Cynhelir Cyfarfod o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi Nos Fawrth 11 Ebrill 2023 am 7:30yh, yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA
1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Materion Personol.
3) Datgan diddordeb.
4) Cyfranogiad y cyhoedd
Mae adran 48 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth i’r cyhoedd gyfranogi yng nghyfarfodydd llawn cynghorau cymuned neu’r rhannau hynny o gyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd. Bydd y cadeirydd yn rhoi cyfle rhesymol i aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol gyflwyno sylwadau am unrhyw eitemau o fusnes ar yr agenda. Mae materion penodol i’w trafod i’w cyflwyno i’r Clerc 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd arferol a drefnwyd (fel arfer 2il ddydd Llun y mis).
5) Cadarnhau cofnodion 13 Mawrth 2023
6) Materion yn codi o’r cofnodion.
7) Adroddiad ariannol.
a) Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 31 Mawrth 2023
b) Awdurdodi taliadau:
i) Claddedigaethau
ii) Ad-dalu taliadau a wnaed gan aelodau. c) Taliadau staff a chyfrinachol
d) Taliadau cylchol:
i) BT – ffôn Neuadd a band eang
ii) Taliadau banc
iii) Dŵr Cymru
e) Taliadau a dderbyniwyd:
i) Derbynebau arian parod – Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ar gyfer Clwb
Ieuenctid
8) Derbyn adroddiad alldro cyllideb ar gyfer y flwyddyn 2022-23 ac adolygu’r gyllideb ar gyfer
2023-24.
a) ystyried cynigion ar gyfer ariannu sesiynau ‘Galw Heibio’ Ieuenctid yn neuadd y pentref o
17/04/2023.
b) adolygu Rheoliadau Ariannol y Cyngor (rheoliad 6.21) i ganiatáu fflôt arian i gefnogi sesiynau
galw heibio Ieuenctid.
9) Derbyn y Dystysgrif Archwilio ac adroddiad ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2022.
10) Adolygu ffioedd ar gyfer claddedigaethau o fis Mawrth 2023.
11) Gohebiaeth (copïau wedi’u hanfon ymlaen at yr aelodau).
a) Un Llais Cymru
i) DYDDIADAU HYFFORDDI EBRILL 2023
ii) Pwyllgor Ardal Ceredigion 18.4.23
iii) Datganiad Ysgrifenedig ar Ddiwygio Etholiadol
b) Hostel Ty’n Cornel – Richard Hollins
c) Diolch am 20- Newyddion – Rod King
d) Cais am Gymorth Cyllid – Cymorth Canser Macmillan
12) Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
13) Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
14) Ceisiadau Cynllunio
15) Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
16) Cwestiynau i’r Cadeirydd.
17) Dyddiad y cyfarfod nesaf
L. Zanoni, Clerc i’r Cyngor 04/04/2023
This page is also available in: English