Pob cofnod gan Website Administrator

Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi – 09/02/2026

 1195

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Chwefror 9fed am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd)(RE), Caryl Jones (CJ), Eirwen James(EJ), Beth Griffiths (BG), Pat Parry(PP), Dafydd Lloyd-Jones(DLJ)

1.Croeso

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

Gareth Jones(GJ), John Griffiths(JG), PCSO John Evans

3.Materion Personol .

Cydymdeimlo â theulu’r diweddar cyn cynghorydd Wynne Davies.

4.Datganiad o ddiddordeb.

Eitem 11 – Diweddariad Gorchymyn Cadw Coed – PP

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Ionawr 12fed 2026

Cynnigwyd i gadarnhau y cofnodion –  PP   Eilwyd gan – CJ

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Camsillafu –  Pynfarch nid Prynfarch

Yn y broses o newid Mandad cyfrifon Cyngor Cymuned.

Ffurflen praesept a Ffurflen Flynyddol ar Wariant Refeniw ynglŷn â darparu Gwasanaethau yn ymwneud â Thir Claddu a Mynwentydd am y flwyddyn sy’n diweddu ar Fawrth 31ain 2025 wedi’i ddychwelyd i Gyngor Sir Ceredigion erbyn 31ain o Ionawr.

Yn dilyn anfon e-bost yn diweddaru Cyfoeth Naturiol Cymru bod y coed wedi’i ailblannu y tu ôl i’r cae pêl-droed nid oes unrhyw ohebiaeth bellach wedi’i dderbyn.

Wedi adrodd am dyllau yn y ffordd rhwng Pant a Nantydderwen.

Yn dilyn adrodd bod dŵr yn cronni rhwng Hyfrydle a Bronhelem, mae’r Cyngor wedi bod yn glanhau’r heol ond mae’r draenau yn parhau i fod yn llawn o fwd. Hefyd maent wedi glanhau rhiw cwar ond nid y draenau ac o ganlyniad mae’r dŵr yn parhau i lifo lawr y rhiw adeg tywydd gwlyb.

Anfonwyd e-bost i Gyngor Tref Tregaron ynglŷn â’r dŵr sy’n cronni rhwng Abercoed a Fforest. Ni dderbyniwyd unrhyw ohebiaeth bellach.

Defib – mae’r ffurflen yn parhau hyd at ddiwedd Mawrth. Bydd angen creu ffurflen newydd ar gyfer Ebrill.

1196

Anfonwyd Adroddiad Adran 6 Bioamrywiaeth i Un Llais Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar wefan y Cyngor.

Parhau i ymchwilio ar pam nad yw’r ffôn yn y blwch ffon ar y sgwâr yn gweithio.

Ni chysylltwyd â phobol i ymgymryd â’r gwaith i atgyweirio polion ar gyfer llwybr Pynfarch.

Ar nos Lun, Chwefror 16eg rhwng 6:00pm a 7:30pm, cynhelir cyfarfod gan Un Llais Cymru yn cyflwyno trawseffaith cyfuno cynghorau Cymuned yng Ngheredigion. Clerc wedi bwcio lle ar y cyflwyniad yn barod.

Yn dilyn cyhoeddi munudau Cyfarfod Cyngor Cymuned Rhagfyr ar wefan y cyngor, derbyniodd Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion e-bost gan aelod o’r Gymuned ynglŷn a thrafodaeth ar Orchymyn Cadw Coed Arfaethedig â’r sylwadau a wnaed. Yn dilyn gohebiaeth bellach gan y Swyddog Monitro, nodwyd nad oedd unrhyw aelod o’r Cyngor Cymuned wedi gwneud unrhyw sylw hyd at y pwynt lle cytunwyd i ysgrifennu llythyr yn nodi ei gwrthwynebiad i’r cynllun, bod yr aelod o’r Cyngor Cymuned a nododd Datganiad o Ddiddordeb wedi cwblhau’r ffurflen berthnasol ac wedi gadael yr ystafell cyn i’r drafodaeth gymryd lle. Dim ond aelodau o’r gymuned a oedd yn bresennol a wnaed unrhyw sylwadau. O ganlyniad i’r mater yma, byddwn yn sicrhau ein bod yn nodi pryd mae aelod o’r Cyngor Cymuned yn gadael yr ystafell a nodi gwahaniaeth rhwng aelod o’r Cyngor Cymuned ac aelod o’r cyhoedd. Clerc i anfon e-bost pellach i’r Swyddog Monitro yn esbonio’r hyn a ddigwyddodd ynghyd a chynnwys y Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb. Cynigwyd i newid munudau i adlewyrchu yn fwy cywir yr hyn a ddigwyddodd gan EJ. Eilwyd gan CJ. 

8. Adroddiad yr Heddlu

Yn anffodus nid oedd PCSO John Evans yn gallu mynychu’r cyfarfod. Er hyn roedd wedi anfon adroddiad i’r Cyngor Cymuned lle nodwyd nad oedd unrhyw droseddau wedi digwydd ers y cyfarfod blaenorol.

Er hyn roedd aelod o’r cyhoedd wedi nodi i un o’r cynghorwyr bod ceir yn teithio ar gyflymder yn uwch na 20mya gydag un digwyddiad bod car yn pasio car arall oedd yn gyrru ar gyflymder o 20mya. Clerc i anfon y wybodaeth yma at PCSO John Evans.

Nododd aelod o’r cyhoedd oedd yn bresennol, bod loriau coed yn teithio ar hyd y B4343 o Landdewi-Brefi i Lanbed trwy Lanfair Clydogau a Chellan a thiemlai nad yw’r heol yn addas ar gyfer cerbydau mor fawr. Nodwyd nad oedd hi’n bosib gwneud unrhyw beth am y mater yma.

9. Adroddiad Ariannol

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Ionawr 31ain 2026

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol: £281.81  Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19. Cytunwyd i awdurdodi taliad PAYE staff – £148.32 i gadw y taliadau yn gyfredol gan osgoi y sefyllfa o dderbyn dirwy arall. 

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £52.74 (Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19);

(ii) Taliadau banc 15/12 – 14/01 – £19.90 Deddf Llywodraeth Lleol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol – 

A Tuncay – Ad-daliad am ddiodydd adeg Noson Canu Carolau £35.00; J M Y Edwards – Ad-daliad am ddiodydd ysgafn adeg Noson Can Carolau £25.00; C H Jones Ad-daliad Mins Peis ar gyfer Noson Canu Carolau – £15.94 (Deddf Llywodraeth Lleol 1972A.144);

 
e) Taliadau a dderbyniwyd – Cyngor Sir Ceredigion – Grant Mannau Cynnes Ychwanegol – £100.00

1197

Cytunodd y Cyngor i Awdurdodi y Clerc i dalu biliau I.A. Griffiths ar ôl ei derbyn gan Glerc y Mynwent.

