Ym mis Gorffennaf ymwelodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru â Llanddewi Brefi fel rhan o’i daith flynyddol o gwmpas Cymru. Dechreuodd yr ymweliad gyda gwasanaeth yn Eglwys Dewi Sant lle clywodd ddatganiad gan ddisgyblion Ysgol Henry Richard, Campws Llanddewi Brefi. Wedi iddo alw yn Siop Brefi fe’i croesawyd i Dafarn y New Inn gan y perchennog, Yvonne Edwards.
Gan mai’r Tywysog yw sylfaenydd ‘Pub is the Hub’, cymdeithas sy’n cefnogi tafarndai gwledig i ehangu eu gwasanaethau fel canolbwynt bywyd cymunedol, fe’i gwahoddwyd i gwrdd â chynrychiolwyr grwoiau lleol sy’n defnyddio’r adnoddau a gynigir yn y New Inn. Ar ôl iddo dynnu peint iddo’i hun wrth y bar, aeth y Tywysog i gwrdd â staff, teulu a ffrindiau’r perchennog a threuliodd awry n sgwrsio ag aelodau Pub is the Hub , Helfa Gogerddan, Clwb Colomennod Clai Llanddewi Brefi a’r ardal, Syndicad Saethu Fforest a Llanio, y tîm dartiau, y clwb pêl droed lleol Sêr Dewi, y Clwb Ffrindiau, Grŵp Celf Canolbarth Cymru, cynhyrchwyr lleol Caws Hafod ac Alison Williams a’i Jam a Chyffaith yn ogystal â threfnwyr Ras Gŵyl Ddewi. Yna fe’i gwahoddwyd i roi’r pwyth olaf yn lliain ford Sefydliad y Merched Llanddewi Brefi a chlywodd sut y bu iddynt wylio Cyfarfod Blynyddol Canmlwyddiant yr NFWI llynedd a readrwyd o’r Neuadd Albert i’r Cwtch drwy gyfrwng technoleg taflunydd, sustem sain a gwasanaeth rhyngrwyd yn y New Inn. Gwnaed hyn yn bosib drwy’r prosiect i ehangu’r dafarn ag ystafell gyfarfod a bwyty gan Pub is the Hub. Mae bellach yn cynnwys taflunydd digidol a sustem sain a noddwyd yn rhannol dan nawdd Cyngor Ceredigion drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Busnesau Bach. Daeth y daith i ben wrth i’r Tywysog gystadlu yn erbyn aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi mewn ras ‘geiliogod’ yn y babell. Roedd plant ysgol y pentref yno i ffarwelio ag ef wrth iddo adael.Gellir gweld ac archebu lluniau o’r ymweliad yn y New Inn.
This page is also available in: English

















