Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 13/12/2021

PDF Lawrlwytho PDF

Cynhelir Cyfarfod o’r Cyngor Nos Lun, 13 Rhagfyr 2021 yn y Ganolfan am 7.30 o’r gloch.

Dylai aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu e-bostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1 Derbyn ymddiheuriadau.
2 Materion Personol.
3 Datgan buddiannau personol.
4 Cadarnhau cofnodion y Cyngor Cymuned 8 Tachwedd 2021.
5 Materion yn codi o’r cofnodion.
6 Trafod ail-hysbysebu swydd y clerc.
7 I ystyried tendrau ar gyfer y cytundeb Torri Porfa 2022.
8 Adroddiad ariannol.
  a Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 30 Tachwedd 2021
  b Cadarnhau taliadau.
    i. Amserydd Golau Nadolig  
  c Taliadau cylchol.
    i. BT – Ffôn y Neuadd a band llydan.  
  d Taliadau a dderbyniwyd.
    i. Ad-daliadau am gyfraniadau cymdeithasau lleol I’r Lleng Brydeinig am dorchau pabi coch  
9 Ystyried cynigion cyllideb ar gyfer 2022-2023.
10 Adolygu a chymeradwyo Asesiad Risg y Cyngor.
11 Adolygu a chymeradwyo Cofrestr Asedau’r Cyngor.
12 Gohebiaeth.
  a Llythyr yn gofyn am gyfraniad ariannol tuag at Urdd Eisteddfod Mai 2022.
  b E-bost – Y Cynllun Gerddi Cenedlaethol – Gwobr Gerddi Cymunedol.
  c Ambiwlans Awyr Cymru – Apêl Cyngor Cymuned 2021.
  d Llythyr gan LLC yn cadarnhau terfyn gwariant y Cyngor 2022-23 gyda disgresiwn.
  e Ceredigion CC – Tiroedd Claddu 2020-21 Ffurflen Gais.
  f Gwahoddiad gan SyM Llanddewi Brefi i’w cyfarfod ar 19 Ionawr 2022. Pwrpas y cyfarfod yw egluro rôl y Cyngor Cymuned a phrosiectau.
  g GIG Hywel Dda (CHC) – Holiadur Cynllunio 2022-2023.
  h Tîm polisi Ofcom Public Policy team – Ymgynghoriad ar newid i rwymedigaeth byd-eang y gwasanaeth ffôn.
  i E-bost gan Cymdeithas Mynyddoedd Cambria – Cynnig i geisio dynodi Mynyddoedd Cambria yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
  j E-bost gan Cyngor Sir Ceredigion- Arolwg i nodi Adeiladau Cymunedol lleol a allai o bosibl weithredu fel Canolfannau Gorffwys mewn argyfwng.
  k Llythr gan Bwyllgor y Mawndiroedd.
13 Adroddiadau.
14 Materion yn codi o Geredigion.
  a Cynllunio.
    i. A210950 – Tir ger capel Bethlehem ; cais am osod carafan ar y safle fel aneddle dros dro tra’n adeiladu tŷ  
    ii. A210984 – Tir ger Lôn Garth, Llanddewi Brefi, SY25 6RW; Cais i adeiladu  tŷ ar wahân gyda garej  
15 Adroddiad byr am y Neuadd a’r  Cae Chwarae.
16 Cystadleuaeth y Golau Nadolig a threfniadau’r Ŵyl.
17 Ysgol Henry Richard.
18 Unrhyw fater arall.
19 Dyddiad y cyfarfod nesaf.

This page is also available in: English