Cynhelir Cyfarfod o’r Cyngor Nos Lun, 17 Ionawr 2022 yn y Ganolfan am 7.30 o’r gloch.
Dylai aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu e-bostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA
| 1 | Derbyn ymddiheuriadau. | |||
| 2 | Materion Personol. | |||
| 3 | Datgan buddiannau personol. | |||
| 4 | Cadarnhau cofnodion y Cyngor Cymuned 13 Rhagfyr 2021. | |||
| 5 | Materion yn codi o’r cofnodion. | |||
| 6 | Adroddiad ariannol. | |||
| a | Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 31 Rhagfyr 2021 | |||
| b | Cadarnhau taliadau. | |||
| i. Diodydd – digwyddiad Goleuadau Nadolig | ||||
| ii. Mins Peis – digwyddiad Goleuadau Nadolig | ||||
| iii. Cyflenwad pŵer coeden Nadolig | ||||
| iv. Prynu rhaglennydd gwresogi ar gyfer y Ganolfan Gymunedol | ||||
| v. Prynu ‘Keysafe’ ar gyfer Canolfan Gymunedol | ||||
| c | Taliadau cylchol. | |||
| i. BT – Ffôn y Neuadd a band llydan. | ||||
| d | Taliadau a dderbyniwyd. | |||
| i. Ad-daliadau am gyfraniadau cymdeithasau lleol I’r Lleng Brydeinig am dorchau pabi coch | ||||
| 7 | Cymeradwyo’r Praesept ar gyfer 2022-2023. | |||
| 8 | Cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol ar Wariant Refeniw ynglyn â darparu Gwasanaethau yn ymwneud â Thir Claddu a Mynwentydd am y flwyddyn sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2021. | |||
| 9 | Gohebiaeth. | |||
| a | Manylion ar sut i fynychu Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan a gynhelir ar y 9fed o Chwefror 2022. | |||
| b | E-bost gan Cymdeithas Mynyddoedd Cambria – Cynnig i geisio dynodi Mynyddoedd Cambria yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. | |||
| c | E-bost gan Comisiwn Ffiniau i Gymru; Trefniadau newydd ar gyfer y Gwrandawiadau Cyhoeddus. Mi fydd yr ail gyfnod ymgynghori yn agor ar 17 Chwefror ac yn cau ar 30 Mawrth. | |||
| d | Gwbodaeth ynghylch Cronfa Grant | |||
| e | Ymgynghoriad – Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: Canllawiau Statudol Drafft ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref. | |||
| f | E-bost ynghylch prosiect Dyfodol Cambrian Futures a ddaeth i ben Chwefror / Mawrth 2022. | |||
| g | Hywel Dda – Adroddiad-adborth ‘Adeiladu Dyfodol Iachach Ar ôl Covid-19’. | |||
| 10 | Adroddiadau. | |||
| 11 | Materion yn codi o Geredigion. | |||
| a | Cynllunio. | |||
| i. A211053 – Cae Pedr, Llanddewi Brefi; cais am osod carafan ar y safle fel aneddle dros dro tra’n adeiladu tŷ | ||||
| ii. A211064 –Morfa Isaf, Llanddewi Brefi, SY25 6RP; codi estyniad tŷ | ||||
| 12 | Adroddiad byr am y Neuadd a’r Cae Chwarae. | |||
| 13 | Ysgol Henry Richard. | |||
| 14 | Unrhyw fater arall. | |||
| 15 | Dyddiad y cyfarfod nesaf. | |||
This page is also available in: English