Sul y Cofio 2020

Cafodd torchau eu gosod wrth y gofeb bore yma gan Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi ac Ysgol Henry Richard.

  • Llanddewi Brefi War Memorial

Dyma enwau y rhai a aberthodd eu bywydau dros ein gwlad yn y ddau ryfel byd:

  • Private David B. Jones, Graigddu; 2nd Welsh Fusiliers. Ar goll yn Dardanelles, Ebrill 1915  – Yn 25 oed
  • Lance Corporal Morgan D. Price, Grey House; Royal Welsh Fusiliers, Loos. Medi 25, 1915 – Yn 39 Oed.
  • Corporal Thomas John Davies, Tymawr; 15th Welsh Regiment, Mametz Wood. Gorffenaf 10, 1916. – Yn 25 Oed.
  • Captain David Jones, Wern; 10th Welsh Regiment, Mametz Wood. Gorffenaf 12, 1916 – Yn 23 Oed.
  • Corporal  John Pates, Coedygof; South Lancashire Regiment, Mametz Wood. Gorffenaf 15,  1916 – Yn 26 Oed.
  • Private William Daniel Williams, Bryndewi; South Wales Borderers, Mametz Wood. Gorffenaf 25, 1916. – Yn 24 Oed
  • Private David Lloyd, Esgairgarn; 15th Cheshire Regiment, Guillemont. Awst 20, 1917. – Yn 26 Oed
  • Private Evan Davies, Rhoslwyn; Oxfordshire and Buckinghamshire Light Infantry, St Quentin. Mawrth 21, 1918 – Yn 22 Oed.
  • Sergeant John Morgan Davies, Brynteify; Royal Welsh Fusiliers, Bouzincourt. Ebrill 22, 1918 – Yn 22 oed.
  • Sapper Daniel Evan Evans, Maesyfelin; Royal Engineers, Etaples. Hydref 12, 1918 — Yn 29 oed.
  • Private Zaccheus Williams, Brynambor; 2nd 19th Battalion London Regiment, A fu farw yn Yr Aifft. Hydref 12, 1918. Yn 32 Oed.
  • Private John H. Lloyd,  Rhysgog; Labour Corps. A fu farw yn Ysbyty Wrecsam. Tachwedd 26, 1918 – Yn 36 Oed.
  • Signalman Albert Ernest William Taplin, Clothhall Fach; Royal Navy, Ysbyty Lerpwl. Nadolig 1940 –  Yn 21 Oed.
  • Gunner David Thomas Jones, Waunclawdd; Royal Artillery, Crete. Mehefin 2, 1941 – Yn 25 Oed.
  • Marine George Randolph Jones, Hillside; Royal Marines Tobruk. Medi 14, 1942. – Yn 28 Oed.
  • Lance Corporal John William Jones, Rockhouse; Queen’s Royal Regiment, Yr Eidal. Tachwedd 24, 1942 – Yn 28 Oed.
  • Lance Sergeant Thomas Jones, Wern; East Surrey Regiment, Tunisia. Ebrill 13, 1943. – Yn 24 Oed.

Cofadail i’n cyfoedion – iaith hiraeth
Erys byth yn ffyddlon;
Dolen serch – ardal yn sôn
Am aberth mawr ei meibion.

“Ni heneiddiant hwy, fel ni a adawyd,
Ni ddwg oed iddynt ludded, na’r blynyddoedd gollfarn mwy.
Pan êl yr haul i lawr, ac ar wawr y bore,
ni a’u cofiwn hwy,
ni a’u cofiwn hwy.”

“They shall grow not old, as we that are left grow old,
Age shall not weary them, nor the years condemn.
At the going down of the sun, and in the morning,
We will remember them,
We will remember them”

 

This page is also available in: English