Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 09/01/2023

Cynhelir Cyfarfod o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi Nos Lun 09 Ionawr 2023 am 7:30yh, yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Materion Personol.
3) Datgan diddordeb.
4) Cyfranogiad y cyhoedd
Mae adran 48 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth i’r cyhoedd gyfranogi yng nghyfarfodydd llawn cynghorau cymuned neu’r rhannau hynny o gyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd. Bydd y cadeirydd yn rhoi cyfle rhesymol i aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol gyflwyno sylwadau am unrhyw eitemau o fusnes ar yr agenda. Mae materion penodol i’w trafod i’w cyflwyno i’r Clerc 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd arferol a drefnwyd (fel arfer 2il ddydd Llun y mis).
5) Trafod Cynnig ynghylch Cynllun Creu Coetir Blaendoethie:
Bydd Arwel Davies yn bresennol o Tilhill Forestry, i ateb ymholiadau gan aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd, er mwyn galluogi adborth gan y gymuned i gael ei gyflwyno ar ôl y cyfarfod fel rhan o’r ymgynghoriad cychwynnol.
6) Cadarnhau cofnodion 22 Rhagfyr 2022
7) Materion yn codi o’r cofnodion.
8) Ystyried a ddylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu gwahardd o’r cyfarfod pryd ystyried yr eitem canlynol (9 o fusnes (yn unol ag a1(2) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960, ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd).
9) Adolygu tâl staff yn unol ag NALC 2022-2023 dyfarniad cyflog cenedlaethol.
10) Ystyried argymhellion Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Chwefror 2023.
11) Ystyried cynigion cyllideb ar gyfer 2023-2024.
12) Cymeradwyo’r Praesept ar gyfer 2023-2024.
13) Cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol ar Wariant Refeniw ynglyn ac darparu Gwasanaethau yn ymwneud ac Thir Claddu a Mynwentydd am y flwyddyn sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2022.
14) Adolygu a chymeradwyo Asesiad Risg y Cyngor.
15) Adolygu a chymeradwyo Cofrestr Asedau’r Cyngor.
16) Adroddiad ariannol.
a) Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 4 Ionawr 2023
b) Cadarnhau taliadau:
i) Taliadau i staff a thaliadau chyfrinacholi)
ii) Gwin cynnes – digwyddiad Nadolig
iii) Cyflenwad pŵer – coeden Nadolig
c) Taliadau cylchynnol:
i) BT – Neuadd. Ffôn a band llydan.
ii) Taliadau banc.
d) Taliadau a dderbyniwyd
i) Taliad grant LEADER – CSC
17) Gohebiaeth (danfonwyd i aelodau).
a) Comisiwn Elusennau
i) Fuel Allotments- Ymateb y Comisiwn Elusennau i’r ymchwiliad
b) Cyngor Sir Ceredigion
i) Ffurflen Flynyddol ar Wariant Refeniw – Thir Claddu a Mynwentydd.
18) Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
19) Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
20) Ceisiadau Cynllunio.
a) I nodi’r cymeradwyaethau canlynol:
i) A220324 – dolen i’r dogfennau Replace existing front entrance door. Renew existing render finish to the gable wall. Replace existing central heating system. Install Mechanical Extract Ventilation fan units. 3 Penuwch Street, Llanddewi Brefi. Caniatawyd gydag Amodau.
b) Ystyried y ceisiadau canlynol:
i) -.
21) Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
22) Cwestiynau i’r Cadeirydd.
23) Dyddiad y cyfarfod nesaf.

L Zanoni, Clerc i’r Cyngor

04/01/2023


This page is also available in: English