Cymorth Busnes Cronfa Caderinid Economaidd

Yn dilyn y neges a ddanfonwyd ar 12 Mai –

Mae grant Cymorth Busnes Cronfa Caderinid Economaidd yn agor heddiw ar gyfer busnesau gyda throsiant blynyddol dros £85,000.  Mae hwn yn cael ei brosesu trwy Busnes Cymru.

Mae’r grant i gynorthwyo costau gweithredu (heb gynnwys cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod 1 Mai tan 30 Mehefin 2021.

Mae’n benodol ar gyfer busnesau sydd naill ai:

a.    Wedi’u gorfodi i aros ar gau oherwydd rheoliadau rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021

b.    Wedi methu agor y tu fewn rhwng 1 Mai 2021 a 17 Mai 2021

c.     Lleoliad sy’n cynnal priodasau neu ddigwyddiadau yn unig lle ceir rheoliadau capasiti o 30 o westeion

d.    Busnesau cyflenwi lle mae 60% neu fwy o’u gwerthiant i fusnesau yng nghategori a), b) a/neu c)

Mae gwybodaeth/canllawiau llawn i’w gael yma:

https://businesswales.gov.wales/sites/main/files/documents/Economic%20Resilience%20Fund%20English%2017052021.pdf

Fe fydd y grant yn cau am 5 o’r gloch ar 7 Mehefin, felly does dim llawer o amser i wneud cais.  Dylai busnesau wirio eu cymhwysedd ar gyfer y grant yma:  COVID-19 Cymorth i Fusnes | Drupal (gov.wales)

Fe fydd cronfa gymorth ar gyfer busnesau gyda throsiant o lai na £85,000 yn agor yn yr wythnosau nesaf a fydd yn cael ei weinyddu gan Awdurdodau Lleol.  Nid ydym wedi derbyn gwybodaeth ynghylch y cynllun hwn hyd yma.

Cyng. Rhodri Evans

07870 604199

01974 298076

This page is also available in: English