Nododd RE ei fod wedi derbyn gwybodaeth bydd y Cyngor Cymuned yn gosod praesept am dri mis rhwng Ebrill a Mehefin 2027 cyn bydd y Cyngor Cymuned Newydd yn gosod y paresept am wedill y flwyddyn ariannol 2027-28.

10.Derbyn Tystysgrif  Archwilio 2024-25 – Awdit Cymru

Cytunodd yr Aelodau i dderbyn Tystysgrif Archwilio 2024-25 Awdit Cymru. Cwblhawyd y ffurflen hysbysu i aelodau o’r cyhoedd i archwilio’r dystysgrif. Cytunwyd ar amseroedd sydd yn gyfleus i’r clerc ynghŷd â chynnig amseroedd trwy apwyntiad o flaen llaw i archwilio’r dystysgrif. Cytunwyd i godi tâl o £1.00 am y dystysgrif.

11.Diweddariad Gorchymyn Cadw Coed

Gadawodd Cynghorydd PP y cyfarfod ar y pwynt yma. Roedd eisoes wedi cwblhau ffurflen Datganiad o Ddiddordeb. Darllenwyd e-bost a dderbyniwyd ar 18/01/26 gan Swyddog o Gyngor Sir Ceredigion yn nodi nad oeddynt am barhau gyda’r Gorchymyn. Er hyn, mae rhaid cofio bod y Pentref yn rhan o Ardal Cadwraeth Erthygl 4. Gofynnodd aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol pa ran o’r Pentref sy’n rhan o’r Ardal Cadwraeth. Nodwyd byddai map o’r ardal yn ddefnyddiol i’w lanlwytho i wefan y Cyngor. Mae’r Ardal Cadwraeth yn cwmpasu’r ardal o’r bont ger yr hen ysgol i Gapel Bethlehem i’r Neuadd sy’n cynnwys Stryd Penuwch.  Dychwelodd y Cyngorydd PP i’r cyfarfod ar ddiwedd y drafodaeth ar y pwynt yma.

12. Digwyddiad Dydd Gwyl Dewi – Mawrth 1af 2026.

Yn gyntaf diolchwyd i BG am greu’r posteri ac am argraffu’r tocynnau. Angen gwerthu’r tocynnau erbyn Chwefror 25ain er mwyn cael syniad o ran  niferoedd sy’n mynychu. BG wedi llythyru archfarchnadoedd a chwmniau lleol er mwyn derbyn rhoddion o lysiau a nwyddau i weini’r cawl. Gofyn i Yvonne a fydd yn paratoi a gweini’r cawl pa gig y dymunai i’w ddefnyddio. Does dim angen cennin a bresych ar gyfer y cawl. Nodwyd bod angen cawl llysieuol a bara di-glwten. Ni fydd Caffi Dewi yn rhedeg ar y diwrnod yma. Byddai aelodau o’r Caffi yn gweini te a choffi. SYM i baratoi pice ar y maen ac aelodau o GFFI Llanddewi-Brefi i baratoi bara brith. Paratoi y neuadd ar ddydd Sadwrn, Chwefror 28ain am 10:00am. PP i gyflenwi’r cennin pedr. Raffl – aelodau’r Cyngor Cymuned i roi gwobrau a PP i drefnu pobol i’w gwerthu. Angen edrych ar newid amser y Gwasanaeth yn yr Eglwys i 10.30am gyda’r cawl yn barod am 12:00pm. Clerc i siarad â Warden yr Eglwys ynglŷn â newid yr amser o 10.00am i 10.30am. RE wedi gofyn i Ysgol Henry Richard ynglŷn ag adloniant ond heb dderbyn cadarnhad eto. Anfon neges trwy Whatsapp i gadarnhau adloniant.  

13.Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028

Roedd y clerc wedi mynychu Hyfforddiant Un Llais Cymru ar ran y Cyngor Cymuned ar Ionawr 22ain. Derbyniwyd templad ar gyfer y cynllun ynghŷd ag arfer dda i’w gynnwys. Dechrau coladu gwybodaeth i’w roi yn y cynllun.

14.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

15. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

  • Bwletin Costau Byw Ionawr 2026 –   Bwletin Cost Byw Ceredigion: Cymorth gyda Phrofedigaeth
  • Calendr Digwyddiadau Ionawr – Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion
  • Dyddiadau Hyfforddiant Ionawr – Mawrth 2026
  • E Bwletin  Un Llais Cymru rhif 16
  • Cais am arian gan CFFI Ceredigion

1198

  • Heddlu Dyfed Powys – Cynhadledd Gwyl Dewi 2026: Plismona Mewn Oes Ddigidol
  • Heddlu Dyfed Powys – Panel Craffu Cymunedol – Eisiau Gwirfoddolwyr
  • Cyngor Sir Ceredigion – Helpwch siapio dyfodol twristiaeth feicio yng Ngheredigion

16. Unrhyw fater Arall

Derbyniwyd gwybodaeth bod tair dafad yn crwydro y tu allan i’r fynwent.

Tyllau yn yr heol ar bwys mynediad i fferm Ystrad Dewi a rhwng Tŷ Mawr a Chefn Llanio

17.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

09/03/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 21:05.

Ffordd ar gau Dros Dro – B4343 Ffordd Dewi, Tregaron 08/04/2026

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro: 

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:29/26
Rhif y Ffordd:
USRN
Ffordd Dewi 47100707
Lleoliad:Tregaron https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:c04ac842-bdb7-4658-b4d3-a03953f7e081
Dyddiad ac amser:08/04/2026 08:00-17:00
Parhad: Yn ystod y cyfnod dan sylw
Gwaith:Gwaith polion  
Ymgeisydd:G T Williams ar rhan BT Openreach
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Ffordd ar gau Dros Dro – B4343, Llanfair Clydogau – 24/03/26 – 25/03/26

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro : 

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:852/25
Rhif y Ffordd:
USRN
B4343 47100906/47122842/47100851/47100852
Lleoliad:Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:05632161-1331-464c-8825-8d89c4ae587f
Dyddiad ac amser:24/03/2026-25/03/2026 09:30-15:30
Parhad:Yn ystod y cyfnod dan sylw
Gwaith:Gwaith polion  
Ymgeisydd:Sunbelt Rentals ar rhan BT Openreach
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi

Dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth y 1af gyda Gwasanaeth ar y cyd yn Eglwys Dewi Sant gyda chawl i ddilyn yn y Neuadd. Dymuna Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi ddiolch yn arbennig i Yvonne, New Inn a’r tîm am baratoi a gweini’r cawl. Diolch hefyd i Sandra Jones a Pharch Carwyn Arthur am arwain y Gwasanaeth yn yr Eglwys, i Swyddogion Eglwys Dewi Sant am gynnal y Gwasanaeth yn yr Eglwys ac i aelodau Capeli’r Ofalaeth am fynychu. Yn ogystal diolch i Gaffi Dewi am weini’r te a’r coffi. Diolch i Gigydd D Davies, Tregaron am ddarparu’r cig; Tesco Aberystwyth am y llysiau; Morrisons Aberystwyth am y llysiau a’r caws; Spar Tregaron am y bara; Siop Ffrwythau Tregaron am y cennin pedr a Halen a Pupur am y cyllyll. Diolch i aelodau Sefydliad y Merched Llanddewi-Brefi am baratoi Pice ar y Maen ac aelodau CFFI Llanddewi-Brefi am y bara brith. Yn olaf, dymuna’r cyngor ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd gan sicrhau digwyddiad llwyddiannus.

Agenda Cyfarfod Cyngor Cymuned – 09/03/26

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Mawrth 9fed 2026 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Datgan Diddordeb
  5. Cyfranogiad y cyhoedd
  6. Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Chwefror 9fed 2026
  7. Materion yn codi
  8. Adroddiad yr Heddlu
  9. Materion Ariannol
    • Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Chwefror 28ain 2026
    • Awdurdodi taliadau – Staff a thaliadau cyfrinachol
    • Taliadau cylchol –
      • Teleffon a band eang y Neuadd BT
      • Taliadau Banc
    • Llog Banc a Dderbyniwyd
    • Taliadau a dderbyniwyd
    • Hawlio TAW 2025-26
  10. Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028
  11. Diweddariad SiopNi
  12. Trafodaeth yn dilyn cyflwyniad Un Llais Cymru – Beth Mae Angen i chi Wybod am Adolygiadau Ffiniau Cymunedol
  13. Cais Cynllunio – A260072 – Ochrdewi, Llanddewi-Brefi, SY25 6NZ
  14. Diffibriliwr
  15. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  16. Gohebiaeth
  17. Unrhyw fater arall
  18. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Ebrill 13eg 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi 12/01/2026

 1191

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Ionawr 12fed am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd), Caryl Jones, Eirwen James, John Griffiths, Pat Parry, PC Liz Jenkins

1.Croeso

Dymunodd y Cadeirydd Blwyddyn Newydd Dda i bawb oedd yn y cyfarfod. Diolchodd i bawb oedd wedi cynorthwyo i dynnu’r goeden Nadolig i lawr yn gynharach yn y noson ynghyd a’i roi i fyny ar ddechrau Rhagfyr. Diolchwyd i Richard Elliott am ddarparu’r goeden. Nododd, y bu Rhagfyr yn fis prysur gyda noson ganu carolau llwyddiannus o amgylch y goeden ar Ragfyr 18fed a chynulleidfa dda ar gyfer yr arddangosfa gan Helfa Gogerddan ar Ddydd San Steffan. Hefyd braf oedd gweld gymaint o gefnogaeth ar gyfer y Daith Tractorau gan godi dros £7000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i Damelza, Malen a Gwilym am gynorthwyo gyda’r Groto Nadolig.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

Gareth Jones, Dafydd Lloyd-Jones, Beth Griffiths

3.Materion Personol .

Dymuno Penblwydd hapus arbennig i JG.

4.Datganiad o ddiddordeb.

Dim

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Rhagfyr 8fed 2025

Cynnigwyd i gadarnhau y cofnodion –  EJ   Eilwyd gan – JG

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Esboniodd PC Liz Jenkins bod yr hyn a ddigwyddodd ar iard yn agos i Dregaron yn dal yn cael ei ymchwilio gan eu bod yn aros am ganlyniadau unrhyw dystiolaeth ffroesnig a gymerwyd o’r bag awyr a aeth i ffwrdd  yn y cerbyd.

Safleoedd Bysus – e-bost wedi’i anfon at Gyngor Ceredigion i nodi nad oes yna safleoedd bysus yn y mannau a nodwyd ar y daenlen. Ychwanegwyd safle bws Hyfrydle i’r rhestr.

Roedd y Clerc wedi hysbysu’r person a rhoddodd y Tendr llwyddiannus i mewn ar gyfer Torri Porfa.

Roedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn e-bost o ddiolch gan Helfa Gogerddan am y rhodd ar gyfer yr arddangosfa ar ddydd San Steffan.

Anfonwyd e-bost i gwmni Barcud ar 14/12/25 ynglŷn â pherth 9 Heol y Gorwydd gyda’r gwaith yn cael ei gwblhau ar 17/12/25.

1192

Nid oedd y Cyngor Cymuned wedi bod yn llwyddiannus i dderbyn grant Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru.

Wedi bod yn edrych ar ba resymau pam nad yw’r teleffon ddim yn gweithio yn y blwch teleffon.

Cyngor Cymuned wedi anfon llythyr ynglŷn â’r Gorchymyn Coed i Gyngor Ceredigion. Nid oes unrhyw ohebiaeth bellach wedi ei dderbyn.

Enillydd cystadleuaeth Tŷ Golau Nadolig orau oedd Tŷ Mawr, Llanddewi-Brefi.

Cafwyd bwyd bendigedig yng Nghegin Gareth ar gyfer ein Cinio Blynyddol.

8. Adroddiad yr Heddlu

Croesawyd PC Liz Jenkins i’r Cyfarfod. Nodwyd ar 19/12/25 bod dau berson ifanc wedi bod yn cnocio ar ddrws person o fewn y Pentref ac yna rhedeg i ffwrdd. Roedd y person wedi cysylltu â’r heddlu gyda swyddog o’r heddlu wedi siarad ar ddau berson ifanc yng nghwmni ei rhieni.

Ar 11/12/25 derbyniwyd adroddiad bod Swyddog Gorfodaeth wedi clampio car yn dilyn Hysbysiad Tâl Cosb oedd heb ei dalu. Ar y diwrnod canlynol pan ddychwelodd y Swyddog roedd y car wedi mynd a chofnodwyd hyn fel lladrad.

Mae yna adroddiadau o ddyn ifanc yn cerdded o amgylch ardal Olmarch, Llwynygroes a Rhattal. Mae’n gwisgo dillad tywyll ac mae fel petai yn edrych i mewn i fynedfa tai pobol. Mae’r heddlu yn awyddus i siarad â’r person er mwyn sicrhau nad yw yn berson bregus ac angen cymorth.

Ar 11/01/26 derbyniwyd adroddiad o lampio yn digwydd yn ardal Swyddffynnon gan annog pawb i fod yn wyliadwrus.

