E.M.Davies, Clerc y Cyngor
[2] Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei fod yn gymwys i ymgeisio.
Lawrlwytho Hysbysiad o Gyfethol 19/05/2017
This page is also available in: English