Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi
Dydd Llun Mai 9fed 2022 am 7pm yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hodffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA:
- Ethol Cadeirydd i’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2022/23.
- Ethol is Gadeirydd am y flwyddyn 2022/23.
- Derbyn Datganiad Derbyn Swydd gan y Cadeirydd.
- Derbyn Datganiad Derbyn Swydd gan y Cynghorwyr.
- Derbyn a chadarnhau cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Cymuned 17 Mai 2021 (Atodwyd)
- Derbyn adroddiad blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 2021/22 (I’w e-bostio cyn y cyfarfod).
- Derbyn datganiadau diddordeb/rhagfarn.
- Apwyntio Pwyllgorau a a Gweithgorau:
- Pwyllgor Rheoli’r Neuadd.
(pob Cynghorydd yn aelod a’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd yn cadeirio).
- Gweithgor bioamrywiaeth (Dyletswydd dan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 Adran 6. ).
- Pwyllgor Rheoli’r Neuadd.
- Apwyntio Cynrychiolwyr
- Pwyllgor Un Llais Cymru (ar hyn o bryd Cyng E Kincaid and E James).
- Apwyntio Ymddiriedolwyr
- Ymddiriedolaeth y Mawndiroedd (Rhif elusen: 500142).
- Cyfradd ad-dalu. Adolygu’r canlynol:
- Taliad yr awr – Clerc y Fynwent.
- Lwfans Cadeirydd.
- Lwfans aelodau
- Adolygu taliadau a chostau claddu.
- Apwyntio Archwilydd Mewnol 2022/23.
- Adolygu’r cofrestr asedau sefydlog (gweler cofrestr wedi ei atodi).
- Adolygu trefniadau’r cyhoedd mewn cyfarfodydd Cyngor Cymuned (yn ol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 48).
- Adolygu a derbyn Rheolau sefydlog a Rheoliadau Ariannol.
- Penderfynu a oes angen adolygu trefn gwyno’r Cyngor Cymuned.
- Adolygu Cofrestr Asesiad Risg y Cyngor Cymuned (gweler Cofrestr AR 2021/22 wedi ei atodi).
- Adolygu trefniadau Yswiriant y Cyngor.
- Adolygu aelodaeth y Cyngor i Un Llais Cymru.
- Adolygu trefniadau’r Cyngor a mabwysiadu polisiau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data. Freedom of Information Act 2000 and the Data Protection Act 2018 (GDPR).
- Adolygu a derbyn poliisau Amddiffyn a Diogelu cyngor Cymuned Llanddewi Brefi.
- Penderfynu amser a lleoliad cyfarfodydd y cyngor llawn hyd at/gan gynnwys y Cyfarfod Blynyddol y Cyngor llawn nesaf.
This page is also available in: English