Atgoffwyd am yr Ap o gyfarfod Tachwedd.

Nododd un cynghorydd bod aelod o’r gymuned wedi ei chysylltu ynglŷn â cheir gwahanol sydd yn y Pentref yn ystod y Nadolig. Anogodd PC Liz Jenkins i gadw cofnod o’r math o gar ac amseroedd penodol. Byddai modd hysbysu’r heddlu trwy ei ffonio neu ffonio Crimestoppers.

Gofynnwyd am reswm am bresenoldeb tri char heddlu ac un car heb ei farcio ar Noswyl Nadolig. Nid oedd PC Jenkins yn ymwybodol o hyn ond byddai yn rhoi gwybodaeth mor gynted â phosib. Nododd bod modd i’r Cyngor Cymuned anfon neges unrhyw adeg ac ni does angen aros i’r Cyfarfod misol.

9. Adroddiad Ariannol

Nid oedd wedi bod yn bosibl i baratoi adroddiad o flaen llaw gan nad oedd y Clerc wedi derbyn y cyfriflenni hyd at noswaith y cyfarfod.

EJ wedi bod mewn Cysylltiad â Banc Barclays ac wedi anfon ffurflen mandad banc ymlaen i’r clerc i’w gwblhau er mwyn newid cyfeiriad gohebiaeth.

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Ragfyr 31ain 2025

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol: £475.67  Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £52.74 (Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19);

(ii) Taliadau banc 13/11 – 14/12 – £19.90 Deddf Llywodraeth Lleol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol –  M E James Ad-daliad am anrhegion Nadolig £128.57; P Parry Ad-daliad am anrhegion Nadolig – £84.08 74 (Deddf Llywodraeth Lleol Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19);

1193

A Tuncay – Ad-daliad am ddefnydd trydan ar gyfer goleuo Coeden Nadolig £25.00 (Deddf Llywodraeth Lleol 1972A.144);  

I.A Griffiths Beddfeini £550.00 (Deddf Llywodraeth Lleol 1972, a214)

Diolchwyd i EJ a PP am brynu y nwyddau ar gyfer yr anrhegion.

 
e) Taliadau a dderbyniwyd – Dim

10.Ystyried cynigion cyllideb a chymeradwyo praesept ar gyfer 2026-2027

Yn dilyn trafodaeth am gyllideb 2026-27 penderfynwyd cadw at godi praesept o £18,000.

Cynnigwyd gan JG. Eilwyd gan EJ

11.Cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol ar Wariant Refiniw ynglyn â darparu Gwasanaethau yn ymwneud â Thir Claddu a Mynwentydd am y flwyddyn sy’n diweddu ar Fawrth 31ain 2025.

Edrychwyd yn ôl ar Adroddiad Ariannol 2024-2025 a nodwyd bod angen gofyn am adaliad o £2,240.30. Cynnigwyd gan EJ. Eilwyd gan PP.

12.Adroddiad Adran 6 Bioamrywiaeth / Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028

Cyflwynwyd Adroddiad Adran 6 Bioamrywiaeth i’r Cyngor. Bydd yr adroddiad yn cael ei anfon ymlaen at Swyddogion Bioamrywiaeth Un Llais Cymru ynghyd a’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Mae angen ysgrifennu Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028. Bydd y clerc yn mynychu hyfforddiant ar-lein a ddarperir gan Un Llais Cymru ar ran y Cyngor ar nos Iau, Ionawr 22ain er mwyn derbyn canllawiau ac arferion da. Yn dilyn yr hyfforddiant yma bydd modd dechrau coladu gwybodaeth i’w gynnwys yn y Cynllun Bioamrywiaeth.

13.Gohebiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru

Derbyniwyd e-bost gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ddydd Gwener, Rhagfyr 19eg yn nodi byddai’r Cyngor yn derbyn estyniad i blannu coed y tu ôl i’r cae pêl-droed. Er hyn roedd y Cyngor eisoes wedi trefnu plannu coed a oedd wedi ei brynu ym mis Tachwedd. Ar ddydd Llun Rhagfyr 22ain anfonwyd lluniau o dystiolaeth bod y coed wedi’i blannu. Hyd yn hyn nid ydym wedi derbyn unrhyw ohebiaeth bellach am y mater.

14.Diweddariad Taith Tractor er budd elusen Ann Jones, Uchel Siryf Dyfed

Cafwyd diwrnod llwyddiannus dros ben fel y nodwyd ar ddechrau’r cyfarfod.

15.Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I’w gynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

16. Datblygiadau Ynni Waun Maenllwyd / Lan Fawr / Bryn Rhudd

Derbyniwyd e-bost ar 06/01/26 yn amlinellu yr hyn roedd Bute wedi ei wneud ar ddatblygiadau Ynni Lan Fawr a Bryn Rhydd.

17. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

1194

18. Unrhyw fater Arall

CJ wedi derbyn adborth o werthfawrogiad aelodau’r cyhoedd bod Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi yn ymateb i e-byst a dderbynnir ynglŷn â datblygiadau Ynni.

Ar hyn o bryd nid oes angen unrhyw adnoddau pellach ar glerc y Fynwent.

Er nad yw’r Cyngor Cymuned wedi derbyn Grant Dydd Gŵyl Dewi roedd yna ymdeimlad cryf bod pobol am ddod at ei gilydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Chawl. Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd cynnal Cawl ar ddydd Sul, Mawrth 1af. Aelodau i anfon negeseuon o fewn y pythefnos nesaf i gadarnhau amser. Penderfynu creu poster i arbed y Dyddiad. Trafodwyd gwahodd disgyblion Ysgol Henry Richard i ddiddanu’r gynulleidfa.

Tyllau ar yr heol wedi gwaethygu yn dilyn yr eira rhwng Pant a Nantydderwen.

Dŵr ar yr heol wrth Fforest. Gan nad yw’r Cyngor yn gritio heol Pont Llanio mae’n hanfodol bod angen sortio allan y dŵr sydd yn cronni rhwng Fforest ac Abercoed. Penderfynwyd anfon llythyr at Gyngor Tref Tregaron yn nodi consyrn trigolion y Pentref.

Angen gosod polion ar lwybr Prynfarch.

Angen adnewyddu rhestr monitor y defib. Angen sicrhau bod defib ar gyfer y Ganolfan Gymuned.

Dŵr yn cronni ar yr heol rhwng Bronhelem a Llety Poeth. Dreanau wedi’i blocio.

19.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

09/02/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 21:26.

