Yn dilyn y neges a ddanfonwyd ar 12 Mai –
Mae grant Cymorth Busnes Cronfa Caderinid Economaidd yn agor heddiw ar gyfer busnesau gyda throsiant blynyddol dros £85,000. Mae hwn yn cael ei brosesu trwy Busnes Cymru.
Mae’r grant i gynorthwyo costau gweithredu (heb gynnwys cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod 1 Mai tan 30 Mehefin 2021.
Mae’n benodol ar gyfer busnesau sydd naill ai:
a. Wedi’u gorfodi i aros ar gau oherwydd rheoliadau rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021
b. Wedi methu agor y tu fewn rhwng 1 Mai 2021 a 17 Mai 2021
c. Lleoliad sy’n cynnal priodasau neu ddigwyddiadau yn unig lle ceir rheoliadau capasiti o 30 o westeion
d. Busnesau cyflenwi lle mae 60% neu fwy o’u gwerthiant i fusnesau yng nghategori a), b) a/neu c)
Mae gwybodaeth/canllawiau llawn i’w gael yma:
Fe fydd y grant yn cau am 5 o’r gloch ar 7 Mehefin, felly does dim llawer o amser i wneud cais. Dylai busnesau wirio eu cymhwysedd ar gyfer y grant yma: COVID-19 Cymorth i Fusnes | Drupal (gov.wales)
Fe fydd cronfa gymorth ar gyfer busnesau gyda throsiant o lai na £85,000 yn agor yn yr wythnosau nesaf a fydd yn cael ei weinyddu gan Awdurdodau Lleol. Nid ydym wedi derbyn gwybodaeth ynghylch y cynllun hwn hyd yma.
Cyng. Rhodri Evans
This page is also available in: English