Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi
Swydd: Clerc / Swyddog Ariannol Cyfrifol
Disgrifiad Swydd |
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n Cyngor Cymuned fel Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol. Mae’r swydd yn cynnwys:
• Mynychu cyfarfodydd misol y Cyngor Cymuned a chadw cofnodion cywir.
• Trefnu a mynychu unrhyw gyfarfodydd ychwanegol.
• Derbyn, paratoi a dosbarthu e-byst a llythyrau swyddogol.
• Cydlynu cyfarfodydd, cyflwyniadau ac ymweliadau.
• Rheoli cyllid y Cyngor Cymuned ac ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Ariannol Cyfrifol.
• Paratoi dogfennau ariannol gan gynnwys y precept a’r cyfrifon blynyddol.
• Derbyn a dosbarthu unrhyw ohebiaeth berthnasol.
• Paratoi posteri, hysbysebion ac adroddiadau.
• Sicrhau bod gwefan y Cyngor (WordPress) yn gywir ac yn gyfredol.
• Cynnal cyfathrebu rheolaidd gyda Chyngor Sir Ceredigion ac Un Llais Cymru.
• Cymryd cofnodion ar gyfer Pwyllgor y Neuadd a’r Cae Chwarae, cyhoeddi anfonebau llogi a chadw’r cyfrifon perthnasol.
• Helpu gyda materion y Neuadd a’r Cae Chwarae yn ôl yr angen.
• Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill fel y gofynnir gan y Cynghorwyr.
(Hyd y clywir yn wahanol, bydd y clerc claddu presennol yn gyfrifol am faterion claddu ym Mynwent y Plwyf a bydd yn cydlynu gyda’r Clerc ynghylch taliadau.)
Manyleb Person
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n dangos:
• Y gallu i gyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg a Saesneg, gan greu dogfennau dwyeithog cywir.
• Sgiliau trefnu rhagorol ac agwedd ofalus at waith.
• Y gallu i reoli amser yn effeithiol a chwrdd â therfynau amser.
• Profiad o waith cyllid, cyllidebu a chadw cyfrifon (yn fanteisiol).
• Sgiliau TG da, yn enwedig gyda WordPress a meddalwedd swyddfa.
• Dealltwriaeth gadarn o gyfrinachedd.
• Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm bach cymunedol.
Cyflog :
£13.50 yr awr / per hour
o leia 18 awr y mis / per month
Sut i Wneud Cais
Os ydych yn angerddol am gefnogi eich cymuned leol ac yn credu bod gennych y sgiliau a’r ymrwymiad i ymgymryd â’r rôl hon, anfonwch ebost i fynegi diddordeb at Cadeirydd y Cyngor Cymuned Rhodri Evans at
llanio1@hotmail.co.uk.
This page is also available in: English