Cau Ffordd ar Frys – U1518, Llanddewi-Brefi – 13/02/26 – 17/02/26

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro:

Dim mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:940/25
Rhif y Ffordd:
USRN
U1518 47101462
https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:b6123dc5-b6a9-4184-9c63-12607d24c6b7
Lleoliad:Llanddewi Brefi, Tregaron
Dyddiad ac amser:13/02/2026-17/02/2026 24 awr
Parhad: 24 awr y dydd
Gwaith:atgyweirio prif gyflenwad
Ymgeisydd:Go Traffic Management ar rhan Network Plus – Dwr Cymru
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Cau Ffordd Dros Dro – U4090 Ffarmers, Llanwrda – 13/03/26

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

ADRAN 14 O DDEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN DDEDDF TRAFFIG FFYRDD (CYFYNGIADAU DROS DRO) 1991 – CAU FFORDD DROS DRO – U4090 O FFARMERS, LLANWRDA

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn hysbysu drwy hyn na chaniateir i neb achosi i unrhyw gerbyd deithio ar hyd y darn hwnnw o’r ffordd a adwaenir fel yr U4090 o Ffarmers, Llanwrda o bwynt sydd 820 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â’r U4095, am bellter o oddeutu 740 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.

Mae angen cau’r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd tra bydd BT Openreach yn gwneud gwaith cyfnewid polion ddydd Gwener, 13 Mawrth 2026 am gyfnod o 1 diwrnod rhwng 08:00 a 18:00.

Y Ffordd Arall ar gyfer traffig sydd am deithio tua’r gogledd-ddwyrain fydd defnyddio’r U4095 (Ty’n-Cornel i U4090), yr U4101 (o Ffarmers), yr C1293 (Cellan), yr U1660 (Llanfair Clydogau), yr U1656 (Llanfair Clydogau), yr U1655 (Llanfair Clydogau), yr U1654 (Llanfair Clydogau), yr U1519 (Esgair Garn), yr U1518 (o Landdewi Brefi i ffin y sir) a’r U4090 (o Ffarmers).

I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig dargyfeiriedig sy’n teithio tua’r de-orllewin.

Manylion Cyswllt yr Ymgeisydd: Barr Engineering Services Ltd                                                         

E-bost: emilywilliams@barrengineeringservices.co.uk 

Lle bo’n bosibl, caniateir mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.

Mae’r Hysbysiad hwn yn berthnasol pan fydd yr arwyddion a’r rhwystrau perthnasol ar y safle ac mae’n ddilys am gyfnod o hyd at 5 diwrnod.

DYDDIEDIG Y 6ED O FAWRTH, 2026

Mr Ainsley Williams

Cyfarwyddwr Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd

Neuadd y Sir

Caerfyrddin

Sir Gaerfyrddin

SA31 1JP

Hysbysiad am gwblhau Archwiliad ac am yr hawl i arolygu’r Cofnod Blynyddol am y flwyddyn yn gorffen Mawrth 31ain 2025.

Public Audit (Wales) Act 2004 Section 29

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014

 1.    Mae archwiliadau cyfrifon dros Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi ar gyfer y flwyddyn sy’n gorffen ar 31 Mawrth 2025 wedi’u cwblhau.  
   Mae’r cofnod blynyddol ar gael i’w arolygu gan etholwyr llywodraeth leol ardal Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi trwy wneud cais at:
(a)   Rhowch enw, swydd a chyfeiriad y person y dylai etholwyr llywodraeth leol wneud cais iddo/iddi i archwilio’r datganiad cyfrifon(a) Mr Sion Jones
       Clerc & Swyddog Ariannol Cyfrifol
      Awelon, Llanddewi-Brefi, Tregaron, Ceredigion, SY25 6RL
(b)   Rhowch yr amseroedd y gall   etholwr llywodraeth leol wneud cais i archwilio’r Ffurflen Flynyddol  Chwefror 16eg – Chwefror 20fed rhwng 10:00am a 11:00am neu 3:00pm a 5:00pm neu rhwng 1:30pm a 4:00pm ar ddydd Sadwrn a Sul neu trwy apwyntiad o flaen llaw trwy ffonio 07870 299370.         
gan eithrio gwyliau cyhoeddus), pryd y gall unrhyw etholwr llywodraeth leol wneud copïau o’r cofnod blynyddol  
  (c)   Rhowch swm rhesymol ar gyfer costau copïo      3.    Darperir copïau i unrhyw etholwr llywodraeth leol os gwneir taliad o (c)   £1.00 am bob copi o’r ffurflen flynyddol
(d)   Rhowch enw a swydd y person sy’n gosod yr hysbysiad    (d)Mr Sion Jones  Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol
(e)   Rhowch ddyddiad gosod yr hysbysiad     (e) 14/02/2026

Cau Ffordd Dros Dro – Heol Dewi a Stryd Fawr, Tregaron – 26/02/2026

Noder y ffordd canlynol a fydd ar gau dros dro:

Mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys:

Cyf:849/25
Rhif y Ffordd

USRN
Ffordd Dewi & Stryd Fawr   47100707 & 47100708

Lleoliad:
  Tregaron https://acrobat.adobe.com/id/urn:aaid:sc:EU:e47f2f77-dac7-4898-9a13-6d7f68321873  
Dyddiad ac amser:26/02/2026 09:30-15:30
Parhad:Yn ystod y cyfnod dan sylw
Gwaith:cysylltiad cwsmer newydd  
Ymgeisydd:  Sunbelt Rentals ar rhan BT Openreach  
Rheswm:I sicrhau diogelwch y cyhoedd

Agenda Cyfarfod Cyngor Cymuned – 09/02/26

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Chwefror 9fed 2026 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Datgan Diddordeb
  5. Cyfranogiad y cyhoedd
  6. Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Ionawr 12fed 2026
  7. Materion yn codi
  8. Adroddiad yr Heddlu
  9. Materion Ariannol
    • Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Ionawr 31ain 2026
    • Awdurdodi taliadau –
      • Staff a thaliadau cyfrinachol
      • Treuliau Digwyddiadau Nadolig
    • Taliadau cylchol
      • Teleffon a band eang y Neuadd BT
      • Taliadau Banc
    • Llog Banc a Dderbyniwyd
    • Taliadau a dderbyniwyd
  10. Derbyn Tystysgrif Archwilio 2024-25 – Awdit Cymru
  11. Diweddariad Gorchymyn Cadw Coed
  12. Digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi – Mawrth 1af 2026
  13. Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028
  14. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  15. Gohebiaeth
    • Bwletin Costau Byw Ionawr 2026 –   Bwletin Cost Byw Ceredigion: Cymorth gyda Phrofedigaeth
    • Calendr Digwyddiadau Ionawr – Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion
    • Dyddiadau Hyfforddiant Ionawr – Mawrth 2026
    • E Bwletin  Un Llais Cymru rhif 16
    • Cais am arian gan CFFI Ceredigion
    • Heddlu Dyfed Powys – Cynhadledd Gwyl Dewi 2026: Plismona Mewn Oes Ddigidol
    • Heddlu Dyfed Powys – Panel Craffu Cymunedol – Eisiau Gwirfoddolwyr
    • Cyngor Sir Ceredigion – Helpwch siapio dyfodol twristiaeth feicio yng Ngheredigion
  16. Unrhyw fater arall
  17. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Mawrth 9fed 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

Cofnodion – Cyngor Cymuned Llanddew-Brefi 08/12/2025

1186

Cofnodion cyfarfod cyffredinol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar nos Lun, Rhagfyr 8fed am 7:30pm yn y Ganolfan Gymuned.

