Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 25/04/2022

PDF Lawrlwytho PDF

Cynhelir Cyfarfod o’r Cyngor Nos Lun, 25 Ebrill 2022 yn y Ganolfan am 7.30 o’r gloch.

Dylai aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu e-bostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

  1. Derbyn ymddiheuriadau.
  2. Materion Personol.
  3. Datgan buddiannau personol.
  4. Cadarnhau cofnodion y Cyngor Cymuned 28 Mawrth 2022.
  5. Materion yn codi o’r cofnodion.
  6. Nodi canlyniadau etholiadau diwrthwynebiad.
  7. Cadarnhau trefniant parhaus dros dro gwneud dyletswyddau’r Clerc gan y Swyddog Priodol a’r Swyddog Cyllid Cyfrifol.
  8. Ystyried canllawiau statudol draft a wnelo a’r adroddiad blynyddol blwyddyn ariannol 2021-2022.
  9. Ystyried GDPR a pholisiau Diogelu.
  10. Cytuno ar y cynigion a wnelo â hen gloch yr ysgol.
  11. Adolygu a llofnodi diweddariad y cytundeb ar gyfer Cynnal y Cardi LEADER Grant. 
  12. Adroddiad ariannol.
    1. Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 31 Mawrth 2022. 
    2. Cadarnhau taliadau.
      1. Ad-daliadau i aelodau.
      2. Taliadau a wnelo â grant prosiect Leader.
      3. Ffioedd ceisiasau cynllunio – Prosiect hen gloch yr ysgol.
    3. Taliadau cylchol.
      1. BT – Ffôn y Neuadd a band llydan. 
    4. Taliadau a dderbyniwyd.
    5. Cytuno taliad a wnelo â’r prosiect LEADER.
    6. Ystyried cynigion bancio rhyngrhwyd ac electronaidd.
  13. Gohebiaeth.
    1. Cadarnhau preaesept 2022-23 a Grant Mynwent 20/21.
    2. Gwybodaeth am y Côd Ymddygiad a datgan  derbyn swydd.
    3. E-bost o CAVO – Woodland Wellbeing Activities.
    4. Gwybodaeth am Ddosbarthu bwyd Cymru Gymunedol.
    5. Cyngor y Celfyddydau – Noson Allan.
    6. E-bost gan ddeiliad – Cerdded cŵn o gwmpas y Ganolfan Gymuned.
    7. Hywel Dda CHC – Cylchlythyr.
    8. Pryor & Rickett Silviculture – Cais i roi cyflwyniad am greu coedwig.
  14. Adroddiad gan yr Heddlu Cymunedol.
  15. Ystyried atgyweirio ffens – Pynfarch/ Ash Street/ B4343.
  16. Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion. 
  17. Cais Cynllunio.
    1. I nodi’r cymeradwyaethau canlynol:
      1. A220085 – Gosod mast 25m; Tir yn Garn Felen, gerllaw fordd Coedwigaeth Bryn Du, Tregaron.
  18. Adroddiad y Pwyllgor Neuadd a’r Cae Chwarae.
  19. U.F.A.
  20. Dyddiad y cyfarfod nesaf. 

This page is also available in: English