Cynhelir Cyfarfod o’r Cyngor Nos Lun, 13 Rhagfyr 2021 yn y Ganolfan am 7.30 o’r gloch.
Dylai aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu e-bostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA
| 1 | Derbyn ymddiheuriadau. | |||
| 2 | Materion Personol. | |||
| 3 | Datgan buddiannau personol. | |||
| 4 | Cadarnhau cofnodion y Cyngor Cymuned 8 Tachwedd 2021. | |||
| 5 | Materion yn codi o’r cofnodion. | |||
| 6 | Trafod ail-hysbysebu swydd y clerc. | |||
| 7 | I ystyried tendrau ar gyfer y cytundeb Torri Porfa 2022. | |||
| 8 | Adroddiad ariannol. | |||
| a | Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 30 Tachwedd 2021 | |||
| b | Cadarnhau taliadau. | |||
| i. Amserydd Golau Nadolig | ||||
| c | Taliadau cylchol. | |||
| i. BT – Ffôn y Neuadd a band llydan. | ||||
| d | Taliadau a dderbyniwyd. | |||
| i. Ad-daliadau am gyfraniadau cymdeithasau lleol I’r Lleng Brydeinig am dorchau pabi coch | ||||
| 9 | Ystyried cynigion cyllideb ar gyfer 2022-2023. | |||
| 10 | Adolygu a chymeradwyo Asesiad Risg y Cyngor. | |||
| 11 | Adolygu a chymeradwyo Cofrestr Asedau’r Cyngor. | |||
| 12 | Gohebiaeth. | |||
| a | Llythyr yn gofyn am gyfraniad ariannol tuag at Urdd Eisteddfod Mai 2022. | |||
| b | E-bost – Y Cynllun Gerddi Cenedlaethol – Gwobr Gerddi Cymunedol. | |||
| c | Ambiwlans Awyr Cymru – Apêl Cyngor Cymuned 2021. | |||
| d | Llythyr gan LLC yn cadarnhau terfyn gwariant y Cyngor 2022-23 gyda disgresiwn. | |||
| e | Ceredigion CC – Tiroedd Claddu 2020-21 Ffurflen Gais. | |||
| f | Gwahoddiad gan SyM Llanddewi Brefi i’w cyfarfod ar 19 Ionawr 2022. Pwrpas y cyfarfod yw egluro rôl y Cyngor Cymuned a phrosiectau. | |||
| g | GIG Hywel Dda (CHC) – Holiadur Cynllunio 2022-2023. | |||
| h | Tîm polisi Ofcom Public Policy team – Ymgynghoriad ar newid i rwymedigaeth byd-eang y gwasanaeth ffôn. | |||
| i | E-bost gan Cymdeithas Mynyddoedd Cambria – Cynnig i geisio dynodi Mynyddoedd Cambria yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. | |||
| j | E-bost gan Cyngor Sir Ceredigion- Arolwg i nodi Adeiladau Cymunedol lleol a allai o bosibl weithredu fel Canolfannau Gorffwys mewn argyfwng. | |||
| k | Llythr gan Bwyllgor y Mawndiroedd. | |||
| 13 | Adroddiadau. | |||
| 14 | Materion yn codi o Geredigion. | |||
| a | Cynllunio. | |||
| i. A210950 – Tir ger capel Bethlehem ; cais am osod carafan ar y safle fel aneddle dros dro tra’n adeiladu tŷ | ||||
| ii. A210984 – Tir ger Lôn Garth, Llanddewi Brefi, SY25 6RW; Cais i adeiladu tŷ ar wahân gyda garej | ||||
| 15 | Adroddiad byr am y Neuadd a’r Cae Chwarae. | |||
| 16 | Cystadleuaeth y Golau Nadolig a threfniadau’r Ŵyl. | |||
| 17 | Ysgol Henry Richard. | |||
| 18 | Unrhyw fater arall. | |||
| 19 | Dyddiad y cyfarfod nesaf. | |||
This page is also available in: English