Cyhoeddir cofnodion drafft yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Etholiadau (Cymru) 2021 ac maent yn destun cymeradwyaeth yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Cyngor Cymuned.

Presennol:

Cynghorwyr :  Rhodri Evans(Cadeirydd), Dafydd Lloyd Jones, Eirwen James,  Gareth Jones, John Griffiths, Pat Parry, PCSO John Evans

1.Croeso

Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod. Yn gyntaf, diolchodd i bawb a oedd wedi helpu i osod y Goeden Nadolig ar y sgwâr ar nos Wener, Rhagfyr 5ed. Diolchodd hefyd i Richard Elliott am ddarparu’r goeden. Nesaf, diolchodd i Shelagh Yeomans am blannu amrywiaeth o blanhigion o amgylch y neuadd yn ystod y flwyddyn.

2. I dderbyn ymddiheuriadau.

Caryl Jones, Beth Griffiths

Gan fod PCSO John Evans yn bresennol, cytunwyd i symud cyflwyniad ei adroddiad.

19. Adroddiad PCSO

Roedd yn falch o hysbysu’r Cyngor Cymuned nad oedd llawer iawn wedi digwydd o ran troseddau ers y cyfarfod blaenorol. Fodd bynnag, fe wnaethpwyd adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol a harasiaeth ar Dachwedd 11eg ac ar ddechrau Rhagfyr gyda’r dioddefwr yn adrodd problemau gyda chymydogion gan gynnwys ci yn neidio dros ffens gyda bygythiad i niweidio’r ci. Ni lwyddwyd i gasglu unrhyw dystiolaeth, felly caewyd yr achos. Mae’r tai dan sylw yn cael eu rheoli gan Gymdeithas Tai Barcud. Ni adroddwyd am unrhyw ladrad fawr ond digwyddodd ladrad fawr ymhellach i fyny’r ffordd ger Tregaron lle’r oedd y perchennog yn adrodd bod cerbyd wedi mynd i mewn i’r iard. Symudodd y perchennog ei gerbyd i atal cerbyd arall rhag gadael, fodd bynnag, aeth y cerbyd trwy’r bwlch gan niweidio cerbyd y perchennog yn y broses, gan yrru i fyny cae a mynd yn sownd yn y mwd. Rhedodd y bobl o’r cerbyd ond mae’r heddlu wedi ei adfer i gasglu unrhyw dystiolaeth DNA. Oddeutu’r un cyfnod, hysbysodd perchennog Parc Carafanau Hendrewen fod ffenestr carafan wedi torri gyda’r heddlu yn edrych a oes unrhyw gysylltiadau rhwng y ddau. Nid oes lladrata, cam-drin wedi’u gofnodi. Mae twyll yn parhau gydag aelwyd yn Llangeitho yn adrodd ceisio twyllo. Hefyd, Twyll Cerdyn Argos – mae rhai manylion wedi cael eu hacio ac mae pobl yn cael eu hannog i newid eu cyfrinair os oes ganddynt Gerdyn Argos. Mae twyll arall sy’n gwneud ei rownd yn Dwyll Uwchraddio Ffôn Symudol. Os bydd unrhyw un yn meddwl ei bod wedi cael eu twyllo, rhowch wybod i’r Heddlu. Atgoffwyd am yr Ap o’r cyfarfod blaenorol. Hefyd,atgoffwyd am Wythnos Genedlaethol Diogelu ac Ymgyrch Herbert. Atgoffodd yr aelodau y PCSO am y Daith Tractor sy’n digwydd ar Ddydd Sul, Rhagfyr 21ain. Diolchodd y Cadeirydd iddo am ei adroddiad.

3.Materion Personol .

Dymuno penblwydd hapus i JG a fydd yn dathlu penblwydd arbennig hwyrach yn y mis.

4.Datganiad o ddiddordeb.

PP Pwynt 14 – Gorchymyn Cadw Coed

5.Cyfranogiad y Cyhoedd.

Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

Oherwydd presenoldeb aelodau o’r cyhoedd, penderfynwyd symud ymlaen eitemau agenda 14 a 17.

1187

14. Gorchymyn Cadw Coed

Gadawodd Cynghorydd PP yr ystafell. Roedd eisoes wedi cwblhau ffurflen Datganiad o ddiddordeb gan nodi y mae’n fuddiant sy’n rhagfarnu ac yr oedd yn gadael y cyfarfod, yn unol â gofynion y Cod. Roedd y Cyngor Cymuned wedi derbyn saith llythyr yn gwrthwynebu Gorchymyn Cadw Coed o amgylch Prynfarch ar chwech o goed. Roedd copïau o’r llythyrau hyn wedi cael eu hanfon at aelodau cyn y cyfarfod. Roedd pob llythyr hefyd wedi cael eu hanfon i Gyngor Sir Ceredigion. Rhaid derbyn pob gwrthwynebiad i’r Gorchymyn Cadw Coed arfaethedig gan Gyngor Sir Ceredigion erbyn Rhagfyr 16eg. Gwnaeth yr aelodau o’r cyhoedd a oedd yn bresennol y sylwadau canlynol:-
Mae’r coed mewn cyflwr gwael.
Mae aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol yn gorfod symud eu cerbyd oddi ar eu trac parcio mewn tywydd gwyntog/ansefydlog oherwydd y peryg y bydd canghennau yn disgyn ar y car. Yn y gorffennol, mae wedi  niweidio sgrin flaen.
Roedd aelod o’r cyhoedd eisiau torri’r goeden i’w gwneud yn fwy diogel ond gyda chyfyngiad Gorchymyn Cadw Coed bydd yn costio llawer o arian i wneud hyn.
Mae pobl yn defnyddio’r llwybr cerdded ac mae angen iddo fod yn ddiogel.
Beth fyddai yn digwydd os byddai coeden yn syrthio? Cyfrifoldeb perchnogion tir.
Nododd aelod arall o’r cyhoedd a oedd yn bresennol fod dwy goeden wedi tyfu’n rhy fawr ac yn gwthio’r wal allan i’r ffordd ac mae’n rhwystro’r ffordd yn rhannol.

