
Mae Pwyllgor Neuadd Llanddewi Brefi wedi derbyn grant o £9,300 wrth Gronfa’r Loteri Genedlaethol. Y nod yw idod â’r gymuned at ei gilydd drwy ddigwyddiadau a phrosiectau yn ac o gwmpas y pentref fel rhan o ddathliadau’r Jiwbilî. Y syniadau mor belled yw ‘Diwrnod Mawr Dewch â’ch Picnic’, Perllan Gymunedol yn gofeb fyw i’r dathlu a chreu Dôl o Flodau Gwyllt… ond mae’r penderfyniadau yn eich dwylo chi.
Rhai gweithgareddau llwyddiannus fu carnifal canol haf a stondinau/arddangosfeydd. Y bwriad yw gwario’r arian dros gyfnod o flwyddyn er mwyn dod â’r gymuned ynghyd ac adfywio diddordeb yn y Neuadd, y Ganolfan Gymuned a’r cae chwarae fel caonlbwynt i ryngweithio cymunedol.
Gweler y bocsys syniadau yn Siop Brefi a’Thafarn y New Inn neu e-bostiwch eich syniadau i neuaddhall@llanddewibrefi.org.
Llanddewi Brefi Village Hall and Recreation Ground
This page is also available in: English