Cynnal Llanddewi Brefi

Cefnogwyd prosiect Cynnal Llanddewi Brefi gan Cynnal y Cardi drwy Gronfa Grant LEADER, a’i nod yw adfywio gweithgarwch cymunedol. 

Fel Ymddiriedolwr Unigol Elusen Neuadd y Pentref, cynhaliodd Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi gyfarfodydd gyda defnyddwyr y Neuadd i geisio canfod atebion i’r heriau a wynebwyd ganddynt yn dilyn aflonyddwch a chyfyngiadau yn ystod y pandemig COVID, ac archwilio ffyrdd i gefnogi  adfywio gweithgareddau grŵp.

Cymerodd cynrychiolwyr o 10 grŵp lleol ran mewn trafodaethau cychwynnol. Daeth i’r amlwg fod diffyg mynediad i dechnoleg ddigidol a chyfyngiadau o ran y dulliau i gyfranogi-o- bell yn ffactorau cyffredin ac allweddol. Mae gofod ac offer yn y Ganolfan Gymunedol sy’n cael eu tanddefnyddio, a chynigiwyd cynllun peilot i ddarparu lle cymdeithasol anffurfiol i bobl ifanc, i ddenu defnyddwyr newydd ac ailgysylltu â phobl ifanc.

Bydd system arddangos bwrdd gwyn rhyngweithiol, ynghyd â chamera fideo-gynadledda/meicroffon/system siaradwr wedi eu hariannu gan Cynnal y Cardi yn darparu cyfleuster cyfrifiaduro sgrin gyffwrdd/hybrid. Bydd yn galluogi defnyddwyr i gysylltu eu dyfeisiau eu hunain i rannu deunydd a chwilio cynnwys.  

A picture containing text, computer, display

Description automatically generated

Bydd sesiynnau ieuenctid wythnosol yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr ac ar gael i unrhyw un 11-19 oed gyda mynediad am ddim.  Bydd gweithgareddau yn cynnwys  pŵl/tenis bwrdd/snwcer a WiFi, cyfleusterau te/coffi. Bydd y bwrdd Smart rhyngweithiol ar gael i ddarparu cerddoriaeth a ffrydio neu gynnig gwasanaethau cyfrifiadurol.

A picture containing timeline

Description automatically generated

Bydd yr holl gymdeithasau sy’n ymwneud â Chynnal Llanddewi Brefi yn cefnogi’r prosiect trwy gyfrannu eu horiau gwirfoddoli. Wrth wirfoddoli a hyfforddi bydd oedolion a ieuenctid yn  meithrin cyfleon rhwydweithio rhwng grwpiau. Byddant yn rhannu gwybodaeth ac arferion arloesol wrth ddefnyddio’r cyfleusterau digidol newydd.

Darparodd egwyddorion LEADER a’r blaenoriaethau strategol lleol fframwaith ddelfrydol ar gyfer y prosiect, gan ei gwneud yn bosib i’r gymuned ymateb i heriau lleol trwy gydweithio ac arloesi.

This page is also available in: English