Rhoddwyd hysbysiadau Gorchymyn Cadw Coed allan yn y nos. A yw gweithwyr y cyngor yn gweithio yn y nos?
Cafodd aelod o’r cyhoedd ei hysbysu bod Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal archwiliadau ar hyn o bryd o ran gwirio coed.
Mae 3 o’r coed Ffawydd yn edrych fel pe baent wedi marw. Mae 5 o’r 6 goeden ar y gorchymyn yn Goed Ffawydd.
Roedd y map a roddwyd yn y gorchymyn yn gamarweiniol.
Pwy wnaeth gychwyn y Gorchymyn Cadw Coed? Roedd yr aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol wedi gofyn yn y Cyngor Sir ond ni allai enwi’r person. Esboniwyd, oherwydd polisi Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, y gallai fod yn amhosibl darganfod pwy wnaeth gychwyn y Gorchymyn Cadw Coed.
Nododd y Cadeirydd bod y llythyrau wedi’u hysgrifennu’n dda.

Penderfynodd y Cyngor Cymuned ysgrifennu llythyr i wrthwynebu’r Gorchymyn Cadw Coed arfaethedig. Dychwelodd Cynghorydd PP i’r cyfarfof.

17. Datblygiadau Ynni Waun Maenllwyd / Lan Fawr / Bryn Rhudd

Yn gyntaf darllenwyd llythyron pellach a dderbyniwyd ers y cyfarfod blaenorol yn nodi gwrthwynebiad trigolion Cwm Brefi am y datblygiadau ynni. Esboniodd y Cadeirydd y cynhaliwyd cyfarfod anffurfiol ar ddydd Llun, Tachwedd 17eg gyda chynghorau cymuned eraill a oedd yn gysylltiedig yn y Memorandwm Dealltwriaeth. Cafodd ei benderfynu yn ystod y cyfarfod na fyddai unrhyw gytundeb yn cael ei lofnodi a byddai’n well aros am gyfathrebu pellach gan mai prif bwynt a drafodwyd oedd bod y Memorandwm Dealltwriaeth gyfredol yn cynnwys y gair Drafft ar y dudalen flaen.
Gwnaeth aelodau o’r cyhoedd a oedd yn bresennol y pwyntiau canlynol –
Mae’r cynlluniau wedi’u cynnig mewn cyfuniad yn golygu y bydd nifer o dyrbinau gwynt yn yr ardal.
Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn siarad â’r tirfeddianwyr yng Nghwm Berwyn a Phontrhydfendigaid.
Maent yn gosod monitro Sŵn mewn gwahanol ardaloedd.
Beth fyddai’r effaith ar statws Awyr Dywyll Mynyddoedd y Cambrian?
Beth allai fod yn effaith ar dwristiaeth?
Bydd yr ymgynghoriad ar gyfer Datblygiadau Ynni Lan Fawr a Bryn Rhudd yn cau ar Ragfyr 18fed.
Cynhaliwyd sesiwn galw heibio gan Belltown ar 26/11/25 gyda dros 50 o bobl yn bresennol. Nodwyd y bydd ymgynghoriad arall yn digwydd.
Bu JG yn bresennol mewn cyfarfod ar-lein ynghylch y datblygiadau ar Ragfyr 3ydd.

6.I gadarnhau cofnodion cyfarfod cyffredinol Tachwedd 10fed 2025

Cynnigwyd i gadarnhau y cofnodion –  EJ   Eilwyd gan – JG

1188

7.Materion yn codi o’r cofnodion.

Safleoedd Bysus – anfonwyd e-bost ar ôl y cyfarfod blaenorol. Fodd bynnag, ni allai’r Cyngor ddarparu map i ddangos lleoliad y safleoedd bysus ar y daflen waith. Penderfynwyd bod yn rhaid dweud Na ar y daenlen a chynnwys Gorsaf Fysus Hyfrydle ar y daenlen.

Penderfynwyd cyhoeddi’r Polisi Diogelu ar wefan y Cyngor Cymuned.

Anfonwyd llythyr o ddiolch at EK ar ran y Cyngor Cymuned gan ei ddiolch am ei waith gydag gwahoddiad wedi’i ymestyn iddo ef a Lisa fel Clerc blaenorol i’r Cinio blynyddol.

Nodwyd gwerthfawrogiad yr aelodau bod y Cofnodion yn ddwyieithog gan gydfynd ag egwyddor iaith y Cyngor Cymuned.

8. Apwyntio Is-Gadeirydd

Yn dilyn ymddiswyddiad EK, roedd angen penodi Is-Gadeirydd newydd. Yn gyntaf, cynigodd EJ, wedi’i eilio gan JG, i RE aros yn Gadeirydd ar gyfer 2026-27 fel blwyddyn olaf Cyngor Cymuned Llanddewi-Brefi cyn ei uno â Chyngor Cymuned Llangeitho. Awgrymodd DLlJ, JG fel Is-Gadeirydd wedi’i eilio gan RE. Penodwyd JG yn Is-Gadeirydd y Cyngor Cymuned.

9. Adroddiad Ariannol

a) Cymeradwyo cydnabyddiaeth banc ar gyfer y cyfnod yn dod i ben ar Tachwedd 30ain 2025

b) Awdurdodi taliadau staff a thaliadau cyfrinachol: £249.00  Deddf Llywodraeth Leol 1972, a112 / Deddf Darpariaethau Amrywiol 1976 a.19.

c) Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol amrywiol parhaus
(i) Ffôn a band eang neuadd BT: £52.74 Deddf Darpariaethau Amrywiol (Misc. Provisions) LG 1976 c.19.
(ii) Taliadau banc 15/09 – 12/10 – £12.70 Deddf Llywodraeth Lleol 1972 a.111

d)  Awdurdodi Taliadau – Penderfynodd yr Aelodau gwneud y taliadau canlynol – Fferm Pant Ltd – Torri Perthi £177.60; G Jones Ad-daliad am goed £338.07; I.A Griffiths Beddfeini £600.00 (Deddf Llywodraeth Lleol 1972, s214)

e) Taliadau a dderbyniwyd – Ad-daliad Pabi Coch.

Penderfynwyd gwirio ar gyfriflenni blaenorol y Cyngor Cymuned a Phwyllgor y Neuadd a gosod y pwynt yma ar agenda y cyfarfod nesaf.

Derbyniwyd prisiau claddu Newydd. Hysbysu’r prisiau ar wefan y Cyngor Cymuned.

