Hysbysiad Archwilio 2022

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 

Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022

  1. Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2022
  2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Emmanuel Kincaid

Swyddog Ariannol Cyfrifol Dros Dro

Glyn, Llanddewi Brefi, Tregaron SY25 6RL.

Rhwng yr oriau o  10:00  a  16:00 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener

Yn dechrau ar                 4 Gorffennaf 2022

Ac yn dod i ben ar                   29 Gorffennaf 2022

  1. O 20 Medi 2021 hyd nes bod yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
  • yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
  • yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ neu drwy e-bost yn archwiliadcyngorcymunedol@archwilio.cymru.

  1. Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Y sefyllfa sylfaenol

Drwy gyfraith, mae gan unrhyw berson â diddordeb yr hawl i archwilio cyfrifon y Cyngor. Os oes gennych hawl ac os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r cyngor lleol, yna mae gennych chi (neu eich cynrychiolydd) yr hawl hefyd i ofyn cwestiynau amdanynt i’r Archwilydd Cyffredinol neu i herio eitem sydd wedi ei chynnwys yn y cyfrifon.

Yr hawl i archwilio’r cyfrifon

Pan fydd corff llywodraeth leol wedi cwblhau ei gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid iddo hysbysebu eu bod ar gael i bobl edrych arnynt. Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o’ch bwriadau, bydd gennych wedyn 20 diwrnod gwaith i edrych drwy’r cyfrifon a’r dogfennau ategol. Cewch wneud copïau o’r cyfrifon a’r rhan fwyaf o’r dogfennau perthnasol gan y corff. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu tâl copïo.

Yr hawl i ofyn cwestiynau i’r archwilydd ynglŷn â’r cyfrifon

Cwestiynau ynglŷn â’r cyfrifon yn unig y cewch eu gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ateb cwestiynau ynghylch polisïau, cyllid, gweithdrefnau’r corff na dim arall nad yw’n gysylltiedig â’r cyfrifon. Rhaid i’ch cwestiwn ymwneud â’r cyfrifon sy’n destun yr archwiliad. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddweud a yw’n credu bod rhywbeth y mae’r cyngor wedi’i wneud, neu eitem yn ei gyfrifon, yn gyfreithlon neu’n rhesymol.

Yr hawl i fynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon

Os byddwch yn tybio bod y corff wedi gwario arian na ddylai fod wedi ei wario, neu fod rhywun wedi achosi colled i’r corff yn fwriadol neu drwy ymddwyn yn anghyfrifol, cewch fynegi gwrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol drwy anfon ‘hysbysiad o wrthwynebiad’ ffurfiol, y mae’n rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, i’r cyfeiriad isod. Rhaid i chi ddweud wrth yr Archwilydd Cyffredinol pam yr ydych yn gwrthwynebu. Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddod i benderfyniad ynglŷn â’ch gwrthwynebiad. Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad hwnnw, cewch apelio i’r llys.

Cewch wrthwynebu hefyd os byddwch yn meddwl bod rhywbeth yn y cyfrifon y dylai’r Archwilydd Cyffredinol ei drafod gyda’r Cyngor neu ddweud wrth y cyhoedd amdano mewn ‘adroddiad buddiant cyhoeddus’. Unwaith eto, rhaid i chi roi eich rhesymau yn ysgrifenedig i’r Archwilydd Cyffredinol yn y cyfeiriad isod. Yn y sefyllfa honno, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau. Fel arfer, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoi rhesymau dros ei benderfyniad, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny ac ni chewch apelio i’r llys. Ni chewch ddefnyddio’r ‘hawl i wrthwynebu’ hon i wneud cwyn bersonol neu hawliad yn erbyn y corff.

Os byddwch yn dymuno gwneud cwyn neu hawliad personol, dylech fynd â’r cwynion hyn i’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol, Canolfan y Gyfraith leol, neu eich cyfreithiwr. Efallai y cewch hefyd gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os byddwch yn credu bod Aelod o’r corff wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau. Gellir cysylltu â’r Ombwdsmon yn: 1 Heol yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ, (ffôn: (01656) 641 150).

Beth arall y gellwch ei wneud

Yn hytrach na gwrthwynebu, gellwch roi gwybodaeth i’r Archwilydd Cyffredinol sy’n berthnasol i’w gyfrifoldebau. Er enghraifft, gellwch sôn wrth yr Archwilydd Cyffredinol os byddwch yn meddwl bod rhywbeth o’i le ar y cyfrifon neu am wastraff ac aneffeithlonrwydd yn y ffordd y mae’r Cyngor yn rhedeg ei wasanaethau. Nid oes rhaid i chi ddilyn unrhyw derfynau amser na gweithdrefnau penodol. Nid oes rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi adroddiad manwl i chi ar ei ymchwiliad i’r materion a godwyd gennych, ond fel arfer bydd yn dweud wrthych beth yw’r canlyniad cyffredinol. 

Gair terfynol

Rhaid i gyrff llywodraeth leol, ac felly trethdalwyr lleol, dalu costau delio â chwestiynau a gwrthwynebiadau. Pan fydd yr Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu a ddylid mynd â’ch gwrthwynebiad ymhellach, un o gyfres o ffactorau y mae’n rhaid iddo eu hystyried yw’r costau fydd yn gysylltiedig. Ni fydd yn parhau â’r gwrthwynebiad ond os bydd er budd y cyhoedd i wneud hynny. Os byddwch yn apelio i’r llys, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am yr achos eich hun.

Os byddwch yn dymuno cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol, ysgrifennwch at: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ.

This page is also available in: English