Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 13/03/2023

Cynhelir Cyfarfod o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi Nos Lun 13 Mawrth 2023 am 7:30yh,
yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio
web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Materion Personol.
3) Datgan diddordeb.
4) Cyfranogiad y cyhoedd
Mae adran 48 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth i’r cyhoedd gyfranogi yng
nghyfarfodydd llawn cynghorau cymuned neu’r rhannau hynny o gyfarfodydd sy’n
agored i’r cyhoedd. Bydd y cadeirydd yn rhoi cyfle rhesymol i aelodau o’r cyhoedd sy’n
bresennol gyflwyno sylwadau am unrhyw eitemau o fusnes ar yr agenda. Mae materion
penodol i’w trafod i’w cyflwyno i’r Clerc 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd arferol a drefnwyd
(fel arfer 2il ddydd Llun y mis).
5) Cadarnhau cofnodion 13 Chwefror 2023
6) Materion yn codi o’r cofnodion.
7) Adroddiad ariannol.
a) Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 28 Chwefror 2023
b) Awdurdodi taliadau:
i) Ffioedd Archwilio Cymru ar gyfer 2020/21
ii) EXL Windows Cymru – amnewid clo drws y neuadd
c) Taliadau staff a chyfrinachol
d) Taliadau cylchol:
i) BT – ffôn Neuadd a band eang
ii) Taliadau banc
e) Taliadau a dderbyniwyd:
i)
8) Derbyn adroddiad o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28/02/2023 gyda Chynghorwyr, Gwirfoddolwyr, a defnyddwyr sesiynau ‘Galw Heibio’ Ieuenctid yn y neuadd bentref, ac
a) ystyried cynnig i atal sesiynau am gyfnod o 6 wythnos wedi hynny. 06/03/2023, a darparu rhaglen o weithgareddau o 17/04/2023.
b) Ystyried cais am Grant SPAR ‘Community Cash Back’
9) Ystyried gwybodaeth wedi’i diweddaru ynghylch rhwymedigaethau preswylwyr mewn perthynas â dynodiad Parth Cadwraeth Ardal 4 yn Llanddewi Brefi trwy Wefan y Cyngor Cymuned.
10) Cymeradwyo cais blynyddol i adnewyddu aelodaeth Un Llais Cymru ar gyfer 23-24.
11) Gohebiaeth (copïau wedi’u hanfon ymlaen at yr aelodau).
a) Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
i) Adroddiad– Chwefror 2023
b) Cyngor Sir Gaerfyrddin
i) Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033
c) Un Llais Cymru
i) Cais am aelodau ar gyfer Partneriaeth Adfywio Economaidd Leol Cynnal y Cardi
ii) DYDDIADAU HYFFORDDIANT CHWEFROR A MAWRTH 2023
iii) FW: Request for Nominations for the Kings New Year 2024 Honours
iv) Membership of One Voice Wales 2023-2024 -Llanddewi Brefi
v) The Value of Planning and how it positively impacts our Welsh Communities – Online Event
d) 20’s Plenty.org
i) Diolch am 20
e) Caron360
i) Datblygiad newydd Caron360 a sut gall effeithio ar bobol ardal Llanddewi Brefi
f) Cyngor Sir Ceredigion
i) Gwanwyn Glân 2023
g) Hywel Dda
i) Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar leoliad ysbyty gofal brys a wedi’i gynllunio newydd
12) Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
13) Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
14) Ceisiadau Cynllunio
15) Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
16) Cwestiynau i’r Cadeirydd.
17) Dyddiad y cyfarfod nesaf

This page is also available in: English