10. Adolygu Cyfnod Prawf y Clerc

Gadawodd y Clerc y cyfarfod. Wrth iddo ddychwelyd roedd yr aelodau yn gwerthfawrogi ei waith yn ystod y tri mis blaenorol ac yn cydnabod y gwaith a ofynnwyd yn ystod y trosglwyddiad, yn enwedig wrth baratoi anfonebau ac wrth sicrhau bod manylion cyswllt a gohebiaeth yn cael ei ddiweddaru gydag asiantaethau amrywiol.

11. Ystyried tendrau ar gyfer torri porfa 2026 & 2027

Roedd un cynnig wedi’i dderbyn erbyn y dyddiad cau am 5:00pm ar Ddydd Llun, Rhagfyr 8fed. Edrychodd yr aelodau drwy’r costau a phenderfynu derbyn y Cynnig. Bydd y Clerc yn hysbysu’r bobl berthnasol ynghylch y cynnig.

1189

12. Adroddiad Adran 6 Bioamrywiaeth

Bu trafodaethau gyda chymdeithasau gwahanol i gael gwybodaeth ynghylch materion bioamrywiaeth o fewn y pentref gyda’r adroddiad yn barod erbyn diwedd y mis. Cafodd ei benderfynu pasio’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf cyn anfon i Un Llais Cymru.

13. Gohebiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru

Ar ôl derbyn Llythyr Diffyg Cydymffurfiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd y Clerc wedi bod mewn cysylltiad â’r person perthnasol. Roedd y person hwn yn gwerthfawrogi ymateb cyflym y cyngor cymuned ac roedd yn ystyried estyniad arall gydag amserlen glir o’r gwaith i’w wneud. Rydym yn disgwyl rhagor o eglurhad gan y tîm Rheoli. Roedd e-bost pellach wedi’i anfon yn gynharach yn y dydd i sicrhau nad oedd y Cyngor Cymuned wedi colli unrhyw gyfathrebiad. Roedd GJ wedi archebu 10 coeden yn barod i’w plannu yn yr ardal – roedd y coed yn 8 coeden afal, 1 goeden ‘Crab Apple’ ac 1 coeden blodau ceirios.

15. Diweddariad Taith Tractor er budd elusen Ann Jones, Uchel Siryf Dyfed

Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sul, Rhagfyr 21ain. Paratoadau mewn llaw i greu’r Groto ac i gasglu’r anrhegion.

16. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

Cynhelir cyfarfod pellach ynglyn a’r mater yma. Cytunwyd i roi’r eitem ar agenda y cyfarfod nesaf.

18. Ceisiadau Cynllunio  a) A250891 – Gwyncoed Fawr, Llanddewi Brefi, SY25 6PD – Dim gwrthwynebiad

                            b) A250894 – Mountain Gate, Llanddewi Brefi, SY25 6NY – Dim gwrthwynebiad

20 Cystadleuaeth Nadolig

Canu carol o amgylch y goeden yn digwydd ar noson Canu Carolau CFFI a SYM  – Dydd Iau, Rhagfyr 18fed am 5:45yp. Roedd perchnogion newydd Tafarn Foelallt yn barod i weini y gwin poeth a roeddynt yn hapus i’r Cyngor ddefnyddio eu trydan i oleuo’r goeden. Gofyn i New Inn I gynorthwyo gyda gweini y gwin poeth. Elusen canu Carolau a ddewiswyd eleni yw Ambiwlans Awyr Cymru.
Cystadleuaeth Golau Nadolig – mae’r enwau i’w derbyn erbyn 9:00yp ar ddydd Gwener, Rhagfyr 12fed. Bydd y beirniadu yn digwydd dros y penwythnos 13eg a 14eg Rhagfyr gan enillwyr y llynedd – Gareth a Victoria. Roedd 4 ymgeisydd wedi’u derbyn eisoes.

21. Cinio Blynyddol

Nos Lun Rhagfyr 15fed yng nghegin Gareth.

22. Cynnig am rodd i Helfa Gogerddan

Yn dilyn cais gan Helfa Gogerddan, penderfynwyd cyfrannu £100 tuag at Helfa Gogerddan ar gyfer eu harddangosfa Gŵyl San Steffan ar y Sgwâr. Cynigwyd gan EJ. Eiliwyd gan DLlJ. Deddf Llywodraeth Lleol 1972 Adran.137

1190

23. Gohebiaeth

Roedd pob aelod wedi derbyn gohebiaeth ynghylch y materion canlynol:-

  1. Hyfforddiant am ddim i Cynghorwyr – Un Llais Cymru
  2. Cylchlythyr Rhifyn 2 2025 – Un Llais Cymru
  3. Prosiect Argyfwng Costau Byw  – Gwybodaeth ac Adnoddau – Un Llais Cymru
  4. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru – 21/01/2026
  5. EFFAITH – cylchlythyr allanol pob mis Llais  Cliciwch am y fersiwn Gymraeg.
  6. Cynlluniau Strategol Ynni Rhanbarthol Cymru
  7. Ymgynghori â rhanddeiliaid ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig – Mynyddoedd Cambria

https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/forest-planning-cynllunio-coedwig/forest-resource-plan-cambrian-mountains-2025/

24. Unrhyw fater Arall

Mae llawer o ddraeniau o gwmpas y pentref wedi rhwystro gan achosi i ddŵr lifo i lawr y bryniau i mewn i’r pentref. Gwneud cais i Gyngor Sir Ceredigion i lanhau’r draeniau.

Mae angen gwirio’r blwch Ffôn yn y pentref i sicrhau ei fod yn gweithio.


Mae angen edrych ble mae’r siacedi HI VIZ ar gyfer Taith Tractor.


Symud Mainc Brenin Charles o’r Ardal Gardd Wyllt i’r stondin bêl-droed i bobl eistedd wrth wylio’r pêl-droed.


Perth yn 9 Heol y Gorwydd wedi tyfu’n ormodol nes na all pobl gerdded ar y palmant. Clerc i gysylltu â Chymdeithas Tai Barcud.


Twll  – Mynedfa Pont Llanio i Pistyll Gwyn

Diweddariad ar ôl ymweliad swyddog Llwybrau Troed ar Ragfyr 3ydd. RE, DLlJ a PP wedi mynychu’r ymweliad. Nododd y Swyddog bod y llwybrau yn cael ei chadw’n dda a byddai’r Cyngor Sir yn cario allan gwaith ar un llwybr lle mae coed wedi tyfu’n uchel.

Yn anffodus, nid oedd y ddau aelod a enwyd i fynychu’r cyfarfod ar Dachwedd 27 wedi gallu mynychu’r cyfarfod.

22.Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

12/01/2026

Daeth y cyfarfod i ben am 21:45 pm.