Mae’r grant Cronfa Cadernid Economaidd i Fusnesau wedi agor am 12:00 heddiw. Gall busnesau â throsiant llai na £85,000 nawr wneud cais am y grant nawr.
Bydd y grantiau’n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021, a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau oedd ar waith o ddechrau’r cyfnod.
Yn benodol, bydd y Gronfa yn cefnogi busnesau sydd naill ai:
- Wedi gorfod aros ar gau oherwydd y cyfyngiadau parhaus rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021
- Wedi methu agor dan do rhwng 1 Mai 2021 ac 17 Mai 2021
- Yn lleoliad sy’n darparu’n unswydd ar gyfer priodasau a digwyddiadau sydd â chyfyngiad rheoleiddiol o 30 o westeion (ond sy’n gallu dal llawer mwy dan amgylchiadau arferol)
- Yn fusnes cadwyn gyflenwi sy’n cynhyrchu 60% neu fwy o’i refeniw gwerthu gan fusnesau sy’n perthyn i gategorïau 1), 2) a/neu 3)
AC (mae hyn yn berthnasol i bob un o’r uchod):
Wedi profi effaith negyddol sylweddol drwy leihad o 60% neu fwy mewn trosiant ym mis Mai a Mehefin 2021 o’i gymharu â mis Mai a mis Mehefin 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau parhaus COVID-19.
Gweler y creiteria llawn a ffurflen gais isod:
http://www.ceredigion.gov.uk/busnes/covid-19-cefnogi-economi-ceredigion/cronfa-cadernid-economaidd/
Cyng. Rhodri Evans
This page is also available in: English